Llefydd Newid Hinsawdd Seminarau 2025
Dr Sarah Stein Lubrano
Yn y sgwrs fer hon, bydd y damcaniaethwr cymdeithasol Sarah Stein Lubrano yn cyflwyno rhai syniadau allweddol o'i llyfr, Don't Talk About Politics, sy'n dadlau bod ffocws ar ddadl a "marchnad syniadau" yn tynnu sylw (ac yn waeth) oddi wrth waith gwirioneddol newid gwleidyddol: adeiladu perthnasoedd allweddol a helpu pobl i weithredu yn y byd.
Yna bydd Dr. Stein Lubrano yn archwilio cysyniad allweddol yn y llyfr, anghysondeb gwybyddol, ac yn dadlau y gall helpu i ddeall y rhesymau pam mae pobl weithiau'n derbyn, ac weithiau'n gwrthod, darnau newydd o ddeddfwriaeth. Gan ddefnyddio enghraifft parthau allyriadau isel, sydd wedi derbyn ergyd eithafol gan y cyhoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bydd hi'n gofyn: beth fyddai'n ei gymryd i helpu'r cyhoedd i dderbyn deddfwriaeth hinsawdd? A all, a ddylai, gwleidyddion a llunwyr polisi wneud yr hyn sydd ei angen? Ac a ellir defnyddio'r un seicoleg er drwg
Professor Rhiannon Tudor Edwards
Bangor University
Mae'r seminar hwn yn gyfle i ddysgu am yr heriau y mae economegwyr iechyd yn eu hwynebu wrth ddechrau meddwl am ymgorffori materion cynaliadwyedd mewn model traddodiadol o asesu technoleg iechyd. Yn ogystal, bydd Rhiannon yn amlinellu sut, fel economegwyr iechyd yn CHEME, Prifysgol Bangor, rydym yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn cyfrannu at y ddadl ryngwladol ynghylch mesur cyd-fuddion iechyd camau gweithredu ar draws systemau iechyd i liniaru newid hinsawdd.
Efallai y bydd y seminar hwn o ddiddordeb i economegwyr iechyd, ymarferwyr iechyd cyhoeddus sydd â diddordeb mewn iechyd y boblogaeth, a gwyddonwyr sydd â diddordeb mewn Un Iechyd a newid hinsawdd. Hoffem hefyd groesawu unigolion sydd â diddordeb o fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol gan fod hwn yn bwnc trawsddisgyblaethol, ar lefel system rhyng-sectorol.
Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards yw cyd-gyfarwyddwr sefydlu'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi'n canolbwyntio ar ymchwil economeg iechyd y cyhoedd ac atal gyda thîm o ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa. Mae ei diddordeb mewn atal, yn dilyn cyhoeddi dau lyfr a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen, wedi ei harwain ar lwybr clir o'r angen i wynebu heriau iechyd y boblogaeth ac economeg iechyd newid hinsawdd ar lefel leol a rhyngwladol.
Dr Charlie Gardner
Prifysgol Caint
Mae cadwraeth natur bob amser wedi bod yn ymdrech ar sail lleoliad i atal a gwrthdroi newid - rydym yn ceisio gwarchod ein bioamrywiaeth, ac yn ddelfrydol, ei hadfer i gyflwr dymunol y gorffennol. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod y ddaear yn cynhesu’n golygu bod newid yn anochel, ac yn gwneud y dull hwn yn anarferedig, felly mae'n rhaid i gadwraethwyr ailystyried yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni wrth i'r blaned gynhesu. Gan ddefnyddio dyfodol coedwigoedd Prydain fel arbrawf syniadaeth, awgrymaf y dylai cadwraethwyr geisio cynnal ecosystemau swyddogaethol yn hytrach na cheisio atal diflaniad rhywogaethau yn lleol, ac y bydd hyn yn gofyn am newid i’n dulliau nad ydynt yn ymyraethol. Bydd yn golygu edrych i'r dyfodol yn hytrach na'r gorffennol, nodi'r rhywogaethau a fydd yn ffynnu o dan amodau’r dyfodol, a hwyluso’r broses o’u sefydlu trwy gytrefu cynorthwyol.
Mae’r sgwrs bryfoclyd hon yn dod â natur, newid hinsawdd a daearyddiaeth ynghyd i archwilio sut ydym yn addasu i’n byd newidiol, a bydd o ddiddordeb i unrhyw un sydd â diddordeb yn lleoedd neu’r dyfodol.
