Astudiwch gyda Ni: Archwiliwch y Meddwl Dynol ym Mhrifysgol Bangor
Mae ein Hysgol yn dwyn ynghyd ymchwilwyr ysbrydoledig, cyfleoedd dysgu rhagorol a chysylltiadau cryf â'r byd ehangach.
- Ymchwilwyr: Dysgwch gan seicolegwyr cydnabyddedig yn rhyngwladol sy'n gweithio ar draws niwrowyddoniaeth, iechyd yr ymennydd, iaith, llythrennedd, datblygiad, gwneud penderfyniadau a lles meddyliol, gan ddefnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf i fynd i'r afael â heriau pwysig yn y byd go iawn.
- Cyfleoedd dysgu: Manteisiwch ar addysgu sy'n seiliedig ar ymchwil a llwybr blaengar o astudiaeth israddedig trwy hyfforddiant ôl-raddedig a phroffesiynol, gan gynnwys rhaglen Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol gyntaf y DU.
- Ymgysylltu â'r byd: Gweithio gydag ysgolion, llywodraeth, partneriaid iechyd ac addysg ledled Cymru a thu hwnt, gan drosi ymchwil seicolegol yn effaith gymdeithasol ystyrlon.
Ein Cyrsiau
Beth sy'n Gwneud Seicoleg ym Mangor yn Wahanol
Rhagoriaeth ac Effaith Ymchwil
Mae ein hymchwil yn rhychwantu niwrowyddoniaeth wybyddol a chlinigol; iechyd yr ymennydd, adsefydlu a niwrotechnoleg; iaith, cyfathrebu a llythrennedd; datblygiad a dysgu plant; gwybyddiaeth gymdeithasol, gwneud penderfyniadau a lles meddyliol. Daw’r themâu hyn ynghyd trwy gydweithio rhyngddisgyblaethol sy’n cysylltu gwyddoniaeth seicolegol sylfaenol â heriau cymdeithasol yn y byd go iawn, ym meysydd iechyd, addysg a pholisi cyhoeddus.