Cynhadledd Ar-lein Darganfod Economeg
Mae’r gynhadledd ar-lein Darganfod Economeg yn cynnig cyfres ddiddorol o weithdai sydd wedi eu cynllunio i roi dealltwriaeth ddyfnach o economeg i bobl ifanc, disgyblion Blwyddyn 11-13. Wedi'i gynnal gan Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Trwy enghreifftiau o'r byd go iawn a gweithgareddau rhyngweithiol, bydd cyfranogwyr yn trafod sut mae economeg yn dylanwadu ar benderfyniadau bob dydd ac yn darganfod y llwybrau gyrfa amrywiol sydd ar gael i economegwyr proffesiynol. Bydd y gweithdai hefyd yn cael eu cynnig yn y Gymraeg ar ddydd Mercher.
Cynhelir y tri gweithdy dros gyfnod o dri mis rhwng 9:15-10:15.
Mae'r gweithdai yn cynnwys:
Chwefror: Dydd Llun 9fed (Saesneg) a Dydd Mercher 11eg (Cymraeg).
Gweithdy 1: Pam mae prisiau'n bwysig – Trafod cymwysiadau go iawn o elastigedd pris galw a deall sut mae prisiau'n dylanwadu ar ymddygiad.
Mawrth: Dydd Llun 23ain (Saesneg) a Dydd Mercher 25ain (Cymraeg).
Gweithdy 2: Cofiwch y gyfradd! – Gweithdy rhyngweithiol ar gyfraddau llog, cyllid personol a’r effaith ar benderfyniadau bob dydd.
Ebrill: Dydd Llun 27ain (Saesneg) a Dydd Mercher 29ain (Cymraeg).
Gweithdy 3: Tariffau ar waith: Pwy sy'n ennill, pwy sy'n colli? – Deall sut mae tariffau masnach yn effeithio ar ddefnyddwyr, busnesau ac economïau.