Teitl y prosiect: Glan-llyn, crud y cynnwrf
Ymchwilydd Doethurol: Beryl H. Griffiths
Goruchwylir gan: Dr Lowri Ann Rees a Dr Mari Wiliam

Astudiaeth fydd hon o stad Glan-llyn yn Sir Feirionnydd. Daeth yn rhan o stad anferth Wynnstay oedd yn cynnwys tiroedd yn siroedd gogledd Cymru a Swydd Amwythig yn y ddeunawfed ganrif. Bwriedir darlunio ei chefndir hanesyddol a’r ffordd y daeth nifer o fân stadau’r ardal yn eiddo iddi. Ond y bwriad yw canolbwyntio ar ddyddiau ei bri yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd yn rheoli plwyf Llanuwchllyn yn ei gyfanrwydd, bron. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd y tensiynau gwleidyddol, addysgol a chrefyddol rhwng y landlord a’i stiward a’r tenantiaid ar ei anterth.
Mae’r stad hon yn cynnig astudiaeth achos eithriadol i ddadansoddi deinameg stad yng nghyd-destun gwleidyddol, cymdeithasol, crefyddol, addysgol a diwylliannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru, yn neilltuol felly deinameg y berthynas rhwng tenant a landlord a rhwng y gymuned a’r landlord.
O ystyried bod Llanuwchllyn yn ardal enedigol i rai o arweinwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn y cyfnod, pobl fel Michael D Jones ac Owen M Edwards, y bwriad yw ymchwilio i ddylanwad y stad ar syniadaeth a gwleidyddiaeth y ddau a dylanwad hynny’n ehangach. Mae’r ffaith bod y stad yn y pen draw wedi cael ei gwerthu i’w thenantiaid hefyd yn elfen y bydd yn rhaid ei hastudio.