Clustffonau a ddefnyddir ar gyfer cyfieithu

Astudiaethau Cyfieithu

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Astudiaethau Cyfieithu

Pam Astudio Astudiaethau Cyfieithu?

Ym Mangor fe gewch gymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog sy'n ehangu a byddwch yn rhan o awyrgylch dysgu clos a chefnogol. 

Mae ein rhaglen Astudiaethau Cyfieithu yn cynnig cyfle i chi wneud ymchwil ym maes Astudiaethau Cyfieithu a bod yn rhan o ddiwylliant ymchwil ysgogol yn yr adran Ieithoedd Modern.

Mae arbenigedd yr ymchwil ym meysydd astudiaethau cyfieithu a diwylliannau ac ieithoedd lleiafrifol hefyd yn darparu ar gyfer diwylliant ymchwil sy'n arbennig o addas ar gyfer cymuned ddwyieithog Gogledd Cymru.

Fel myfyriwr ymchwil Astudiaethau Cyfieithu byddwch fel rheol yn cael dau oruchwyliwr ac yn sicr o gael mynediad llawn at gyfleusterau cyfrifiadurol (gan gynnwys meddalwedd cof cyfieithu).

Bydd y rhaglen astudio hon fel rheol yn cyfuno cyfieithiad gorffenedig o ddarn o waith beirniadol/ creadigol ynghyd â thraethawd hir, gan gynnwys dadansoddiad beirniadol/ sylwebaeth ar y cyfieithiad a'i gyd-destun a darn beirniadol sy'n ymwneud ag Astudiaethau Cyfieithu a fyddai'n gyfraniad at y maes.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Astudiaethau Cyfieithu

Mae cwblhau PhD neu MPhil yn llwyddiannus yn gwella rhagolygon cyflogaeth ac yn cynnig cyfleoedd mewn amryw o feysydd, gan gynnwys addysg uwch, cyfieithu, polisi a rheolaeth ddiwylliannol, y cyfryngau, newyddiaduraeth, y sector cyhoeddi, busnesau cenedlaethol a rhyngwladol.

Ein Hymchwil o fewn Astudiaethau Cyfieithu

Mae ein proffil rhyngwladol yn deillio o waith deinamig ein staff academaidd ac ymchwil, sydd wedi creu projectau o bwys yn unigol ac ar y cyd ag eraill ym meysydd hanes, diwylliannau a gwleidyddiaeth y byd Ffrengig, Almaenaidd, Sbaenaidd ac Eidalaidd, gydag arbenigedd cynyddol mewn Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau Tsieineaidd.

Rydym yn safle 13 yn y Deyrnas Unedig am ymchwil (REF 2014).  Mae projectau ar y cyd ar draws y gwahanol feysydd iaith yn golygu bod gan yr ysgol ddiwylliant ymchwil bywiog a thraws-ddisgyblaethol sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at y cyrsiau ôl-radd.

Mae gennym gryfderau arbennig ym meysydd ymdrin â diwylliannau Ffrangeg a Sbaeneg ôl-drefedigaethol, gwleidyddiaeth cofio a choffáu, llên teithio, Astudiaethau Catalanaidd a Galisaidd, troseddu trefnedig yn yr Eidal,  cyfieithu, pŵer a disgwrs beirniadol, ffilm a hunaniaethau cenedlaethol, diwylliant poblogaidd a chomics, diwylliannau materol a thestunau materol, diwylliannau gweledol a chelf gyfoes.   Mae arbenigedd ymchwil traws-ddisgyblaethol yn arbennig o gryf ym meysydd astudiaethau cof, ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol,  astudiaethau teithio, astudiaethau diwylliannol trefol, trosglwyddo diwylliannol, a chyfieithu a newidiadau economaidd-wleidyddol.

Mae'r Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru yn ddim ond un enghraifft o ymchwil iaith ym Mhrifysgol Bangor.  Mae'n ganolfan ymchwil gyda'r mwyaf blaenllaw yn y byd yn ei maes a'i nod  yw hyrwyddo ac atgyfnerthu ymchwil a dysgu astudiaethau Galisaidd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol, gan fanteisio ar safle amlwg Prifysgol Bangor ym maes Astudiaethau Iberaidd ac enw da Prifysgol Bangor yn fyd-eang fel canolfan ymchwil i ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol, astudiaethau Celtaidd a dwyieithrwydd. 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?