Anrhydeddwyd Marcel mewn seremoni a gynhaliwyd neithiwr (nos Iau, 21 Tachwedd 2025) yn y Bloomsbury Ballroom, Llundain. Caiff y digwyddiad ei drefnu gan Gyngor y Deyrnas Unedig ar gyfer Materion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA). Yn y seremoni dathlwyd cyfraniad 13 o enillwyr a oedd wedi eu dewis o blith mwy na 420 o enwebiadau gan fwy na 120 o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig. Ymhlith y 63 ymgeisydd yn y rownd derfynol, roedd Marcel yn serennu oherwydd ei gyfraniad eithriadol i fywyd y myfyrwyr.
Cafodd ei gydnabod gan y beirniaid am ei ddull arbennig o gefnogi myfyrwyr, ac fe gafodd ei ganmol am ei ymrwymiad a chefnogaeth tuag at y myfyrwyr. Dr Marcel Clusa yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau cymhleth am fewnfudo a chymorth lles hanfodol, a dywedodd y beirniad ei fod yn cyfuno arbenigedd technegol ag empathi, gofal a chysur emosiynol tuag at y myfyrwyr.
Mae Marcel hefyd yn chwarae rôl ganolog wrth groesawu myfyrwyr rhyngwladol i’r Deyrnas Unedig. O gydlynu cyrraedd meysydd awyr i ddarparu rhaglenni cynefino sydd wedi’u cynllunio i wrthsefyll unigrwydd a hyrwyddo trochi diwylliannol, mae’n sicrhau nad yw unrhyw fyfyriwr yn teimlo ar eu pen eu hunain yn ystod eu hamser ym Mangor.
A hithau’n ddwy ar bymtheg o flynyddoedd ers iddo symud i Brifysgol Bangor fel myfyriwr rhyngwladol, mae Marcel yn credu ei bod yn bwysig gwneud i fyfyrwyr rhyngwladol deimlo’n gartrefol, dywedodd: “Mae cael ein cydnabod cydnabod am y gwaith rydym yn ei wneud ym Mhrifysgol Bangor i gefnogi myfyrwyr o bob rhan o’r byd yn wych!”
“Mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod â rhagoriaeth, angerdd ac ymroddiad nid yn unig i’n hystafelloedd dosbarth ond i’r gymuned leol gyfan. Mae helpu myfyrwyr i ymgartrefu, eu cefnogi drwy eu hamser ym Mangor a’u gweld yn ffynnu yn rhywbeth bendigedig. Rwy’n teimlo’n hynod o anrhydeddus i fod yn rhan o’u taith ac yn falch o wobr sy’n dathlu nid yn unig yr hyn rwy’n ei wneud i wneud i fyfyrwyr deimlo’n gartrefol, ond yr hyn mae’r tîm cyfan yn Llwyddiant Myfyrwyr yn ei wneud hefyd.”
Dywedodd Danielle Barnard, y Pennaeth Llwyddiant Myfyrwyr, “Dan ni’n andros o falch o Marcel a dan ni wrth ein boddau’n gweld ei ymroddiad o’n cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Mae ei ymrwymiad o wrth gefnogi myfyrwyr rhyngwladol yn eithriadol, ac mae ei ofal, ei empathi a'i broffesiynoldeb o yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’n myfyrwyr ni. Mae cyfraniad Marcel yn cael ei werthfawrogi’n fawr ledled y Brifysgol, ac mae'r wobr yma’n gwbl haeddiannol.”