Mae gennym hanes hir a nodedig o waith ymchwil ers sefydlu Prifysgol Bangor ym 1884. Roedd Llenyddiaeth Saesneg yn un o ddisgyblaethau sylfaenol y sefydliad o’r dechrau ac ers hynny rydym wedi ehangu ein diddordebau ymchwil i gelfyddydau creadigol eraill.
Mae gennym ddiwylliant ymchwil ffyniannus a chyfeillgar sy'n rhyngddisgyblaethol, yn gydweithredol, yn greadigol ac yn feirniadol. Ein prif gryfderau yw gwaith ein staff yn y meysydd canlynol:
- Ffilm Americanaidd;
- Diwylliant Digidol;
- Y cyfryngau a chyfathrebu perswadiol
- Theori ac ymarfer creadigol (ymarfer fel ymchwil)
- Testunau materol a diwylliant
- Llenyddiaethau Cymru
- Llenyddiaeth Pedair Gwlad;
- Astudiaethau Arthuraidd;
- Llenyddiaeth y Byd;
- Addasu, Arbrofi a Chyfieithu
- Ysgrifennu Creadigol
Mae ein cyfres o seminarau ymchwil wythnosol yn cynnwys cydweithwyr o Fangor, myfyrwyr ôl-radd, ac ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mewn awyrgylch cefnogol, os beirniadol.
EIN HYMCHWIL Ymchwil yn y Cyfryngau
Ein cryfderau allweddol yw gwaith y staff yn y diwylliant digidol; y cyfryngau a chyfathrebu perswadiol; a theori ac ymarfer creadigol (ymarfer-fel-ymchwil).
Ein Hymchwil Ymchwil mewn Ysgrifennu Creadigol
Mae arbenigedd y staff sy'n gyfrifol am Ysgrifennu Creadigol i'w ganfod yng nghrefft iaith ac adrodd straeon yng nghyd-destun eang ymarfer proffesiynol.
Ein Hymchwil Ymchwil mewn Llenyddiaeth Saesneg
Rydym ymhlith yr ugain adran Llenyddiaeth Saesneg uchaf yn y Deyrnas Unedig am ein cyhoeddiadau.