Mae ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Bangor a sefydliadau eraill, gan gynnwys Prifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin, Ysgol Fusnes Vlerick ym Mrwsel, Gwlad Belg a Phrifysgol Aberdeen, wedi canfod y gall teilyngdod credyd cwmni ddylanwadu’n aruthrol ar sut mae’r prif weithredwr yn ymddwyn – yn enwedig yn ystod cydsoddi a chaffael corfforaethol.
Mae'r ymchwil, a gyhoeddir yn y cyfnodolyn European Financial Management, yn seiliedig ar ddata gan 916 o gwmnïau yn yr Unol Daleithiau a gafodd sgôr gan S&P (Standard & Poor’s yn flaenorol), sef asiantaeth sgorio credyd yn America, rhwng 2006 a 2019. Cwmnïau sy'n asesu teilyngdod credyd sefydliadau ariannol, cwmnïau a llywodraethau yw asiantaethau sgorio credyd.
Yn ôl yr ymchwilwyr, dyma’r papur cyntaf i awgrymu y gall asiantaethau sgorio credyd, trwy eu rhagolygon a gweithredoedd sgorio, atal gorhyder ymysg prif weithredwyr i bob pwrpas, a thrwy hynny, fonitro ymddygiad rheolwyr yn allanol.
Dywedodd prif awdur y papur, Dr Shee Yee Khoo, Darlithydd mewn Cyllid yn Ysgol Busnes Bangor ym Mhrifysgol Bangor, “Mae ein hymchwil yn dangos pan fydd cwmnïau mewn perygl o gael eu hisraddio o ran credyd, mae hyd yn oed prif weithredwyr gorhyderus yn fwy tebygol o feddwl ddwywaith cyn gwneud caffaeliadau peryglus.
“Mae hyn yn amlygu’r rôl bwysig y mae sgôr credyd yn ei chwarae mewn llywodraethu corfforaethol. Yn hytrach nag adlewyrchu iechyd ariannol y cwmni’n unig, gall sgôr credyd ddylanwadu ar benderfyniadau strategol drwy leihau cymryd risgiau gormodol. Yn wyneb y posibilrwydd o golli mynediad at ddyledion cost isel, mae hyd yn oed y prif weithredwyr mwyaf hunan-sicr yn dod yn fwy gofalus, gan ddangos y gall asiantaethau sgorio credyd ail-lunio ymddygiad corfforaethol i bob pwrpas, y tu hwnt i fetrigau ariannol yn unig.”
Canfu'r ymchwilwyr fod prif weithredwyr gorhyderus yn cynyddu eu gweithgarwch caffael yn fwy na'u cyfoedion rhesymegol pan fydd sgôr credyd eu cwmni’n cynyddu o lefelau is, gan wneud cost dyled yn rhatach. Ond i'r gwrthwyneb, pan fo gan eu cwmni sgôr credyd uchel y gellid ei israddio, mae prif weithredwyr gorhyderus yn dod yn fwy gofalus na'u cyfoedion rhesymegol, gan eu bod yn ofni colli mynediad at ddyled cost isel.
Yn benodol, roedd cwmnïau wedi'u rheoli gan brif weithredwyr gorhyderus a oedd yn wynebu israddio posibl o sgôr credyd 'gradd buddsoddi' – sy'n dynodi risg gymharol isel o fethu â thalu – i sgôr credyd 'gradd hapfasnachol' – sy'n dynodi risg uwch o fethu â thalu – wedi profi gostyngiad o 15.7 pwynt canran yn y tebygolrwydd o weithgarwch caffael, o'i gymharu â'u cymheiriaid rhesymegol.
Eglurodd Patrycja Klusak, cydawdur ac arbenigwr mewn asiantaethau sgorio credyd ac Athro Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Fusnes Caeredin ym Mhrifysgol Heriot-Watt, “Mae’r newid ymddygiadol hwn yn tanlinellu pŵer monitro asiantaethau sgorio credyd: mae’n ymddangos bod y bygythiad o israddio’n lleddfu hyd yn oed yr impylsau gweithredol mwyaf beiddgar.”
