Mae dwy long pysgota siarcod llinell hir wedi cael eu tynnu’n ôl yn barhaol o un o bysgodfeydd siarcod mwyaf blaenllaw’r wlad, yn yr hyn yr ydym yn credu yw'r cynllun allbryniant llongau cyntaf yn Indonesia, trwy ein project ymchwil-i-effaith cydweithredol rhwng y sefydliad anllywodraethol lleol Kebersamaan Untuk Lautan (KUL) ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol IPB.
Roedd y cynllun peilot allbryniant bach yn defnyddio arwerthiant gwrthdro cynnig wedi'i selio – mecanwaith newydd i’r cyd-destun hwn – i nodi gwerthwyr parod a phennu pris iawndal teg. Gweithredwyd yr allbryniant gan KUL mewn partneriaeth ag Adran Materion Morol a Physgodfeydd Gorllewin Nusa Tenggara (DKP NTB).
Pam mae Tanjung Luar yn bwysig
Mae Tanjung Luar, ar arfordir Dwyrain Lombok, yn gartref i tua 61 o gychod pysgota siarcod llinell hir trwyddedig. Dros gyfnod monitro o ddwy flynedd, cofnodwyd dros 13,000 o siarcod a morgathod o 57 o rywogaethau - gyda dros 90% yn cynnwys rhywogaethau sydd bellach wedi'u rhestru o dan y Confensiwn ar Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl (CITES). Wrth i reoliadau masnach ryngwladol ar siarcod barhau i dynhau, mae dichonoldeb hirdymor pysgota siarcod yn gynyddol ansicr. O’r herwydd, mae pysgodfa siarcod Tanjung Luar yn cynrychioli risg i rywogaethau sydd o dan beth bygythiad, cydymffurfiaeth CITES a'r 150 o bysgotwyr sy'n dibynnu'n uniongyrchol ar y bysgodfa hon am eu bywoliaeth.
Mae hyn yn bwysig y tu hwnt i'r bysgodfa ei hun. Mae dyfroedd Gorllewin Nusa Tenggara yn cynnwys sawl Ardal sy’n Bwysig i Siarcod a Morgathod (ISRAs) a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac mae'r dalaith yn ganolfan gynyddol o ran twristiaeth forol: mae safleoedd megis The Magnet (sy'n adnabyddus am gydgasgliadau siarcod pen morthwyl a morgathod), Bae Saleh (cyfarfyddiadau â siarcod morfilaidd) a Gili Petelu (snorclo siarcod ar y riff) yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Mae ymchwil yn awgrymu y gellir priodoli miliynau o ddoleri'r flwyddyn mewn refeniw twristiaeth Indonesia i boblogaethau iach o siarcod a morgathod. Nid blaenoriaeth gadwriaethol yn unig yw amddiffyn y rhywogaethau hyn - mae'n fuddsoddiad yn economi las y dalaith.
Dull newydd: yr arwerthiant sy'n gydnaws â chymhelliad
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu offer ymarferol, ar sail tystiolaeth, i gymodi nodau cadwraeth â bywoliaeth a llesiant cymunedau arfordirol. Mae'r rhaglen allbryniant llongau yn gymhwysiad uniongyrchol o'r gwaith hwn. Defnyddiwyd arwerthiant gwrthdro cynnig wedi'i selio a oedd yn gydnaws â chymhelliad - yn seiliedig ar fecanwaith Vickrey - lle'r oedd perchnogion llongau a oedd yn dymuno gadael y bysgodfa yn wirfoddol yn cyflwyno cynigion cyfrinachol gan nodi'r pris isaf y byddent yn ei dderbyn. Dewiswyd y cynigwyr isaf, yn seiliedig ar y gyllideb oedd ar gael, a thalwyd pris unffurf i bob enillydd a osodwyd ar lefel y cynnig uchaf a wrthodwyd. Mae'r rheol 'ail bris' hon yn annog cynnig gonest, yn cynyddu nifer y llongau sy'n cael eu tynnu’n ôl ar gyfer cyllideb benodol, ac yn sicrhau proses dryloyw a theg. Hyd y gwyddom ni, dyma'r tro cyntaf i fecanwaith o'r fath gael ei gymhwyso mewn pysgodfa drofannol ar raddfa fach ac at ddibenion cadwraeth siarcod.
