Croesi’r Bont: Barddoniaeth a Chyfieithu mewn Perfformiad
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys barddoniaeth, cyfieithu, a pherfformiadau amlgyfrwng sydd wedi'u hysbrydoli gan gyfarfyddiadau sy’n croesi ffiniau tir, môr ac iaith. Bydd Tomáš Míka, Meleri Davies, Zoë Skoulding, Catrin Menai ac Iestyn Tyne yn perfformio gwaith sy’n rhan o brojectau cydweithredol i ddathlu rôl ‘Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau’ wrth gysylltu Cymru â'r byd.