
“Mae dwy ran i fy mywyd ym Mangor ers imi ddarganfod y ddinas hudolus hon am y tro cyntaf yn 2022 fel myfyriwr BA ar raglen gyfnewid Erasmus. Gadewais Brest, y ddinas lle bûm yn astudio, a deuthum i Fangor. Er na wyddwn i hynny ar y pryd, byddwn yn creu rhai o fy atgofion gorau ac yn cwrdd â rhai o fy ffrindiau anwylaf. Dim ond am semester y parhaodd hynny ond roedd yn fwy na digon imi chwennych mwy, ac arweiniodd hynny imi wneud cais i Brifysgol Bangor i ddychwelyd i'r byd hwn fel myfyriwr ôl-radd swyddogol ym Mangor yn 2023.
Cyn sôn am bwnc fy astudiaethau, gadewch imi ddweud ychydig wrthych chi am fy mywyd personol. Ffrances ydw i ac rwy'n byw mewn dinas hyfryd yn yr Almaen o'r enw Jena. Ond pan fyddaf yn dychwelyd adref at fy rhieni yn Ffrainc, gall pobl ddod o hyd imi mewn pentref bach ger Brest mewn rhan wyllt o Lydaw. Rwy'n ddynes a chanddi lawer iawn o hobïau. Er enghraifft, rwyf yn mwynhau chwarae gemau fideo (dwi'n bendant yn 'geek' ac yn 'nerd'), heicio, coginio, chwarae'r gitâr, codi pwysau, canu mewn karaoke, mynd i gyngherddau a gwyliau Metal. Rydw i hefyd yn hoff iawn o seryddiaeth, ieithoedd a thatŵs. Yn gryno, rwy'n fyfyriwr AuDHD chwilfrydig, allblyg, hamddenol, doniol (yn ôl fy ffrindiau).
Cymerais ran yn y cwrs MA Astudiaethau Cyfieithu, a graddiais gyda Rhagoriaeth yn 2024. Ar yr MA cefais bopeth roeddwn i eisiau a phopeth na wyddwn fy mod i'n ysu amdano. Oherwydd yr athrawon cyfeillgar a brwd byddwn i’n edrych ymlaen at y dosbarth nesaf. Mae gweithgareddau ysgogol a heriol yn cynnal fy mrwdfrydedd dros gyfranogi ac yn fy nhynnu i allan o’r hyn sy’n gyfforddus imi, ac mi lwyddodd yr athrawon i wneud hynny. O theori i ymarfer, cefais fy swyno. Yn ystod y flwyddyn, cawsom gyfle i gyfnewid gyda gweithwyr proffesiynol o wahanol gefndiroedd a gwahanol feysydd arbenigol (barddoniaeth, cyfieithu ar y pryd), gan ddangos inni’r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni a chynnig cyngor fel arbenigwyr iaith i dyfu a datblygu sgiliau. Er mai dim ond pedwar myfyriwr oedden ni ar y rhaglen eleni, roedd yn gyfle gwych i siarad â'n gilydd a deall safbwyntiau newydd ynglŷn â’r byd gan ein bod ni'n cynrychioli Cymru, Moroco, Libya a Ffrainc.