Canlyniadau: cadwraeth deg a chost effeithiol
Cyflwynodd pedwar perchennog llongau geisiadau'n wirfoddol. Yn seiliedig ar gyllideb KUL, dewiswyd dau, a thalwyd IDR 300 miliwn (~US$17,700) i bob un. Cynhaliwyd seremoni drosglwyddo ffurfiol ym Mhorthladd Pysgota Tanjung Luar ynghyd â DKP NTB, gan gynnwys llofnodi cytundebau rhwymol ac ildio holl ddogfennaeth y llong a thrwyddedau pysgota. Mae DKP NTB bellach yn goruchwylio’r broses o ddatgomisiynu’r llongau’n barhaol a chanslo trwyddedau.
Yn seiliedig ar ddata monitro dalfeydd, roedd y ddwy long wedi cipio 406 o siarcod a morgathod yn 2025 yn unig. Dros gyfnod o ddeng mlynedd, gall cael gwared ar y llongau hyn yn barhaol atal tua 4,000 neu fwy o siarcod a morgathod rhag cael eu lladd, am gost o lai na US$9 fesul anifail a achubir - sy’n cymharu'n ffafriol â dulliau amgen a chyda gwerth twristiaeth amcangyfrifedig siarcod byw.
Dywedodd Said Ramdlan, cyd-sylfaenydd ac ysgrifennydd KUL: “Mae’r rhaglen hon yn dangos bod pysgotwyr yn fodlon gadael y bysgodfa siarcod yn wirfoddol pan gânt gynnig pris teg a phroses barchus. Fe wnaethom gynllunio hyn ar y cyd â'r gymuned bysgota, ac mae'r ymateb yn rhoi hyder i ni y gellir ehangu'r dull hwn.”
Dywedodd Muslim, S.T, M.Si, o DKP NTB: “Rydym yn gwerthfawrogi’r rhaglen a weithredwyd gan KUL, gan ei bod yn darparu cyfleoedd i bysgotwyr siarcod yn Tanjung Luar sy’n dymuno newid eu bywoliaeth, gan barhau i fynd i’r afael â thargedau cadwraeth a llesiant pysgotwyr. Mae'r fenter hon yn cyd-fynd â Chynllun Datblygu Tymor Canolig Rhanbarthol (RPJMD) Talaith Gorllewin Nusa Tenggara.
Rhan o gydweithrediad ehangach
Mae'r cynllun peilot allbryniant llongau yn rhan o raglen ehangach o ymchwil gydweithredol a gweithredu cadwraeth rwy'n ei harwain o Brifysgol Bangor, gan weithio gyda’r Athro Julia Jones yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Drwy ein grantiau gan Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Ryngwladol (ISPF) a’r Gronfa Cadwraeth Siarcod (SCF), rydym yn cefnogi KUL a phartneriaid ledled Indonesia i ddatblygu a gwerthuso dulliau cymunedol o gadwraeth siarcod a morgathod - o ddefnyddio systemau camera tanddwr (BRUVS) gyda physgotwyr yn Aceh, i ddylunio ymyriadau sy'n seiliedig ar gymhellion a chefnogi partneriaid llywodraeth i weithredu CITES.
Yn benodol yn NTB, penodwyd KUL yn ddiweddar yn gydlynydd rheoli pysgodfeydd siarcod a morgathod o dan Bwyllgor Rheoli Pysgodfeydd ar y Cyd (KPBP) newydd y dalaith, a ffurfiolwyd trwy Archddyfarniad y Llywodraethwr. Mae'r bartneriaeth sefydliadol gynyddol hon yn dyst i'r ymddiriedaeth a'r hygrededd y mae KUL wedi'i feithrin trwy flynyddoedd o weithio ochr yn ochr â chymunedau pysgota a'r llywodraeth, ac mae’n darparu llwyfan i ehangu'r dulliau ar sail tystiolaeth yr ydym yn eu datblygu gyda'n gilydd.
Wrth i Indonesia weithio i gyflawni ei rhwymedigaethau CITES o ran siarcod a morgathod, mae’r angen am fecanweithiau ymarferol i leihau pwysau pysgota, mewn ffordd sy’n deg i'r cymunedau sy'n dibynnu ar y pysgodfeydd hyn, yn cynyddu. Mae'r cynllun peilot hwn yn dangos bod allbryniant llongau, os caiff ei wneud yn y ffordd iawn, yn cynnig un dull o'r fath – ac yn darparu model y gellir ei atgynhyrchu a’i ehangu fel rhan o ymdrechion pontio ehangach, dan arweiniad y llywodraeth, tuag at reoli pysgodfeydd siarcod cynaliadwy yn Indonesia.
Cefnogwyd y gwaith hwn gan Fenter Darwin y Deyrnas Unedig drwy Brifysgol Rhydychen, y Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) a'r Gronfa Cadwraeth Siarcod drwy Brifysgol Bangor, a grant uniongyrchol i KUL gan y Gymdeithas Cefnforol.