Bangor Alumnus Hamza Yassin

Cyn-fyfyriwr Swoleg Prifysgol Bangor i rannu ei frwdfrydedd dros gadwraeth mewn rhaglen ddogfen ar Channel 4

Bydd cyn-fyfyriwr Swoleg gyda Chadwraeth Prifysgol Bangor yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen newydd ar Channel 4 Scotland: My Life in the Wild dydd Sadwrn yma (12 Rhagfyr) am 6pm.

 

Yn awyddus i roi yn ôl i'w alma mater, bydd Hamza yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o selogion bywyd gwyllt trwy roi darlith i fyfyrwyr Prifysgol Bangor y semester nesaf. Yn ddiweddar, cafodd ei wneud yn Gysylltai er Anrhydedd i gydnabod ei gyfraniad sylweddol i'r gwaith yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol. 

Dywedodd Hamza am ei amser ym Mangor: “Fe wnaeth fy amser ym Mhrifysgol Bangor sbarduno fy mrwdfrydedd am gadwraeth a bywyd gwyllt, ac rydw i mor ddiolchgar am gefnogaeth ac anogaeth Bangor trwy fy astudiaethau. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Fangor i rannu fy mhrofiadau gyda’r myfyriwr presennol."

Dywedodd yr Athro Julia Jones, un o gyn-ddarlithwyr Hamza: “Rwy’n cofio Hamza yn dda iawn. Roedd yn fyfyriwr hynod ymroddedig, a oedd wrth ei fodd mynd allan yn y maes yn arbennig. Roedd ganddo hefyd synnwyr digrifwch drygionus. Nid yw'n syndod o gwbl bod Hamza yn gwneud cymaint o lwyddiant yn ei yrfa. Rwy'n hynod falch ohono."

Mae'r rhaglen ar gael ar All4 tan 8 Ionawr 2021.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?