Cafodd y gwobrau eu cynnal yng Nghymdeithas y Gyfraith yn Llundain ar ddydd Mercher 3 Rhagfyr, 2025.
Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu’r gweithgareddau cyfreithiol pro bono gorau a wneir gan sefydliadau ac unigolion a’r effaith gadarnhaol y maent wedi’i chael ar y rhai a gafodd gymorth. Yn arwain y noson oedd golygydd cyfryngau The Sunday Times, Rosamund Urwin, a dathlodd hi lwyddiant gwaith cyfreithwyr pro bono a LawWorks.
Mae’r clinig yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau'r cyhoedd, gan gynnig profiad cyfreithiol ymarferol i fyfyrwyr dan oruchwyliaeth staff cymwysedig. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ymrwymiad y Clinig i fynediad at gyfiawnder a'i effaith gynyddol yn nhirlun cyfreithiol Cymru.
Mae’r wobr hon yn benllanw ar flwyddyn lwyddiannus i Glinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor gan iddynt ennill gwobr Pro Bono yng Ngwobrau News Legal Wales 2025 ym mis Mehefin. Roedd y wobr yn cydnabod y gwaith gwerthfawr a ddarperir gan glinig sy'n rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i'r rhai mewn angen.
Dywedodd Tracey Horton, Cyfarwyddwr Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol, “Rydym wrth ein bodd i ennill y wobr yn erbyn cystadleuaeth ffyrnig. Mae cael ein cydnabod ar ôl cyfnod mor fyr yn anrhydedd go iawn. Roeddem yn hynod o brysur y llynedd fel y gwelir o’n hadroddiad blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
"Mae’r Clinig yr un mor boblogaidd eleni ac rydym yn gweithio ar ôl-gofnodi tair wythnos ar gyfer apwyntiadau. Mae poblogrwydd y Clinig yn dystiolaeth o’r angen mawr am fynediad at gyfiawnder yng Ngogledd Cymru ac rydym yn gobeithio mynd o nerth i nerth”.
Mae Adroddiad Blynyddol Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor ar gael yma.