Yn edrych tuag at rhewlif

Tymheredd arwyneb rhewlifoedd yn cynyddu ar 'do’r byd'

Mae Llwyfandir Tibet, y cyfeirir ato'n gyffredinol fel “to'r byd,” wedi profi cynhesu sylweddol yn ystod yr hanner can mlynedd ddiwethaf, ar gyfradd ddwywaith yn fwy na'r cyfartaledd byd-eang.

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn Geophysical Research Letters, yn dangos bod tymheredd arwyneb rhewlifoedd Mynyddoedd yr Himalaia wedi cynyddu hyd yn oed yn gyflymach na’r rhanbarthau sydd ddim yn rhewlifol (Rhewlifol = 0.37 C/degawd, Ddim yn rhewlifol = 0.29 C/degawd) o fewn dau ddegawd (2001-2020). Ar uchafbwynt y tymheredd yn yr hydref, roedd ardaloedd rhewlifol Mynyddoedd yr Himalaia ddwywaith mor gynnes ag ardaloedd heb rewlifoedd.

Mae’r canfyddiadau yn yr astudiaeth hon, y papur cyntaf i ystyried tymereddau arwyneb rhewlifoedd Mynyddoedd yr Himalaia dros gyfnodau hir, yn awgrymu bod y data a gofnodwyd yn gysylltiedig â cholledion mawr ym màs rhewlifoedd. Mae rhewlifoedd Mynyddoedd yr Himalaia yn ffynhonnell o ddŵr croyw hanfodol i'r boblogaeth gyfagos ac ecosystemau i lawr yr afon. Mae colli màs rhewlifol hefyd yn gwneud y rhewlifoedd eu hunain yn fwy peryglus.

Mae astudiaethau blaenorol yn yr amgylchedd hwn sy'n sensitif i'r hinsawdd wedi canolbwyntio'n bennaf ar newidiadau yn nhymheredd yr aer a fesurwyd o nifer gyfyngedig o orsafoedd arsylwi ar y ddaear, yn ogystal ag o nifer o gynhyrchion tymheredd arwyneb tir o loeren.

Yn y gorffennol, mae pobl wedi edrych ar eithafion mewn tymheredd aer ac ar yr hyn rydym yn ei alw'n donnau gwres y môr, neu dymheredd eithafol yn y cefnfor. Rwyf hefyd wedi bod yn edrych ar donnau gwres tebyg a gofnodwyd yn nhymheredd arwyneb llynnoedd. Fodd bynnag, mae’r papur hwn sy’n edrych ar dymheredd arwyneb rhewlifoedd Mynyddoedd yr Himalaia yn dangos sut mae’r ardaloedd hyn yn Llwyfandir Tibet yn cyrraedd lefelau eithafol yn amlach ac mae hynny’n peri pryder.

Dr Iestyn Woolway,  Cymrawd Ymchwil Annibynnol NERC (Darllentdd), Ysgol Gwyddorau Eigion, chyd-awdur y papur

Mae'n debygol y bydd Llwyfandir Tibet yn profi cynhesu cyflymach

Ychwanegodd Woolway: “Mae ein hastudiaeth yn awgrymu bod ardaloedd uchder uchel wedi profi mwy o gynnydd yn hyd y tonnau gwres yn flynyddol ac yn dymhorol rhwng y gwanwyn a’r hydref, yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Wrth i gynhesu byd-eang barhau, mae'n debygol y bydd Llwyfandir Tibet yn profi cynhesu cyflymach y ganrif hon, o gymharu â thueddiadau hanesyddol.

“Yn y rhanbarth hwn,  disgwylir y bydd ardaloedd uchel yn cynhesu'n gyflymach, o gymharu â'r cyfartaledd byd-eang. O ganlyniad, mae tonnau gwres arwynebau rhewlifoedd yn debygol o fod yn fwy dwys a pharhau’n hirach.”

Defnyddiodd yr astudiaeth hon ddata tymheredd arwyneb tir o loeren ar draws Llwyfandir Tibet.  Dangosodd y dadansoddiad gynnydd yn hyd a dwyster cronnol 'tonnau gwres' rhewlifoedd yn yr hydref.

Bu Dr Woolway yn gweithio gydag ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil Llwyfandir Tibet.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?