Sesiynau Lles RCS
Mewn partneriaeth ag RCS Cymru, bydd gweminar awr ar-lein ar gael o'r enw Cefnogi eich lles eich hun yn ystod cyfnod ansicr.
Bydd y sesiwn hon yn darparu offer a strategaethau i reoli straen a gwella lles. Bydd  cyflwyniad i dechnegau ymarferol i ymdopi â newid ac ansicrwydd. Mae'r cwrs wedi'i anelu at y rhai sydd am wella eu sgiliau rheoli straen a gwella eu lles cyffredinol. 
Gall cydweithwyr archebu lle ar unrhyw un o’r tair sesiwn sydd ar gael, ac mae modd ymuno â nhw yn ddienw. Ni fydd enwau unigol yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Brifysgol. 
Bydd recordiad ar gael ar ôl y trydydd gweminar ar gyfer y rhai na allant ymuno’n fyw.
 
Bydd y gweminar yn cyflwyno cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno technegau ymarferol i gefnogi cydweithwyr wrth reoli newid ac ansicrwydd. 
 
Pynciau bydd yn cael eu trafod: 
 
1.    Adnabod arwyddion corfforol ac ymddygiadol o straen. 
2.    Dysgwch sut i wahaniaethu rhwng strategaethau ymdopi iach ac afiach. 
3.    Darganfyddwch wahanol ddulliau i hunan-reoleiddio a thawelu eich system nerfol. 
4.    Adnabod beth sydd, ac nad yw, o fewn eich rheolaeth. 
5.    Buddsoddi yn eich cwsg a'ch arferion da: Deall pwysigrwydd cwsg ac arferion iach i wella ansawdd eich cwsg. 
6.    Darganfyddwch sut y gall y model PERMA eich helpu i gynnal eich lles yn ystod cyfnodau p newid. 
7.    Cael mewnwelediad i'r systemau cymorth sydd ar gael i chi, gan gynnwys adnoddau Prifysgol Bangor, adnoddau cymunedol ac adnoddau ehangach, ac offer hunangymorth. 
 
Pwy ddylai fynychu: 
 
Mae'r weminar wedi'i anelu at bobl sydd eisiau gwella eu sgiliau rheoli straen a gwella eu lles cyffredinol.   
 
Gyda ffocws ar lywio drwy gyfnod o ansicrwydd a phryder, bydd y sesiwn hwn yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr ac offer ymarferol. 
Cynhelir y weminar ‘Cefnogi eich lles eich hun yn ystod amseroedd ansicr’ ar:
Dydd Iau, 1 Mai, 9:30am - 10:30am COFRESTRWCH YMA 
 
Dydd Gwener, 2 Mai, 12:30pm - 1:30pm COFRESTRWCH YMA 
 
Dydd Mawrth, 6 Mai, 1:00pm - 2:00pm COFRESTRWCH YMA 
Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiynau hyn ar Eventbrite – bydd eich cofrestriad yn cael ei dderbyn gan RCS ac ni fydd yn cael ei gofnodi ar eich porth i-trent ESS.
Bydd y sesiynau yn gweminarau nad ydynt yn ryngweithiol lle na fydd enwau a delweddau cyfranogwyr yn cael eu harddangos.
Os oes gennych gwestiynau am y cyfleoedd dysgu anffurfiol yma, cysylltwch ag Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles.
