Llyfr newydd yn dadansoddi dathliadau Dod i Oed yng Nhgymru
Mae'n bleser gennym gyhoeddi llyfr newydd ein Cyfarwyddwr Dr Shaun Evans, Coming of Age Celebrations on Welsh Landed Estates: Gentry, Culture and Society, c.1770-1920.

Roedd dathliadau dod i oed yn ddigwyddiadau nodedig i deuluoedd bonheddig ac o fewn cymdeithas leol, oedd yn nodi'r achlysur pan gyrhaeddodd etifedd neu etifeddes ystâd un ar hugain oed, gyda'r dybiaeth y byddent yn y pen draw yn etifeddu'r tir ynghyd â'r holl freintiau a chyfrifoldebau oedd yn gysylltiedig â'i berchnogaeth. Dathlwyd cannoedd o'r achlysuron brenhinlinol bywiog hyn yng Nghymru o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg 'hir', gan gynnwys llu o gyfranogwyr mewn amrywiaeth o ddathliadau cyhoeddus; maent yn darparu tystiolaeth ddiddorol ar gyfer deall deinameg gymdeithasol a diwylliannol cymunedau ystadau mewn amgylchedd oedd yn newid yn gyflym.
Mae'r llyfr yn darparu'r astudiaeth gynhwysfawr gyntaf o'r digwyddiadau hyn, gan archwilio eu datblygiad, eu pwrpas a'u harwyddocâd. Mae'n ystyried y rôl a chwaraeodd bonedd ac aristocratiaeth yn eu cymunedau, pam roedd ystadau gwledig yn rhan annatod o gymdeithas Cymru, a sut y cyfranasant at gymeriad a phrofiad lle, tirwedd a pherthnasoedd tirfeddianwyr a thenantiaid. Mae'n cynnig ailasesiad o ddehongliadau sy'n dal i fod yn gyffredin o dirfeddianwyr Seisniged, estron ac absennol, oedd a dim cysylltiad nac ystyriaeth i gymunedau, diwylliant ac ymwybyddiaeth Cymru, yn y ddwy ganrif cyn i gymaint o'r ystadau hyn cael eu gwerthu a'u chwalu yn yr ugeinfed ganrif.
I'w weld yma, mae'r ddelwedd ar y clawr yn dangos portread rhyfeddol o'r Ych Gwyn o Nannau, seren dathliad dod i oed ar ystâd Nannau ym 1824.
Mae'r llyfr bellach ar gael i'w brynu gan Boydell & Brewer. Defnyddiwch y cod BB135 i gael disgownt o 35% a chadwch lygad am hysbysebion digwyddiadau lansio dros yr hydref a'r gaeaf.