Oherwydd fy mywyd deublyg ym Mangor cefais gyfle i fyw bywyd gwahanol a mwynhau'r ddau brofiad. Roedd fy semester fel myfyriwr cyfnewid Erasmus yn llawn nosweithiau a dreuliais yn Bar Uno, yn enwedig nosweithiau Karaoke a nosweithiau gemau, ac yng nghlwb nos yr Academi. Mae Academi a Trinity, yr ail glwb nos ym Mangor, yn ategu ei gilydd yn eithaf da. A ydych chi'n hoff o gerddoriaeth yr 80au neu gerddoriaeth fwy traddodiadol y clwb nos? Os hynny Trinity yw’r clwb nos i chi. Ai cerddoriaeth Roc, Metal ac anthemau Pop poblogaidd yw eich dewis chi? Yr Academi yw’r lle i chi! Dwn im faint o weithiau y bûm i’n sgrechian yn uchel gyda’r anthemau Metal yn yr Academi a’r llais yn grug yn y bore. Ac nid Cymru fyddai Cymru heb fariau a chrôls o amgylch y tafarndai! Bydd llawer o gymdeithasau’n cynllunio crôls o’r tafarndai drwy gydol y flwyddyn ond yn sicr mi allwch chi gynllunio un gyda ffrind! Byddwn i'n argymell dechrau ym Mar Uno, codi eich hoff beint (Guinness imi), ac yna mynd yn syth i’r Bellevue. Mae gan y bar hwnnw batio mewnol hyfryd a chlyd lle cewch chi ymlacio, yfed, ysmygu a siarad â dieithriaid. Y dafarn nesaf yw’r Harp lle byddwch chi'n chwarae pŵl ac yn mwynhau diodydd bach creadigol (a blasus!). Nid nepell o’r fan mae Wetherspoon, sy'n adnabyddus iawn yn y Deyrnas Unedig. Y lle gorfodol olaf ar y rhestr yw’r Castell, bar clyd ger y stryd fawr sy'n gweini bwyd da.
Er imi barhau i wneud y gweithgareddau hynny yn ystod fy MA, treuliais fwy o amser yn crwydro’r ardal gan fy mod i'n mwynhau cerdded a heicio. Fel dinas rhwng y môr a’r mynydd, mae gan Fangor lawer i'w gynnig. Treuliais ddau aeaf yno. Dwi’n cofio yfed coffi twym wrth y pier a chopa’r mynydd yn wyn dan eira nid nepell o’r fan. Roedd y golygfeydd cymysg yn rhywbeth newydd imi! Mae cymaint o deithiau cerdded i'w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw yng Nghymru ond pe bai'n rhaid imi ddewis, byddwn i'n argymell Ynys Môn, Biwmares, Portmeirion, Llanberis, Llandudno, Parc Cenedlaethol Eryri, Betws-y-Coed, Cwm Idwal a’r Rhaeadr Fawr, Aber. Mae gen i atgofion melys o’r Rhaeadr Fawr ym mis Mawrth: Aros am y bws i ddychwelyd i Fangor oeddwn i mewn dillad gwlyb a budr oherwydd imi ddychmygu bod yn Lord of the Rings a phenderfynu rhedeg yn y bryniau a’r rheini’n llaid i gyd… Nid y foment ddisgleiriaf. Felly mi es i i'r siop goffi ger arhosfan y bws i aros am ennyd o fwynhad. Tra roeddwn yn yfed fy nhe, dysgodd y perchennog, dyn hyfryd, imi sut i wella fy ynganiad Cymraeg a dangosodd imi'r ffordd gywir o fwyta Bara Brith (rhybudd: wedi'i sleisio a menyn arno, pleser pur!).
Yn ystod y semester a’r MA, bûm i'n byw mewn neuaddau. Yn y fflat cyntaf imi ei rannu, roedd dau fyfyrwraig Erasmus (un yn ferch o'r Almaen) a llu o lasfyfyrwyr o Loegr. Mi wnaethon ni gyd-dynnu’n eithaf da! Byddai pawb byth a hefyd yn dod â ffrindiau draw a gyda fy nghyd-letywraig Erasmus a myfyrwyr rhyngwladol eraill o adeiladau eraill, bydden ni'n paratoi bwyd o'n gwlad ni. Cefais fy nghegiad cyntaf o gnocchi go iawn mewn saws tomato cartref a bisged Nadolig yr Almaen yno; Credaf imi wneud Poulet Basquaise a Mont d'Or, dau bryd Ffrengig nodweddiadol, Barbeciw a hyd yn oed rysáit risotto cwbl wreiddiol i ffrind o’r Eidal (cynnig beiddgar, mi wn ond fe wnaeth hi ei fwynhau'n fawr iawn). Yn ystod fy MA, bûm yn rhannu fflat gyda 6 o fyfyriwr ôl-radd rhyngwladol eraill o Tsieina, India a Malaysia. Roedd un o fy ffrindiau o Loegr yn dal i wneud BA yma, a byddai yntau’n dod draw o dro i dro i roi cynnig ar fwy o ddanteithion Ffrengig a'm dychryn gyda ffyrdd anghonfensiynol o fwyta prydau Ffrengig a fyddai'n peri i fy hynafiaid droi yn eu beddau.
