Strategaeth Iechyd a Lles 2020-2024

Strategaeth Iechyd a Lles 2020-2024

Ein gweledigaeth ar gyfer iechyd a lles yw y bydd y brifysgol yn: creu diwylliant lle gallwn siarad yn agored am iechyd a lles; ymrwymo i gefnogi ein staff a'n myfyrwyr i gynnal ffordd iach o fyw gan ganolbwyntio’n gadarn ar atal a lleihau afiechyd ac ysgogi newid cymdeithasol trwy brofi a lledaenu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil er budd ein cymuned fyd-eang yn ehangach.

Strategaeth Iechyd a Lles 2020-2024 

a diagram of the Health and Wellbeing Strategy

Fersiwn PDF Hygyrch o'r Diagram

 

1. Amgylcheddau cadarnhaol

  • Adeiladu, gwella a chynnal amgylcheddau gweithio a dysgu cadarnhaol a chefnogol ar draws Prifysgol Bangor. Byddwn yn:
    • Darparu arweinyddiaeth glir mewn perthynas ag iechyd a lles a dulliau cefnogi sy'n meithrin diwylliant agored, gan leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â chodi materion iechyd, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
    • Creu a sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr lles i hyrwyddo lles ar draws y Colegau a’r Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Bangor. Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a gwasanaethau Myfyrwyr, i ddysgu o'u rhagoriaeth ac adeiladu ymhellach ar y ddarpariaeth i’r gymuned myfyrwyr (e.e. myfyrwyr sy’n gwirfoddoli Connect@Bangor).
    • Creu trefn lywodraethu mewn perthynas â’n strategaeth iechyd a lles i alluogi datblygiad iechyd a lles ar draws Prifysgol Bangor..
    • Defnyddio canlyniadau arolwg staff 2020 i ddatblygu strategaeth iechyd a lles staff, sy’n cyd-fynd â'r strategaeth iechyd meddwl a lles dan arweiniad myfyrwyr 2020-2022, i alluogi dull prifysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles erbyn 2024.

2. Hyrwyddo ac ymgysylltu

  • Creu dealltwriaeth o iechyd a lles ar draws Prifysgol Bangor, ac ymgysylltu â’r materion hynny; Byddwn yn:
    • Cael cyd-ddealltwriaeth o iechyd a lles
    • Codi ymwybyddiaeth o'r ddarpariaeth gyfredol
    • Datblygu amrywiaeth o fentrau (e.e. digwyddiadau, ymgyrchoedd) i hyrwyddo gweithgareddau ac ymddygiad lles
    • Datblygu cynllun cyfathrebu yn amlinellu sut y byddwn yn hyrwyddo'r gwaith a'r gweithgareddau iechyd a lles sy'n cael eu gwneud. Bydd hyn hefyd yn cynnwys y sianeli byddwn yn eu defnyddio i gyrraedd y gwahanol gynulleidfaoedd targed (e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, e-bost, deunydd printiedig) a bydd yn adlewyrchu cyfathrebu mewnol ac allanol
    • Ei gwneud hi'n hawdd i staff a myfyrwyr gael mynediad i’r ddarpariaeth ac ymgysylltu trwy ddatblygu a chefnogi polisi, yn ogystal â chyfeiriadau clir at adnoddau, ynghyd â mynediad syml (e.e. cael un storfa ar-lein)

3. Iechyd ataliol a gweithredol

  • Galluogi pob unigolyn i wireddu ei botensial, ymdopi â phwysau arferol bywyd, gweithio'n gynhyrchiol ac yn llwyddiannus a gallu cyfrannu at eu cymuned (Sefydliad Iechyd y Byd). Byddwn yn:
    • Darparu cefnogaeth iechyd a lles ragorol i staff a myfyrwyr trwy gynnig amrywiaeth o adnoddau ac arbenigedd sy'n canolbwyntio ar ddarparu addysg sy’n arwain y sector, atal, ymyriad cynnar a lle bo angen, cyfeirio at asiantaethau allanol.
    • Darparu ymyriadau a mentrau gan ganolbwyntio ar bum prif thema, lles meddyliol ac emosiynol, gweithgarwch corfforol, materion iechyd cyfoes, (e.e. bwydydd iach a chynaliadwy, defnyddio a chamddefnyddio sylweddau), ac amgylcheddau cynaliadwy.
    • Datblygu hyfforddiant iechyd a lles ar gyfer rheolwyr llinell i alluogi arweinyddiaeth a thrafodaeth dosturiol gyda staff ar iechyd a lles, tra’n cadw cydbwysedd rhwng cyfrifoldeb y cyflogwr a pherchnogaeth yr unigolyn.
    • Grymuso staff a myfyrwyr i gymryd camau annibynnol i gefnogi eu hiechyd a'u lles eu hunain

4. Ymchwil a Pholisi Poblogaeth

  • Arwain a chyfrannu at ymchwil a pholisi iechyd a lles lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Byddwn ynl:
    • Tynnu sylw at y gwaith hwn a’i ddathlu. Hefyd, bydd projectau ymchwil perthnasol yn y brifysgol yn darparu dulliau i dreialu a gwerthuso cynlluniau iechyd a lles. Un enghraifft o hyn yw CALIN (http://www.calin.wales/cy/), project Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a fydd yn darparu ymchwil a datblygu mewn perthynas ag iechyd a lles ar gyfer sefydliadau yng Nghymru ac Iwerddon. Mae projectau o'r fath yn ychwanegu gallu fel y gellir gwneud ymchwil a'i blethu i strategaeth y brifysgol.

