Strategaeth Iechyd a Lles 2020-2024
Ein gweledigaeth ar gyfer iechyd a lles yw y bydd y brifysgol yn: creu diwylliant lle gallwn siarad yn agored am iechyd a lles; ymrwymo i gefnogi ein staff a'n myfyrwyr i gynnal ffordd iach o fyw gan ganolbwyntio’n gadarn ar atal a lleihau afiechyd ac ysgogi newid cymdeithasol trwy brofi a lledaenu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil er budd ein cymuned fyd-eang yn ehangach.
1. Amgylcheddau cadarnhaol
- Adeiladu, gwella a chynnal amgylcheddau gweithio a dysgu cadarnhaol a chefnogol ar draws Prifysgol Bangor. Byddwn yn:
- Darparu arweinyddiaeth glir mewn perthynas ag iechyd a lles a dulliau cefnogi sy'n meithrin diwylliant agored, gan leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â chodi materion iechyd, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
- Creu a sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr lles i hyrwyddo lles ar draws y Colegau a’r Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Bangor. Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a gwasanaethau Myfyrwyr, i ddysgu o'u rhagoriaeth ac adeiladu ymhellach ar y ddarpariaeth i’r gymuned myfyrwyr (e.e. myfyrwyr sy’n gwirfoddoli Connect@Bangor).
- Creu trefn lywodraethu mewn perthynas â’n strategaeth iechyd a lles i alluogi datblygiad iechyd a lles ar draws Prifysgol Bangor..
- Defnyddio canlyniadau arolwg staff 2020 i ddatblygu strategaeth iechyd a lles staff, sy’n cyd-fynd â'r strategaeth iechyd meddwl a lles dan arweiniad myfyrwyr 2020-2022, i alluogi dull prifysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles erbyn 2024.
2. Hyrwyddo ac ymgysylltu
- Creu dealltwriaeth o iechyd a lles ar draws Prifysgol Bangor, ac ymgysylltu â’r materion hynny; Byddwn yn:
- Cael cyd-ddealltwriaeth o iechyd a lles
- Codi ymwybyddiaeth o'r ddarpariaeth gyfredol
- Datblygu amrywiaeth o fentrau (e.e. digwyddiadau, ymgyrchoedd) i hyrwyddo gweithgareddau ac ymddygiad lles
- Datblygu cynllun cyfathrebu yn amlinellu sut y byddwn yn hyrwyddo'r gwaith a'r gweithgareddau iechyd a lles sy'n cael eu gwneud. Bydd hyn hefyd yn cynnwys y sianeli byddwn yn eu defnyddio i gyrraedd y gwahanol gynulleidfaoedd targed (e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, e-bost, deunydd printiedig) a bydd yn adlewyrchu cyfathrebu mewnol ac allanol
- Ei gwneud hi'n hawdd i staff a myfyrwyr gael mynediad i’r ddarpariaeth ac ymgysylltu trwy ddatblygu a chefnogi polisi, yn ogystal â chyfeiriadau clir at adnoddau, ynghyd â mynediad syml (e.e. cael un storfa ar-lein)
3. Iechyd ataliol a gweithredol
- Galluogi pob unigolyn i wireddu ei botensial, ymdopi â phwysau arferol bywyd, gweithio'n gynhyrchiol ac yn llwyddiannus a gallu cyfrannu at eu cymuned (Sefydliad Iechyd y Byd). Byddwn yn:
- Darparu cefnogaeth iechyd a lles ragorol i staff a myfyrwyr trwy gynnig amrywiaeth o adnoddau ac arbenigedd sy'n canolbwyntio ar ddarparu addysg sy’n arwain y sector, atal, ymyriad cynnar a lle bo angen, cyfeirio at asiantaethau allanol.
- Darparu ymyriadau a mentrau gan ganolbwyntio ar bum prif thema, lles meddyliol ac emosiynol, gweithgarwch corfforol, materion iechyd cyfoes, (e.e. bwydydd iach a chynaliadwy, defnyddio a chamddefnyddio sylweddau), ac amgylcheddau cynaliadwy.
- Datblygu hyfforddiant iechyd a lles ar gyfer rheolwyr llinell i alluogi arweinyddiaeth a thrafodaeth dosturiol gyda staff ar iechyd a lles, tra’n cadw cydbwysedd rhwng cyfrifoldeb y cyflogwr a pherchnogaeth yr unigolyn.
- Grymuso staff a myfyrwyr i gymryd camau annibynnol i gefnogi eu hiechyd a'u lles eu hunain
4. Ymchwil a Pholisi Poblogaeth
- Arwain a chyfrannu at ymchwil a pholisi iechyd a lles lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Byddwn ynl:
- Tynnu sylw at y gwaith hwn a’i ddathlu. Hefyd, bydd projectau ymchwil perthnasol yn y brifysgol yn darparu dulliau i dreialu a gwerthuso cynlluniau iechyd a lles. Un enghraifft o hyn yw CALIN (http://www.calin.wales/cy/), project Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a fydd yn darparu ymchwil a datblygu mewn perthynas ag iechyd a lles ar gyfer sefydliadau yng Nghymru ac Iwerddon. Mae projectau o'r fath yn ychwanegu gallu fel y gellir gwneud ymchwil a'i blethu i strategaeth y brifysgol.