“Mae gorhyder mewn arweinyddiaeth yn gleddyf daufiniog. Ar y naill law, gall prif weithredwyr sy’n gwneud penderfyniadau beiddgar sbarduno arloesedd ac arwain at strategaethau gweledigaethol. Ar y llaw arall, mae hyder heb ei wirio’n aml yn arwain at ddiffyg pwyll, camfarnu caffaeliadau a dinistrio gwerth hirdymor.”
Er gwaethaf y lefelau uchel o gyfrifoldeb sydd ganddynt a’r disgwyliadau uchel o amgylch eu prosesau gwneud penderfyniadau, mae prif weithredwyr “yr un mor debygol o ildio i ymddygiad afresymol ag unrhyw un arall,” ychwanega’r Athro Klusak.
Dywedodd yr Athro Thanos Verousis, Athro Cyllid Cynaliadwy yn Ysgol Fusnes Vlerick yng Ngwlad Belg, “Mae ein hymchwil yn dangos bod sgôr credyd yn gwneud mwy na dim ond awgrymu iechyd ariannol i fuddsoddwyr - mae’n llunio penderfyniadau gweithredol.
“Mae’r mecanwaith rheoli allanol hwn yn arbennig o bwysig o ystyried nad yw strwythurau llywodraethu corfforaethol traddodiadol bob amser yn effeithiol wrth leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â gorhyder ymysg prif weithredwyr.”
Dywedodd Dr Huong Vu, Darlithydd mewn Cyllid ym Mhrifysgol Aberdeen, fod sgôr credyd yn ystyriaeth hanfodol wrth lunio polisïau dyled y rhan fwyaf o weithredwyr corfforaethol, ochr yn ochr â hyblygrwydd ariannol. Ychwanegodd, “Mae ein hastudiaeth yn cynnig safbwynt mwy cynnil. Mae'n dangos bod asiantaethau sgorio credyd, trwy eu penderfyniadau sgorio, yn anfon signal clir na all hyd yn oed prif weithredwyr gorhyderus ei anwybyddu – gan eu llywio tuag at bolisïau buddsoddi sy'n gwella gwerth ac sy'n amddiffyn gwerth hirdymor i gyfranddalwyr.”
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae rheolwyr gorhyderus yn tueddu i oramcangyfrif y gwerth y gallant ei greu a thanamcangyfrif risgiau, yn ogystal â chymryd rhan mewn trafodion hynod gymhleth a all ddinistrio gwerth cwmni. Mae rheolwyr gorhyderus hefyd yn ffafrio defnyddio arian parod neu ddyled cost isel yn hytrach nag ecwiti i ariannu buddsoddiadau. Mae hyn yn adlewyrchu eu cred bod ecwiti eu cwmni eu hunain – y cyfranddaliadau – wedi’u tan brisio gan y farchnad stoc. Mae eu dewis o ddyled hefyd yn egluro sensitifrwydd rheolwyr gorhyderus o ran sgoriau credyd negyddol – a all gyfyngu ar eu mynediad at ddyled cost isel.
Gan fod penderfyniadau M&A yn parhau i fod yn allweddol i dwf corfforaethol – a risg bosibl – mae’n bwysig deall seicoleg weithredol, a’r offer cynnil a all ddylanwadu ar hynny, nawr yn fwy nag erioed, meddai’r ymchwilwyr.
Mae'r tîm ymchwil hefyd yn cynnwys Sefydliad Polisi Cyhoeddus Bennet ym Mhrifysgol Caergrawnt; Labordy ClimaTRACES yn Ysgol Fusnes Judge ym Mhrifysgol Caergrawnt, a Sefydliad Arloesi a Chyflymu Polisi Bennet ym Mhrifysgol Sussex.
Teitl yr ymchwil yw Cyfyngu ar Brif Weithredwyr Gorhyderus drwy sgoriau credyd