Athro mewn ystafell ddosbarth gynradd

Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

 

 

Myfyrwyr yn eistedd ar y glaswellt yn edrych ar liniadur

Pam Astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid?

Mae gennym arbenigedd proffesiynol ac academaidd mewn amrywiol feysydd megis hawliau plant, cyfraith y teulu, dwyieithrwydd, addysg, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, llythrennedd, anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant. Mae'r amgylchedd dysgu cyfoethog ac amrywiol sydd yma'n nodwedd unigryw o'r cwrs, ac mae'n gyfle i chi astudio plentyndod ac Ieuenctid o nifer o safbwyntiau.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Proffil Myfyriwr Donna Dixon

Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

"Penderfynais i astudio yma oherwydd y ganmoliaeth oedd y cwrs wedi ei dderbyn o ran darlithwyr, cynnwys y cwrs a hefyd canran uchel o'r myfyrwyr wedi mynd ymlaen i fagu gyrfa yn y maes neu ehangu ar eu hastudiaethau."

Fideo - Gweld y byd trwy lygaid plentyn

Mae'r radd amlddisgyblaethol ddeinamig hon yn cynnig cyfle i chi astudio ystod amrywiol o bynciau sy'n ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes.

Tystysgrifau Graddio

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

Mae'r radd hon yn helpu diwallu'r galw am arbenigwyr sy'n meddu ar gymwysterau da a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd mewn amryw o gyd-destunau. Mae cyflogadwyedd yn thema allweddol yn y rhaglen Plentyndod ac Ieuenctid , ac rydym wedi cynnwys nifer fawr o gyfleoedd yn ein gradd i sicrhau bod gan ein graddedigion CV cryf. 

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ein hymchwil o fewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

Yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd. Mae ymchwil yn bwydo'n uniongyrchol i'r modiwlau y byddwch chi'n eu hastudio, gan gyflwyno safbwyntiau cyfoes i chi ar faterion amserol a sicrhau eich bod chi'n graddio gyda dealltwriaeth ragorol o amrywiaeth dda o faterion.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?