Mae ambell enghraifft yn cynnwys cefnogi ymgeiswyr gwleidyddol neu gymryd ochr yn gyhoeddus ar faterion gwleidyddol. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed os yw’r wyddoniaeth sy’n cael ei gynhyrchu yn gywir ac o ansawdd uchel.
Cyhoeddwyd ymchwil “Science Shouldn’t Be Political”, yn y Journal of Academic Ethics, gan Byron Hyde, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r ymchwil yn dweud bod pobl yn ymddiried llai mewn gwyddoniaeth pan fydd wedi’i gymysgu â gwleidyddiaeth.
Yn ôl yr astudiaeth, os caiff gwybodaeth wyddonol ei chyflwyno ochr yn ochr â negeseuon gwleidyddol – fel cefnogi safbwyntiau gwleidyddol penodol - fod y cyhoedd yn tueddu edrych yn llai dibynadwy ar yr agwedd wyddonol honno, hyd yn oed os yw’r ymchwil yn un cadarn.
Eglura Hyde: “Ni fedrwch wahanu gwyddoniaeth oddi wrth gymdeithas. Mae’n amhosibl cael gwyddoniaeth heb gefnogaeth y cyhoedd, sydd yn ei dro yn gofyn bod y cyhoedd yn ymddiried yn yr hyn y mae gwyddoniaeth yn ei wneud.”
Y brif neges yw bod ymddiriedaeth y cyhoedd yn un o asedau pwysicaf gwyddoniaeth, a gall ymgysylltu gwleidyddol roi’r ymddiriedaeth honno mewn perygl.
Edrychodd yr astudiaeth hefyd ar resymau cyffredin y mae gwyddonwyr yn eu rhoi dros gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys datgan mai dyletswydd ddinesig ydy gwneud, neu fod cysylltiad agos rhwng gwyddoniaeth â pholisi cyhoeddus. Pan gynyddodd ymgysylltiad gwyddoniaeth â gwleidyddiaeth yn ystod Etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2020, roedd cyfnodolion amlwg gan gynnwys Nature a Scientific American gwyddoniaeth yn datgan eu cefnogaeth i Joe Biden drwy honni bod angen iddynt amddiffyn gwyddoniaeth rhag bygythiadau gwleidyddol.
Daw’r astudiaeth i’r casgliad nad yw’r rhesymau hyn fel arfer yn ddigon cryf i gyfiawnhau colli ymddiriedaeth y cyhoedd. Dim ond mewn achosion prin y mae cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yn gyfiawn, sef pan fo’r buddion — a’r tebygolrwydd o’u cyflawni — yn amlwg yn fwy na’r niwed i hygrededd. Nid oedd yr amodau hyn yn cael eu bodloni yn 2020 oherwydd bod cefnogaeth wleidyddol yn ddiangen ac yn aneffeithiol.
Er mwyn helpu i ddiogelu ymddiriedaeth mewn gwyddoniaeth, mae’r astudiaeth yn awgrymu, fel rheol gyffredinol, na ddylai gwyddonwyr ymrafael ym myd gwleidyddiaeth. Mae hefyd yn argymell cynnal adolygiadau moeseg cyn i sefydliadau gymryd rhan mewn eiriolaeth wleidyddol, a sefydlu rheolau cliriach sy’n gwahanu mynegiant ffeithiau gwyddonol oddi wrth farn wleidyddol.
Mae Hyde yn pwysleisio: “Yn y tymor hir, mae angen gwell addysg wyddonol fel y gall pobl wahaniaethu’n well rhwng tystiolaeth wyddonol a dadleuon gwleidyddol.”