Mae Dr Charlie Gardner yn gadwraethwr, yn gyfathrebwr hinsawdd ac yn ymgyrchydd. Yn uwch ddarlithydd cyswllt yn Sefydliad Cadwraeth ac Ecoleg Durrell (DICE, Prifysgol Caint), mae ei waith yn canolbwyntio ar rôl ymgyrched academaidd yn y mudiad hinsawdd ac wrth addasu'r sector cadwraeth i realiti newydd yr argyfwng hinsawdd.
Dr Gary Robinson
Prifysgol Bangor
Bydd y papur rhyngddisgyblaethol hwn yn archwilio’r berthynas rhwng ffyrdd traddodiadol o ddeall yr amgylchedd o fewn cymunedau arfordirol a morwrol Cymru, a chanfyddiadau cyfoes o erydu arfordirol sy’n cael ei ysgogi gan lefelau’r môr yn codi a mwy o stormydd ar y môr. Ffocws yr astudiaeth fydd arfordir Gwynedd yng Ngogledd Cymru. Bydd y papur yn cymryd golwg gronolegol eang ar y pwnc er mwyn archwilio’r dystiolaeth hirdymor yng nghyd-destun newidiadau ar hyd yr arfordir ac ymateb cymunedau iddynt. Yn y rhanbarth hwn gellir dod o hyd i dystiolaeth ffisegol o newid arfordirol yn y canlynol: Mythau Celtaidd Cantre'r Gwaelod; coedwigoedd tanddwr Bae Ceredigion; erydiad tirnodau cynhanesyddol a hanesyddol megis Dinas Dinlle; colli tir ffermio oherwydd gorlif tywod ac yn y bwriad i wacáu trefgordd Y Friog yn gyfan gwbl. Gan ddefnyddio methodolegau a dynnwyd o archeoleg, hanes tirwedd a daearyddiaeth ffisegol byddwn yn archwilio ymatebion dynol yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol i fywyd o fewn y dirwedd arfordirol ddeinamig hon. Byddwn yn dod i’r casgliad, trwy ymgysylltiad dynol â’r dirwedd forwrol ac arfordirol, bod cymunedau’n gwneud synnwyr o newid trwy greu naratifau sydd wedi’u lleoli’n hanesyddol, a bod naratifau o’r fath yn cynnig dewis amgen, a bythol, i resymeg ddad-ddyneiddiol gwyddoniaeth.
Richard A Shirres, MSc (App.Env.Sc.), MICE,
Ysgrifennydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig - Porthaethwy
Mae'r sgwrs yn amlinellu gwreiddiau pragmatig y Cenhedloedd Unedig. Yn sgil yr ymwybyddiaeth ddatblygol ar ôl yr Ail Ryfel Byd o'r angen i ddiogelu'r amgylchedd, sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig fel sefydliad rhyngwladol y byd, a aeth ymlaen i ddatblygu ac arwain yn systematig ar yr agenda amgylcheddol ryngwladol. Mae ei eiriolaeth gynhenid dros gytundebau amlochrog, yn enwedig wedi'u llywio gan gyrff gwyddonol pwrpasol, wedi arwain at sicrhau consensws rhyngwladol ynghylch confensiynau allweddol sy'n llywodraethu Bioamrywiaeth, yr Hinsawdd a Diffeithdiro; mae'r cyfan bellach yn hollbwysig o ran yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol yr ydym yn ei wynebu wrth i ddynoliaeth, trwy ei lluniad paradeim ei hun, barhau i fygwth ffiniau planedol.
ARGYMHELLIR I BOB YMCHWILYDD
I unrhyw un sydd â diddordeb yn egwyddorion rheolaeth ecolegol fyd-eang heddiw, mae'r sgwrs hon yn rhoi cipolwg ar gamau hanesyddol y Cenhedloedd Unedig tuag at ddiogelu'r amgylchedd yn rhyngwladol, ac felly’n rhoi fwy o bwyslais ar werthfawrogi etifeddiaeth sylfaenol yr amlochrogiaeth ryngwladol hon sy'n sail i'r egwyddorion hynny.
(Yn anuniongyrchol, mae’n cadarnhau’r rhagosodiad bod yr heriau yr ydym yn eu hwynebu nawr yn deillio o baradeim afresymol sy’n seiliedig ar ddogma gwleidyddol, anghyfiawnder a buddiannau corfforaethol)