Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal dangosiad arbennig o’r ffilm Joy ddydd Mercher 12 Tachwedd am 6:30pm, ynghyd â sesiwn holi ac ateb wedi’r digwyddiad gyda'r actores Joanna Scanlan, sy’n gyn-enillydd BAFTA.
Cynhelir y dangosiad rhad a ddim hwn yn sinema Canolfan Gelfyddydau Pontio, fel rhan o raglen ddigwyddiadau’r hydref Pontio.
Mae gan Syr Robert Edwards, un o arloeswyr IVF a sy’n cael ei bortreadu’n y ffilm, gysylltiad cryf â hanes Prifysgol Bangor. Graddiodd Syr Robert Edwards, ym Mangor ym 1951 gyda gradd mewn Sŵoleg.
Mae Joy yn ffilm fywgraffyddol Brydeinig sy’n serennu Bill Nighy, Thomasin McKenzie, James Norton a Joanna Scanlan, actor sydd â chysylltiadau cryf â gogledd-orllewin Cymru.
Mae Joy yn adrodd hanes genedigaeth Louise Joy Brown ym 1978, sef babi tiwb prawf cyntaf y byd, a’r daith ddiflino dros gyfnod o ddeng mlynedd i wireddu ffrwythloni in Vitro (IVF). Caiff y ffilm ei adrodd o safbwynt Jean Purdy, nyrs ac embryolegydd ifanc sy’n cyd-weithio â'r gwyddonydd Syr Robert Edwards a'r llawfeddyg Patrick Steptoe er mwyn ceisio ffrwythloni teuluoedd sy’n delio ag anffrwythlondeb.
Ers hynny, mae miliynau o fabanod wedi'u geni ledled y byd diolch i IVF - tystiolaeth o’r hyn gyflawnodd Syr Robert Edwards.
Mae Joanna Scanlan yn actores enwog gafodd ei magu yng ngogledd Cymru, ac mae ganddi gysylltiad cryf â Bangor oherwydd graddiodd ei dau riant o’r Brifysgol. Yn 2023 derbyniodd radd er anrhydedd gan y Brifysgol am ei chyfraniad i adloniant poblogaidd a dysgu trwy'r cyfryngau.
Mae Joanna Scanlan yn ddiolchgar am y cyfle i ddychwelyd i Fangor: “Rwyf wrth fy modd yn mynychu dangosiad o Joy, a dwi’n deall ei fod yn ddigwyddiad unigryw gan fod Netflix wedi rhoi caniatâd arbennig i hyn ddigwydd. Mae hanes datblygiad biolegol yr Athro Robert Edwards, IVF yn ddigwyddiad pwysig iawn yn hanes gwyddoniaeth, ac yn un o wydnwch, egni a chreadigrwydd. Mae ei berthynas â Phrifysgol Bangor, yn Alma mater, yn un i’w dathlu a’i thrysori. Rwy’n falch iawn o fod yma i hyrwyddo’r dyn disglair a wnaeth ynghyd â Jean Purdy a Patrick Steptoe - mae’n debyg - wneud atgenhedlu’n realiti i dros bedair miliwn o deuluoedd.
Dywedodd Dr Nia Jones, Deon Meddygaeth ac Is-Ganghellor yr Ysgol ym Mhrifysgol Bangor a fydd yn cadeirio'r sesiwn holi ac ateb: “Mae gwaith Syr Robert Edwards yn parhau i ysbrydoli cenhedloedd o wyddonwyr a myfyrwyr nid yn unig ym Mangor, ond hefyd ledled y byd. Mae ei etifeddiaeth yn ein hatgoffa sut y gall chwilfrydedd, cysylltiad a charedigrwydd ddod ynghyd i newid a chreu miliynau o fywydau. Mae croesawu’r actor Joanna Scanlan yn ôl i Fangor i ddathlu ei stori trwy’r ffilm Joy nid yn unig yn anrhydeddu ei gyfraniad rhyfeddol i wyddoniaeth ond hefyd yn adlewyrchu ein cysylltiad parhaol rhwng creadigrwydd, ymchwil, a bodau dynol.”