Pontydd Barddoniaeth: Llenorion Gwadd Lila Matsumoto: Poetry and Sound
I ddathlu 200 mlynedd ers adeiladu Pont y Borth, mae Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau) yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yng nghwmni llenorion gwadd i ddathlu barddoniaeth fel ffordd o bontio, gan gysylltu syniadau, lleoedd a phobl. Digwyddiadau cyhoeddus yw’r rhain sy’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Cânt eu cefnogi gan Llenyddiaeth Cymru a thrwy haelioni cyn-fyfyrwyr trwy Gronfa Bangor.
Ymhlith y cyfrolau barddoniaeth y mae Lila Matsumoto wedi eu cyhoeddi mae Two Twin Pipes Sprout Water (Prototype, 2021) ac Urn & Drum (Shearsman, 2018). Mae ei chyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys cerdd ar ffurf poster sy’n dwyn y teitl 'Roasted by myself' (Prototype, 2025) a llyfr creadigol-feirniadol yn trafod ymarfer celf trawsddisgyblaethol, The Very Nature of Materiality is an Entanglement (In Other Words, 2024). Mae cyfrol newydd o farddoniaeth, Talk a Blue Streak, ar y gweill a bydd yn cael ei chyhoeddi gan Monitor Books yng ngwanwyn 2026. Mae Lila yn aelod o’r bandiau Food People a Mountain Hovel Circle ac, wrth ei gwaith, mae’n addysgu ysgrifennu creadigol a barddoneg ym Mhrifysgol Nottingham. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cydweithio ag artistiaid a cherddorion. https://lilamatsumoto.com/