Cronfa Bangor yn cefnogi project Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau i ddathlu Diwrnod Hanes Dau Ganmlwyddiant Pont Borth
Rydym yn dathlu dau ganmlwyddiant Pont Grog Menai eiconig Thomas Telford eleni. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddathlu campwaith peirianneg nodedig ar garreg ein drws. Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn falch o nodi'r garreg filltir bwysig hon drwy gysylltu ein myfyrwyr a'r gymuned leol â hanes cyfoethog ac arwyddocâd diwylliannol parhaol y bont.
Gyda chefnogaeth Cronfa Bangor, mae Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau, dan arweiniad yr Athro Ruth Mcelroy, wedi gallu creu rhaglen fywiog o weithgareddau dwyieithog sy'n dod â'r dathliad hwn yn fyw. Drwy deithiau maes, projectau ysgrifennu creadigol a ffilmiau rhaglen ddogfen, ynghyd â chyfleoedd i ymgysylltu â'r cyhoedd, bydd myfyrwyr o bob lefel israddedig ac ôl-radd yn cael cyfle i archwilio stori pontydd crog Menai a Chonwy, a'u heffaith barhaus ar Gymru a thu hwnt.
Mae'r fenter hon yn adlewyrchu’r ymdeimlad cryf o leoliad sy’n benodol i Brifysgol Bangor, ac ymrwymiad y brifysgol i waith ymgysylltu cymunedol. Mae gweithio mewn partneriaeth ag archifau lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol yn gyfle i gyfoethogi profiad y myfyrwyr yn ogystal â chryfhau cysylltiadau hanfodol ledled gogledd Cymru. Yn y bôn, mae’r rhaglen yn tynnu sylw at y rhyngweithio pwerus rhwng gwyddoniaeth, peirianneg a'r celfyddydau; yn union fel y'i deallwyd yn nhreftadaeth Telford. Drwy’r dull amlddisgyblaethol hwn, rydym yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu â hanes mewn ffyrdd ystyrlon ac ymarferol, wrth ddatblygu sgiliau a fydd yn cefnogi eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Dywedodd Persida Chung, Swyddog Datblygu:
Mae ein diolch diffuant i’r cyn-fyfyrwyr y mae eu haelioni drwy Gronfa Bangor wedi gwneud y cyfle rhyfeddol hwn yn realiti, gan ganiatáu i’n myfyrwyr fod yn rhan o ddathliad hanesyddol. Diolch i roddion gan gyn-fyfyrwyr, mae Cronfa Bangor yn cyfoethogi profiad myfyrwyr drwy agor drysau i brofiadau y tu hwnt i’r beunyddiol.
Mae Cronfa Bangor yn dibynnu ar roddion gan gyn-fyfyrwyr, a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Prif nod y gronfa yw darparu elfen ychwanegol at brofiad myfyrwyr.