Bydd set o fetrigau perfformiad allweddol yn cael eu datblygu gyda chytundeb Pwyllgor Gweithredu’r Brifysgol, y Cyngor, Undebau Staff ac Undeb y Myfyrwyr. Bydd cydlynu gweithgareddau iechyd a lles yn cael ei wneud gan swyddi presennol yn y pedwar maes allweddol, Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Myfyrwyr, Colegau, ac Iechyd a Diogelwch. Bydd gweithgareddau'n cael eu dwyn ynghyd o dan gylch gorchwyl y Grŵp Prifysgol Iach. Lle bo angen, byddwn yn cyfethol unigolion o strategaethau sefydliadol allweddol (e.e. cynaliadwyedd) i ddenu’r arbenigedd sydd ei angen a sicrhau bod strategaethau’n cael eu halinio ar draws y brifysgol. Ceir goruchwyliaeth sefydliadol ehangach o'n Strategaeth Iechyd a Lles trwy adroddiad blynyddol a gynhyrchir gan y Dirprwy Is-ganghellor/Deon Coleg Gwyddorau Dynol i Bwyllgor Gweithredu’r brifysgol a thrwy strwythurau pwyllgorau presennol ar gyfer monitro penodol a darparu rhaglenni gwaith strategol.
- Dangosyddion Perfformiad Allweddol lefel uchel:
1. Ymwybyddiaeth staff a’u parodrwydd i siarad yn agored am iechyd a lles
2. Tystiolaeth o staff a myfyrwyr yn gweithredu i gynnal ffordd iach o fyw gan ganolbwyntio’n gadarn ar atal a lleihau afiechyd
3. Dadansoddi a lledaenu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil er budd ein cymuned fyd-eang ehangach - Clystyrau o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer nodau strategol:
1. Amgylcheddau cadarnhaol
2. Hyrwyddo ac ymgysylltu
3. Iechyd ataliol a gweithredol -
Creu diwylliant lle gallwn siarad yn agored am iechyd a lles
Hyrwyddwyr wedi eu penodi
1.2
2.2
2.4
3.1Mae pennaeth pob ysgol a’r gwasanaethau proffesiynol yn cael hyfforddiant iechyd a lles
1.1
1.3
3.3Cwestiwn yn ymwneud ag iechyd a lles ar ffurf adolygiad datblygu perfformiad i ysgogi dealltwriaeth gyffredin o iechyd a lles ac anghenion unigol
1.3
2.1
2.5
3.4Ychwanegu cwestiwn i’r arolwg staff am y diwylliant o siarad yn agored; cymharu â'r hyn sy'n cyfateb yn strategaeth iechyd meddwl y myfyrwyr
1.4Gwirio’r arolwg staff am gwestiynau
Dangosydd perfformiad allweddol grŵp-benodol i adlewyrchu agweddau unigryw ar ddarparu gwasanaeth e.e. y gwasanaeth arlwyo’n darparu bwyd iach
Ymrwymo i gefnogi ein staff a myfyrwyr i gynnal ffordd iach o fyw gan ganolbwyntio’n gadarn ar atal a lleihau afiechyd
Cynyddu ymwybyddiaeth a welir gan y prysurdeb ar y wefan;
Marchnata Cysylltiadau Cwsmeriaid (cyfraddau agor negeseuon e-bost, clicio trwodd), presenoldeb mewn digwyddiadau mewnol
2.4Tariff ar y model dyrannu llwyth gwaith
3.1
3.4Ymgysylltu â gweithgareddau’r brifysgol a'r gymuned - mesur trwy gofnodi’r nod barcud
2.5
3.1
3.2Datblygu ymyriadau yn seiliedig ar anghenion i gefnogi iechyd a lles
2.3
3.1
3.2
4.1Dangosydd perfformiad allweddol grŵp-benodol i adlewyrchu agweddau unigryw ar ddarparu gwasanaeth e.e. y gwasanaeth arlwyo’n darparu bwyd iach
Ysgogi newid cymdeithasol trwy brofi a lledaenu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil er budd ein cymuned fyd-eang ehangach.
Defnyddio data REF 2021 i ddatblygu cysylltiadau allanol a mewnol ar gyfer lledaenu ymarfer da
2.4
4.1Manteisio ar ganlyniadau CALIN er budd staff, myfyrwyr a busnes
2.3
3.1
3.2
4.1Effeithiolrwydd gwerthuso
Dangosydd perfformiad allweddol grŵp-benodol i adlewyrchu agweddau unigryw ar ddarparu gwasanaeth e.e. y gwasanaeth arlwyo’n darparu bwyd iach
Monitro cyffredinol o iechyd a lles sefydliadol
Iechyd Meddwl:
WEMBSIechyd Corfforol:
[nodi graddfa]Materion Iechyd Cyfoes::
[graddfa]