Y Prince Madog, llong ymchwil Prifysgol Bangor wedi docio ym Mhorthaethwy

Eigionegwyr yn datgelu rôl hanfodol cymysgu ocsigen i lawr i gynnal iechyd y môr dwfn

Mae ymchwil newydd wedi dangos am y tro cyntaf rôl bwysig cymysgu ocsigen i lawr i gynnal amodau iach yn y dyfroedd dyfnion o amgylch y DU ac mewn mannau eraill.

Mae pryder cynyddol am iechyd ein cefnforoedd arfordirol wrth i’r hinsawdd gynhesu oherwydd bod dŵr cynhesach yn dal llai o ocsigen. Mae creaduriaid byw yn y cefnfor yn dibynnu ar ocsigen i oroesi yn yr un ffordd ag y mae anifeiliaid ar y tir. Mae ocsigen hefyd yn cael ei ddefnyddio wrth i ddeunydd bydru yn nyfnder y cefnfor. Mae hyn yn creu diffyg ocsigen yn yr haf yn y moroedd dyfnion o amgylch y DU. Yn anffodus, wrth i’n hinsawdd gynhesu, rhagwelir y bydd y diffyg hwn yn cynyddu.

Mae ffurfio haeniad yn yr haf yn y dŵr dyfnach o amgylch y DU yn ynysu'r dŵr dwfn o'r atmosffer, sef prif ffynhonnell ocsigen.

Defnyddiodd y tîm ymchwil, o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, Prifysgol Lerpwl a’r Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, dechnegau newydd sbon a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Bangor i amcangyfrif fflwcsau ocsigen yn y cefnfor. Mae'r canlyniadau newydd hyn yn dangos y gall cymysgu ocsigen i lawr gan stormydd yr haf arafu datblygiad y diffyg ocsigen dŵr dwfn cymaint â 50%.

Mae gan y canlyniadau newydd hyn hefyd oblygiadau pwysig ar gyfer datblygiad arfaethedig o ffermydd gwynt arnofiol ar raddfa fawr, mewn llefydd fel y Môr Celtaidd a gogledd Môr y Gogledd, yn unol â NetSero:

“Bydd llif y llanw sy’n cael ei basio o’r tyrbinau gwynt arnofiol arfaethedig yn creu ôl tyrfol a fydd yn cymysgu ocsigen i lawr yn yr haf. Bydd yr effaith gadarnhaol hon yn gwella iechyd y cefnfor. Fodd bynnag, mae'r ymchwil newydd hwn yn amlygu'r angen i effeithiau posibl y cymysgu hwn gael eu hystyried wrth ddylunio sylfeini tyrbinau ac wrth gynllunio ffermydd gwynt newydd,” meddai'r Athro Rippeth.

Casglwyd y sylwadau fel rhan o brosiect Deinameg Carbon a Maetholion a Fflwcsau Dros Systemau Silff (CaNDyFloSS) Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) y Deyrnas Unedig, sy’n rhan o raglen ymchwil Biogeocemeg Silff y Môr Ysgafell a ariennir ar y cyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) drwy grantiau Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Darllenwch y papurau llawn wedi ei gyhoeddi gan Nature Communications yma

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?