Isod wele Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) y Brifysgol sydd newydd ei chyhoeddi ac a ddatblygwyd ar gyfer HEFCW.
Mae’n cynnwys uchelgais strategol Bangor ar gyfer Arloesi ac Ymgysylltu dros y tair blynedd nesaf a’n bwriadau o ran gwireddu ein huchelgais i fod yn Brifysgol Entrepreneuraidd dan Arweiniad Ymchwil yng Ngogledd Cymru. Mae’n cynnwys manylion ein gweithgareddau Cyfnewid Gwybodaeth a Masnacheiddio, Menter a Sgiliau a’r Genhadaeth Ddinesig ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a sut mae’r rhain yn cefnogi ein cenhadaeth sefydliadol gyffredinol.
Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru Prifysgol Bangor 2020/21–2022/23
Y Genhadaeth Ddinesig ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: templed ar gyfer astudiaethau achos
Byddwn yn rhoi diweddariad ynghylch y cynnydd ac yn darparu astudiaethau achos pellach dros y tair blynedd nesaf ac yn y cyfamser, os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â’r strategaeth, anfonwch e-bost atom: cydweithreduhub@bangor.ac.uk