Bydd deiliaid y gwobrau yn derbyn pecyn cymorth cynhwysfawr trwy gydol eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, gan gynnwys bwrsariaeth o £4,000, mentora wedi ei deilwra, mynediad at wybodaeth am y diwydiant a chyfleoedd i gael datblygiad proffesiynol.
Mae’r gwobrau talent lled-ddargludyddion yn rhan o'r Semiconductor: Skills, Talent and Education Programme (STEP), menter a ariennir gan y llywodraeth i roi’r sgiliau i fwy o bobl ifanc ffynnu yn niwydiant lled-ddargludyddion y Deyrnas Unedig. Nod y gwobrau yw annog myfyrwyr i ganolbwyntio ar led-ddargludyddion o ddechrau eu hastudiaethau.
Digwyddiadau Cynefino Llwyddiannus ledled y Deyrnas Unedig
Ym mis Medi 2025, aeth deiliaid y gwobrau i un o bum digwyddiad cynefino difyr, a gynhaliwyd ym Mirmingham, Bryste, Caergrawnt, Glasgow, ac ar-lein. Cynlluniwyd y digwyddiadau hyn i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr electroneg trwy rannu gwybodaeth werthfawr am led-ddargludyddion a thynnu sylw at yrfaoedd gwerth chweil.
Yn ystod y digwyddiadau:
- Rhannodd siaradwyr o ddiwydiant, y byd academaidd a'r llywodraeth eu gwybodaeth. Roedd y siaradwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Arm, yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, Cadence, CSA Catapult a Siemens.
- Roedd tri deg o gwmnïau yn arddangos, a rhoddodd hynny gyfle i fyfyrwyr gael gwybodaeth uniongyrchol am gyfleoedd gyrfa mewn lled-ddargludyddion.
- Cafodd y cyfranogwyr gyfle i gwrdd ag eraill sy'n dechrau gyrfa yn y diwydiant lled-ddargludyddion a dechrau adeiladu rhwydwaith cefnogol.
Dywedodd Mariella, deiliad gwobr, am y digwyddiad cynefino:
Cawson un sesiwn am ddod i adnabod ein gilydd ac eglurhad am y system proffil DISC a mwy am y fwrsariaeth L & D, roedd yn sesiwn wych gyda grŵp mawr o bobl gyfeillgar. Yn ystod y digwyddiadau hyn, gwnes gyfarfod â phobl o wahanol gefndiroedd, nid yw fy rhieni’n bobl academaidd ac roedd llawer o’r bobl eraill yno’n dod o gefndir tebyg yn ogystal â phobl sydd wedi cael magwraeth fwy academaidd.
Sicrhau cronfa dalent i ddyfodol lled-ddargludyddion y Deyrnas Unedig
Mae’r gwobrau talent lled-ddargludyddion yn rhan o lwybr cyffredinol o ymgysylltiad gydag ysgolion hyd at ddechrau gyrfa yn y diwydiant lled-ddargludyddion.
Ar ôl cwblhau eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, gall deiliaid gwobr wneud cais am ysgoloriaeth UKESF, sy'n cynnig cyfleoedd profiad gwaith â thâl, bwrsariaethau parhaus a rhwydweithio yn y diwydiant. Ers 15 mlynedd, mae'r cynllun arobryn hwn wedi cefnogi mwy na 900 o israddedigion i gael profiad gwaith ystyrlon gyda dros 100 o gyflogwyr ym maes electroneg a thechnoleg.
Trwy gefnogi'r israddedigion hyn, mae UKESF yn helpu cryfhau cronfa dalent electroneg a lled-ddargludyddion y Deyrnas Unedig, gan sicrhau arloesi, twf a chystadleurwydd byd-eang.
I ddysgu mwy am y gwobrau talent lled-ddargludyddion, lawrlwythwch yr adroddiad llawn yma.
Fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol: Cynllun y Sector Digidol a Thechnoleg, mae'r Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg wedi cyhoeddi y bydd rhagor o gefnogaeth ar gael dros y 3 blynedd nesaf. Mae hyn trwy raglen sgiliau gwerth £35 miliwn ledled y Deyrnas Unedig a fydd yn cynnwys bwrsariaethau lled-ddargludyddion i hybu cofrestru mewn cyrsiau gradd blaenoriaeth a gweithgareddau allgymorth STEM sy'n canolbwyntio ar led-ddargludyddion.
Ynglŷn ag UKESF
Elusen addysgol a sefydlwyd yn 2010 yw UK Electronics Skills Foundation (UKESF). Yn y Deyrnas Unedig, mae electroneg, yn enwedig dylunio a gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion, yn sector sy'n tyfu ac sy’n strategol bwysig yn ein heconomi. Fodd bynnag, mae'r galw am raddedigion galluog yn llawer mwy na'r cyflenwad.
Mae UKESF yn gweithio i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau cenedlaethol hwn mewn ffordd gydlynol; mae'n gweithredu ar y cyd â chwmnïau mawr a phrifysgolion blaenllaw. Mae UKESF hefyd yn cynnal gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu i sicrhau bod mwy o blant ysgol yn ymwybodol o electroneg a'r cyfleoedd sydd ar gael. Cyflawnir hyn trwy amrywiaeth o weithgareddau addysgol, projectau a hyfforddiant athrawon sy'n canolbwyntio ar electroneg.
Y rhai sydd wedi ennill y wobr – o'r Chwith i'r Dde: Alden Tabor, Seth Parry, Mariella Gallard-Oakley, Joseph Shaw & Arthur Setterfield-Milln.