O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Rwy'n dod o Lundain a byddaf wedi'm lleoli yma am ran gyntaf y prosiect ymchwil hwn, fodd bynnag, mae gen i gynlluniau i symud i Wynedd.
Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Bywydau ac Ôl-Bywydau Llawysgrifau Canoloesol yn Llyfrgelloedd y Boneddigion Cymreig.
Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Fy mhrif ddiddordeb ymchwil yw hanes casglu llawysgrifau, yn enwedig o fewn casgliadau preifat y bonedd. Mae hyn yn cynnwys newidiadau yn y ffyrdd y cafodd llawysgrifau eu gwerthfawrogi a'u rhyngweithio â nhw gan eu perchnogion. Yn ail, rôl llawysgrifau canoloesol o fewn diwylliant deallusol y bonedd o ran cynnydd a chwymp hynafiaeth ym mhlastai Cymru.

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Mae gen i BA mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol y Frenhines, Belfast, ac yn ddiweddar rydw i wedi cwblhau MA mewn Hanes y Llyfr o Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain, a thrwy hynny cefais fy swyno gan ôl-fywydau Llawysgrifau Canoloesol. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar brosiect sy'n digideiddio dyddiaduron Ceidwad y Llawysgrifau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Frederic Madden, yn yr Amgueddfa Brydeinig gyda'r nod o greu rhifyn digidol. Rwyf hefyd wedi gweithio ar gatalogio’r llawysgrifau cyn-1500 a gedwir yn Llyfrgell Marsh yn Nulyn, sydd wedi arwain at bapur a gyflwynwyd yng nghynhadledd Built with Books yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Ymunais ag ISWE ym mis Medi 2025.
Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Dydw i ddim yn meddwl bod gen i un yn gyffredinol. Er, fel y dangosir gan fy ymchwil, dwi'n ymddiddori'n bennaf ym mywydau ôl-Ganoloesol llawysgrifau, rwy'n dal i fod â diddordeb yng nghyfnod eu tarddiad. O ran hanes llyfrgelloedd, yr ail ganrif ar bymtheg yn bendant. Dyna pryd gwnaeth llyfrgelloedd mwyaf pwysig Cymru dechrau sefydlogi.
Eich hoff le yng Nghymru a pham? Fy hoff le yng Nghymru yw Penrhyn Gŵyr, Bae Rhosili yn benodol. Mae fy Mam o'r ardal felly byddem yn treulio gwyliau haf cyfan yno. Yno y dysgais i syrffio (yn wael) a bod modd defnyddio unrhyw beth fel pwll tân os ydych chi'n ceisio'n ddigon caled.
Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar?
- A Psalm for the Wild Built gan Becky Chambers
- Meet Me at the Surface gan Jodie Matthews
- Hidden Hands: The Lives of Manuscripts and Their Makers gan Mary Wellesley
- The Diary of a Bookseller gan Shaun Bythell
- The Librarians, wedi'i gyfarwyddo gan Kim A. Snyder
Cysylltwch â Isabel:
sbt25rgj@bangor.ac.uk