Blwyddyn ers lansio rhaglen Feddygaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Aeth blwyddyn heibio ers i Brifysgol Bangor lansio rhaglen Feddygaeth yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Roedd hynny’n garreg filltir bwysig wrth ehangu hyfforddiant a darpariaeth gofal iechyd ar draws y gogledd. Yn y flwyddyn gyntaf, croesawodd yr Ysgol y garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygaeth. Nhw fyddai’r garfan cyntaf i ymgymryd â'u holl hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru.
Eleni, mae 99 o fyfyrwyr yn rhagor wedi ymuno ag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i ddechrau ar eu hyfforddiant meddygol. Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio lansiwyd hefyd y cwrs Porth i Feddygaeth, sydd wedi'i gynllunio i ehangu cyfranogiad myfyrwyr sy'n hanu o Gymru ac sydd efallai heb fodloni'r meini prawf mynediad safonol ond sy'n dyheu am gael astudio meddygaeth. Ar ben hynny, mae'r Ysgol wedi ehangu ar ei darpariaeth gofal iechyd gyda dyfodiad y garfan gyntaf o fyfyrwyr Fferylliaeth.
Mae'r Ysgol yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fynd i'r afael ag anghenion gofal iechyd gogledd Cymru, gan leoli myfyrwyr yn y cymunedau lleol er mwyn ennill profiad clinigol hanfodol. Drwy hyfforddi myfyrwyr yn lleol a chefnogi addysg ddwyieithog drwy fentrau megis y cwrs 'Mwy na Geiriau – Cymraeg fel Sgil Glinigol', mae'r Ysgol yn helpu i sicrhau bod graddedigion wedi'u paratoi i wasanaethu anghenion amrywiol y boblogaeth.
Dywedodd Dr Nia Jones, y Deon Meddygaeth, “Dros y flwyddyn ddiwethaf, dan ni wedi cychwyn ar daith i drawsnewid addysg feddygol yn y gogledd, wedi croesawu’r garfan gyntaf o fyfyrwyr ac wedi adeiladu partneriaethau gref efo cydweithwyr ar draws y maes gofal iechyd ac addysg uwch. Efo'n gilydd, dan ni nid yn unig yn siapio dyfodol hyfforddiant meddygol ond hefyd yn siapio dyfodol gofal iechyd i bobl gogledd Cymru. Wrth i ni edrych i’r dyfodol, dan ni’n dal wedi ymrwymo’n llwyr i ragoriaeth, i gynhwysiant, ac i gefnogi’r cymunedau yr ydan ni’n eu gwasanaethu.”
Mae myfyrwyr yr ail flwyddyn eisoes yn gweld manteision astudio yn agos at adref ac yn myfyrio ar yr hyn y mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn ei olygu iddyn nhw a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae eu lleisiau nhw’n tynnu sylw nid yn unig at effaith yr Ysgol ar eu llwybrau unigol nhw i faes meddygaeth, ond hefyd at rôl ehangach yr Ysgol wrth siapio dyfodol gofal iechyd yn y rhanbarth.

Meddai Enlli Pritchard o Wynedd: "Mae fy mlwyddyn gyntaf yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi bod yn anhygoel, mae hi'n teimlo fel un teulu mawr yma. Mae ‘na ymdeimlad cryf o berthyn yma, dwi'n teimlo mod i’n cael fy ngwerthfawrogi, yn cael fy nghefnogi a bod yr ysgol wir yn gofalu amdana i. Mae'r Ysgol Feddygol yn un efo’r gymuned leol, ac mae'r cysylltiad hwnnw nid yn unig yn cyfoethogi sut dan ni’n dysgu ond hefyd yn helpu i ehangu mynediad at feddygaeth. Dwi'n ddiolchgar i bob un o'r darlithwyr, y staff clinigol a’r staff cefnogi am feithrin amgylchedd mor gefnogol. "Does ‘na nunlle y bysai'n well gen i astudio meddygaeth"
Meddai Mustafa Al-Bazooni o Fanceinion, “Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn teimlo fel bod adre. Mae'r gefnogaeth gyson gan yr holl Athrawon a’r staff wedi bod yn anhygoel ac mae'r carfannau bach yn golygu bod yma gymuned glos ac mae cael astudio meddygaeth yn fan hyn fel breuddwyd yn dod yn wir. Mae’r darlithwyr ac aelodau eraill y staff bob amser yn mynd yr ail filltir i'n helpu ni efo bywyd academaidd a bywyd personol er mwyn ein siapio ni i fod y meddygon gorau y gallwn ni fod yn y dyfodol."
Meddai Erin Thomas o Gonwy, “Pan glywais fod ysgol feddygol yn agor yng ngogledd Cymru, roeddwn wrth fy modd. Roedd yn golygu y gallwn astudio ac aros yn rhan o fy nghymuned leol. Ers ymuno, mae'r profiad wedi bod yn un anhygoel. Mae'r staff bob amser yn agored i adborth gan fyfyrwyr, mae'r cyfleusterau clinigol yn groesawgar, ac mae'r meddygon teulu a'r nyrsys lleol sy'n ein cefnogi mor anogol. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn i fod yn hyfforddi yma.”
Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Prifysgol Caerdydd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), a Llywodraeth Cymru i ddarparu addysg ac ymchwil feddygol o'r radd flaenaf. Bydd niferoedd y myfyrwyr sy'n cael eu derbyn yn parhau i gynyddu'n gyson, gan gyrraedd 140 o fyfyrwyr y flwyddyn erbyn 2029–30.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, "Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn dangos ein hymrwymiad cryf i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld effaith drawsnewidiol darparu addysg feddygol o’r radd flaenaf yng ngogledd Cymru, gan sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau clinigol rhagorol a hefyd yn datblygu dealltwriaeth ddofn o anghenion unigryw cleifion Cymru.”
Dywedodd Dyfed Edwards, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, "Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn cynrychioli trobwynt i'r rhanbarth. Drwy hyfforddi meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yma yng ngogledd Cymru, dan ni’n buddsoddi'n uniongyrchol yn nyfodol ein cymunedau. Mae'r bartneriaeth hon efo Prifysgol Bangor eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan roi cyfle i fyfyrwyr hyfforddi a dysgu'n agos at adref ac mae hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu clinigwyr medrus a thosturiol a fydd yn gofalu am ein poblogaeth am flynyddoedd i ddod."
Mae Dr Nia Jones yn myfyrio am y flwyddyn gyntaf yma.