Mae’r adroddiad, Amlddatrys ar gyfer Sero Net yng Nghymru Wledig, yn dadlau y bydd polisïau sero net yn fwy effeithiol ac yn cael eu cefnogi'n gyhoeddus os cânt eu cynllunio i ddarparu nifer o fuddion ar unwaith. Fe'i cyhoeddir gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales, partneriaeth sy'n dwyn ynghyd ymchwilwyr, rhanddeiliaid a chymunedau i ddefnyddio ymchwil i ddylanwadu ar bolisi. Mae Prifysgol Bangor yn bartner allweddol.
Mae dull amlddatrys yn canolbwyntio ar atebion sy'n lleihau allyriadau, ac ar yr un pryd yn gwella llesiant, yn cryfhau economïau lleol ac yn cefnogi gwytnwch diwylliannol ac ieithyddol.
Yn seiliedig ar gyfweliadau ac astudiaethau achos o bob cwr o Gymru, mae'r ymchwil yn tynnu sylw at enghreifftiau lle mae gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd eisoes wedi helpu i leihau biliau ynni, gwella mynediad at wasanaethau, adfer tirweddau a chreu cyflogaeth leol.
Dywed yr awduron fod y canfyddiadau’n dod ar adeg hollbwysig, wrth i Lywodraeth newydd Cymru baratoi i osod blaenoriaethau ar gyfer tymor nesaf y Senedd. Mae Cymru eisoes yn arweinydd byd-eang o ran deddfwriaeth cynaliadwyedd, gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015). Mae'r ymchwil newydd hon yn dangos sut y gall Llywodraeth newydd Cymru barhau i arwain ar sero net wrth ddarparu buddion uniongyrchol i bobl Cymru.
Dywedodd Dr Sophie Wynne‑Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Bangor, sy'n brif ymchwilydd ar y project hwn: “Mae cymunedau gwledig eisiau bod yn rhan o’r newid i sero net, ond maen nhw hefyd eisiau gweld manteision clir yn eu bywydau beunyddiol. Mae ein hymchwil yn nodi camau ymarferol y gall llywodraeth a sefydliadau sy'n gweithio ledled Cymru eu cymryd i droi ymrwymiadau hinsawdd yn ganlyniadau y gall pobl eu gweld a'u cefnogi.
Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i wneud y canlynol:
- Canolbwyntio polisïau sero net ar fanteision y gall pobl eu gweld ym mywyd beunyddiol, fel cludiant a chysylltiadau gwell mewn ardaloedd gwledig, busnesau lleol cryfach, costau ynni is, cartrefi cynhesach, a chefnogaeth i ddiwylliant a chymunedau lleol.
- Rhoi pobl a chymunedau lleol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau drwy weithio gyda sefydliadau lleol dibynadwy a llunio projectau o amgylch anghenion lleol, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg lle bo’n briodol.
- Buddsoddi mewn pobl a sefydliadau a all ddod â gwahanol grwpiau at ei gilydd, gan helpu sectorau i gydweithio'n agosach ac osgoi gweithio ar eu pen eu hunain.
- Newid systemau ariannu a monitro fel eu bod yn cefnogi projectau cydgysylltiedig hirdymor, yn hytrach na chynlluniau tymor byr sydd ag effaith gyfyngedig.
- Defnyddio polisi cyhoeddus a chynllunio i sicrhau bod datblygiadau a phrojectau isadeiledd newydd yn darparu sawl budd ar unwaith — gan gynnwys gwelliannau amgylcheddol, cymunedau cryfach, amddiffyniad diwylliannol, a thwf economaidd lleol.
Mae'r awduron yn dod i'r casgliad y byddai mabwysiadu'r argymhellion hyn, wedi'u llywio gan enghreifftiau byd go iawn o amlddatrys sydd eisoes ar y gweill ledled Cymru, yn cryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd, yn cefnogi newid cyfiawn ac yn cyflymu cynnydd tuag at sero net yng nghefn gwlad Cymru.
Gan adeiladu ar y gwaith hwn, mae’r tîm yn datblygu rhaglen gymorth i alluogi awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i fabwysiadu dull amlddatrys. Maent yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan sefydliadau sydd am fod yn rhan o’r cam nesaf hwn. Cysylltwch â’r tîm.
Mae'r adroddiad llawn a'r crynodeb polisi ar gael yn www.lpip.cymru.