Ymunwch â'r Athro Zoë Skoulding, Athro mewn Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol, ar gyfer y sesiwn ryngweithiol hon lle bydd cyfle cyfle yn ystod y sesiwn i chi feddwl am syniadau ar gyfer eich cynnyrch creadigol eich hun, a chyfle i gyfrannu at lunio cerdd ar y cyd.
Mae barddoniaeth gyfoes wedi trin a thrafod adar a’u caniadau ymhell cyn i farddoniaeth fod yn gyfrwng ysgrifenedig. Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn cyflwyno rhai safbwyntiau ar adar mewn barddoniaeth, gan eu hystyried yng nghyd-destun perthynas ehangach adar â'r byd mwy-na-dynol-yn-unig mewn cyfnod o argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. A all barddoniaeth fod yn fodd o gyfieithu'r synau a ddaw o fyd ehangach na byd bodau dynol? A all ein helpu i gael dealltwriaeth newydd o gymuned sy'n ein cysylltu â rhywogaethau eraill? Bydd cyfle yn ystod y sesiwn i chi feddwl am syniadau ar gyfer eich cynnyrch creadigol eich hun, a chyfle i gyfrannu at lunio cerdd ar y cyd.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.