Ar ôl fy semester yng Nghymru, dychwelais i Ffrainc i ddechrau ar semester olaf y BA ac, oherwydd natur fy ngradd, treuliais gwpl o fisoedd yn gwneud ymchwil yn Ottawa a Montreal. 10 mlynedd cyn fy ymchwil, treuliais bythefnos yn Quebec ac Ontario gyda fy rhieni; mi wnaeth y wlad argraff arnaf nes imi benderfynu cael tatŵ dail masarn fel addewid i ddychwelyd yno rhyw ddiwrnod. Roedd y cyfle hwnnw’n sicr yn fodd i wireddu breuddwyd a chyflawni addewid. Yna, fis Medi 2023, dychwelais i Fangor i ddechrau ar siwrnai newydd: gradd mewn Cyfieithu. Wrth i'r flwyddyn hedfan heibio, sylweddolais rywbeth: Roeddwn i eisiau ail radd Meistr i arbenigo mewn maes tebyg i'r BA (Hanes Lloegr ac America, Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth), gan obeithio dod yn gyfieithydd ardystiedig i Undeb Ewrop. Dechreuais ddysgu Almaeneg ychydig fisoedd cyn y penderfyniad hwnnw (ar gyfer fy ffrindiau o’r Almaen ac ar gyfer fy mywyd yn yr Almaen yn y dyfodol), gwnes gais i sawl rhaglen Meistr yn yr Almaen. Fis Mehefin 2024, dechreuodd y penderfyniadau gyrraedd gan gynnwys un gan fy newis cyntaf o blith y prifysgolion a dyma oedd y dyfarniad: Derbyniwyd. Fe wnaeth Prifysgol Friedrich-Schiller yn Jena, Thuringia fy nerbyn ar MA mewn astudiaethau Saesneg ac Americanaidd. O'r adeg honno tan ddiwedd mis Medi 2024, mi gadwodd fy llwyth meddyliol i ar flaenau fy nhraed. Mewn 3 mis, bu’n rhaid imi orffen fy nhraethawd MA cyn 29 Medi, chwilio am fflat yn Jena, gofalu am fiwrocratiaeth hysbys yr Almaen, gorffen fy nghais prifysgol a symud allan. Digon o hwyl, onid e? Ond yn y diwedd, mi lwyddais i ddod i ben â’r cyfan, ac ers 1 Hydref, rwy'n falch o ddweud fy mod yn fyfyriwr ôl-radd yn yr FSU.
Er imi raddio a ‘mod i bellach yn byw bywyd gwahanol iawn yn yr Almaen, rwy'n dal i ddisgrifio Cymru (yn enwedig Bangor) fel perl o le nad yw’n cael ei werthfawrogi'n ddigonol i'm ffrindiau. Mae'n debyg eu bod nhw'n meddwl imi ddangos gormod o luniau iddyn nhw neu siarad gormod ond, yn fy marn i, fydd o byth yn ddigon i roi geiriau ynglŷn â pha mor anhygoel oedd fy amser yno a pha mor hudolus yw'r lle hwn. Oherwydd amserlen yr ysgol, dwn i ddim pryd y byddaf yn gallu dychwelyd i Fangor ond rwy'n edrych ymlaen at ailddarganfod y lle a fu’n fodd imi dyfu fel person ac ymweld â rhai o fy ffrindiau.”