Bydd set o fetrigau perfformiad allweddol yn cael eu datblygu gyda chytundeb Pwyllgor Gweithredu’r Brifysgol, y Cyngor, Undebau Staff ac Undeb y Myfyrwyr. Bydd cydlynu gweithgareddau iechyd a lles yn cael ei wneud gan swyddi presennol yn y pedwar maes allweddol, Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Myfyrwyr, Colegau, ac Iechyd a Diogelwch. Bydd gweithgareddau'n cael eu dwyn ynghyd o dan gylch gorchwyl y Grŵp Prifysgol Iach. Lle bo angen, byddwn yn cyfethol unigolion o strategaethau sefydliadol allweddol (e.e. cynaliadwyedd) i ddenu’r arbenigedd sydd ei angen a sicrhau bod strategaethau’n cael eu halinio ar draws y brifysgol. Ceir goruchwyliaeth sefydliadol ehangach o'n Strategaeth Iechyd a Lles trwy adroddiad blynyddol a gynhyrchir gan y Dirprwy Is-ganghellor/Deon Coleg Gwyddorau Dynol i Bwyllgor Gweithredu’r brifysgol a thrwy strwythurau pwyllgorau presennol ar gyfer monitro penodol a darparu rhaglenni gwaith strategol.

  • Dangosyddion Perfformiad Allweddol lefel uchel:
    1. Ymwybyddiaeth staff a’u parodrwydd i siarad yn agored am iechyd a lles
    2. Tystiolaeth o staff a myfyrwyr yn gweithredu i gynnal ffordd iach o fyw gan ganolbwyntio’n gadarn ar atal a lleihau afiechyd
    3. Dadansoddi a lledaenu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil er budd ein cymuned fyd-eang ehangach
  • Clystyrau o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer nodau strategol:
    1. Amgylcheddau cadarnhaol
    2. Hyrwyddo ac ymgysylltu
    3. Iechyd ataliol a gweithredol
  • Creu diwylliant lle gallwn siarad yn agored am iechyd a lles  

    Hyrwyddwyr wedi eu penodi
    1.2 
    2.2 
    2.4 
    3.1 

    Mae pennaeth pob ysgol a’r gwasanaethau proffesiynol yn cael hyfforddiant iechyd a lles 
    1.1 
    1.3 
    3.3 

    Cwestiwn yn ymwneud ag iechyd a lles ar ffurf adolygiad datblygu perfformiad i ysgogi dealltwriaeth gyffredin o iechyd a lles ac anghenion unigol  
    1.3 
    2.1 
    2.5 
    3.4 

    Ychwanegu cwestiwn i’r arolwg staff am y diwylliant o siarad yn agored; cymharu â'r hyn sy'n cyfateb yn strategaeth iechyd meddwl y myfyrwyr
    1.4 

    Gwirio’r arolwg staff am gwestiynau  

    Dangosydd perfformiad allweddol grŵp-benodol i adlewyrchu agweddau unigryw ar ddarparu gwasanaeth e.e. y gwasanaeth arlwyo’n darparu bwyd iach

    Ymrwymo i gefnogi ein staff a myfyrwyr i gynnal ffordd iach o fyw gan ganolbwyntio’n gadarn ar atal a lleihau afiechyd

    Cynyddu ymwybyddiaeth a welir gan y prysurdeb ar y wefan;
    Marchnata Cysylltiadau Cwsmeriaid (cyfraddau agor negeseuon e-bost, clicio trwodd), presenoldeb mewn digwyddiadau mewnol

    2.4  

    Tariff ar y model dyrannu llwyth gwaith
    3.1 
    3.4 

    Ymgysylltu â gweithgareddau’r brifysgol a'r gymuned - mesur trwy gofnodi’r nod barcud
    2.5 
    3.1 
    3.2 

    Datblygu ymyriadau yn seiliedig ar anghenion i gefnogi iechyd a lles
    2.3 
    3.1 
    3.2 
    4.1 

      

    Dangosydd perfformiad allweddol grŵp-benodol i adlewyrchu agweddau unigryw ar ddarparu gwasanaeth e.e. y gwasanaeth arlwyo’n darparu bwyd iach

    Ysgogi newid cymdeithasol trwy brofi a lledaenu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil er budd ein cymuned fyd-eang ehangach.

    Defnyddio data REF 2021 i ddatblygu cysylltiadau allanol a mewnol ar gyfer lledaenu ymarfer da
    2.4 
    4.1 

    Manteisio ar ganlyniadau CALIN er budd staff, myfyrwyr a busnes
    2.3 
    3.1 
    3.2 
    4.1 

    Effeithiolrwydd gwerthuso  

      

      

    Dangosydd perfformiad allweddol grŵp-benodol i adlewyrchu agweddau unigryw ar ddarparu gwasanaeth e.e. y gwasanaeth arlwyo’n darparu bwyd iach

    Monitro cyffredinol o iechyd a lles sefydliadol

    Iechyd Meddwl:
    WEMBS

    Iechyd Corfforol:
    [nodi graddfa]

    Materion Iechyd Cyfoes::
    [graddfa]

     

     

     

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?