Digwyddiad Ar-lein Gyrfaoedd mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol a Chefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol
Ydych chi'n ystyried gyrfa mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) neu mewn Cefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol (PBS)? Ymunwch â'n digwyddiad gyrfaoedd lle cewch glywed yn uniongyrchol gan ymarferwyr sy'n gweithio ar draws addysg, gofal cymdeithasol a gofal iechyd. Bydd siawns i gael cipolwg ar swyddi yn y byd go iawn, llwybrau gyrfa, ac effaith Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol a Chefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol yn ymarferol.
Beth i’w ddisgwyl?
Darganfyddwch ystod eang o lwybrau gyrfa mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol a Chefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol. Cewch glywed gan ymarferwyr profiadol wrth iddynt roi cipolwg i chi o'i rôl, a rhannu cyfleoedd cyflogaeth a goruchwylio cyfredol o fewn eu sefydliadau. Byddwch hefyd yn cael trosolwg clir o achrediad proffesiynol ar gyfer dadansoddwyr ymddygiad yn y DU.
Bydd cyfle i ddysgu am y llwybrau astudio sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys yr MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) a MSc mewn Cefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol (PBS), yn ogystal ag opsiynau ôl-raddedig eraill megis PGCert a PGDip. Darganfyddwch lwybrau hyblyg llawn amser a rhan amser, a chyfleoedd i gwblhau lleoliadau ymarferol mewn amryw o leoliadau proffesiynol.
Mae'r sesiwn hon wedi'u hanelu at...
- Myfyrwyr sy'n astudio'r MSc Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol neu'r MSc Cefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol.
- Myfyrwyr sy'n astudio gradd mewn Addysg, Seicoleg neu faes cysylltiedig.
- Unigolion sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn gysylltiedig â Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol neu Cefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol.
Nodwch. Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal yn amodol ar niferoedd lleiafswm (o leiaf 5 yn y sesiwn).
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu aildrefnu'r sesiwn.