Mae astudiaeth ymchwil bwysig newydd wedi dangos ffordd effeithiol o ddefnyddio pren i sicrhau oeri byd-eang tymor hir.
Cydweithiodd Prifysgol Bangor mewn consortiwm rhyngwladol, dan arweiniad Prifysgol Galway, i ymchwilio i gyfuno defnyddio pren gwerth isel i weithgynhyrchu, cyn iddo gael ei drawsnewid yn danwydd i gynhyrchu ynni glân, â dal a storio carbon, pan fydd y cynhyrchion yn cyrraedd diwedd eu hoes.
Datgelodd yr ymchwilwyr y gall y strategaeth hon o gyfuno coedwigaeth â defnydd "rhaeadrol" o gynhyrchion pren chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni targedau niwtraliaeth hinsawdd, ac mae'n darparu manteision hinsawdd mwy gwydn a hirdymor na llosgi pren wedi ei gynaeafu i gynhyrchu ynni ar unwaith neu adael coedwigoedd heb eu cynaeafu.
Mae'r ymchwil wedi ei gyhoeddi yma yn Communications Earth & Environment y cyfnodolyn Nature.
Meddai Dr George Bishop o Brifysgol Galway, prif wyddonydd yr astudiaeth: “ Ni ellir cyrraedd targedau niwtraliaeth hinsawdd cenedlaethol heb gael gwared â charbon deuocsid ar raddfa fawr. Mae bio-ynni gyda dal a storio carbon (BECCS) yn darparu un o'r ychydig ddulliau o ddileu carbon yn barhaol wrth gynhyrchu ynni adnewyddadwy, dull y gellir ei gynyddu neu ei leihau’n unol â'r anghenion. "Mae ein hymchwil yn dangos bod rhaeadru defnydd pren i fio-ynni gyda dal a storio carbon yn ddull cadarn o liniaru newid yn yr hinsawdd sy'n sicrhau gostyngiad tymheredd hirdymor.”
Mae'r ymchwil yn arbennig o arwyddocaol i’r Deyrnas Unedig yn ogystal â gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys Iwerddon, sydd ag ymrwymiadau ‘sero net’ cyfreithiol-rwymol i gyflawni niwtraliaeth hinsawdd erbyn 2050 - sy'n golygu bod rhaid dileu unrhyw nwyon tŷ gwydr a ollyngir neu eu cydbwyso trwy dynnu swm cyfartal o'r atmosffer.
Daw un o'r heriau mwyaf o sectorau lle mae torri allyriadau’n sylweddol yn dechnegol anodd ac yn gostus, fel diwydiant trwm, y sector hedfan ac amaethyddiaeth.
Mae bio-ynni gyda dal a storio carbon wedi ei nodi fel ateb posib i'r her hon. Wrth i goed dyfu, maent yn amsugno carbon deuocsid o'r atmosffer ac yn ei storio yn eu biomas. Pan gaiff coedwigoedd eu cynaeafu, caiff rhywfaint o’r gweddillion pren gwerth isel eu llosgi i gynhyrchu bio-ynni, gan ryddhau'r carbon yn ôl i'r atmosffer. Yn achos bio-ynni gyda dal a storio carbon, gellir dal y CO₂ hwn a'i storio'n barhaol yn ddwfn o dan y ddaear – gan waredu’r nwy tŷ gwydr o'r atmosffer am byth.
Fodd bynnag, disgwylir y bydd defnyddio seilwaith bio-ynni gyda dal a storio carbon ar raddfa fawr yn cymryd degawdau. Mae'r tîm ymchwil wedi amlinellu cyfle i lenwi’r bwlch hwn: yn hytrach na llosgi pren gwerth isel i gynhyrchu ynni, gellir defnyddio'r deunyddiau hyn yn gyntaf i weithgynhyrchu cynhyrchion fel bwrdd gronynnau i ymestyn yr amser storio carbon cyn defnyddio bio-ynni gyda dal a storio carbon ar ddiwedd oes y cynnyrch pren hwn.
Mae hyn yn cynnig buddiannau deuol: mae'n creu manteision ar unwaith i’r hinsawdd trwy ddisodli deunyddiau carbon-ddwys fel plastigion, ac yn "prynu amser" i ddefnyddio bio-ynni gyda dal a storio carbon.
Ar ddiwedd eu hoes, gellir defnyddio'r cynhyrchion pren hyn ar gyfer bio-ynni – ond y tro hwn mewn cyfleuster bio-ynni gyda dal a storio carbon fydd wedi cael digon o amser i gael ei roi ar waith erbyn hynny. Ar yr un pryd, bydd coedwigoedd sy'n cael eu rheoli'n gynaliadwy yn aildyfu i gymryd lle coed a gynaeafwyd, gan barhau i dynnu carbon deuocsid o'r atmosffer, gan weithredu fel gwactod carbon.
Mae'r astudiaeth yn dangos bod y cylch cyfun hwn yn creu llwybr gwaredu carbon gwydn gydag effaith oeri byd-eang hirdymor sylweddol, gan gefnogi nodau ‘sero net’ niwtraliaeth hinsawdd yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
Meddai’r Athro David Styles, cyd-awdur y gwaith ac Athro Amaeth-gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Galway: "Mae'r goblygiadau ar gyfer polisïau'n glir: er mwyn cyrraedd targedau hinsawdd uchelgeisiol, rhaid i lywodraethau flaenoriaethu datblygu technolegau dal a storio carbon deuocsid parhaol a rhoi cymhellion i ddefnyddio pren yn gylchol i ymestyn ei oes fel storfa garbon. Trwy integreiddio rheolaeth coedwigoedd cynaliadwy â strategaethau pren cylchol a rhaeadru a bio-ynni gyda dal a storio carbon, gall y gymuned fyd-eang sicrhau llwybr mwy gwydn a chydnerth tuag at sefydlogi'r hinsawdd.”
Meddai’r Athro John Healey, cydawdur y gwaith ac Athro Gwyddorau Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor: “Mae gan yr astudiaeth arloesol hon oblygiadau mawr i bolisïau rhyngwladol i leihau cyflymder newid yn yr hinsawdd, ac yn benodol i’r Deyrnas Unedig o ystyried ei buddsoddiad mawr mewn cynhyrchu ynni carbon isel o hylosgi coed a’r potensial enfawr i ddal a storio carbon yn y meysydd nwy ac olew wedi eu disbyddu o dan Fôr Iwerddon a Môr y Gogledd. Mae'r canlyniadau'n darparu tystiolaeth gref i gefnogi'r cynnydd diweddar mewn defnyddio bio-ynni gyda dal a storio carbon trwy glwstwr HyNet North West. Maent hefyd yn dangos pwysigrwydd cydlynu'r buddsoddiad hwn â pholisi strategol i hyrwyddo coedwigaeth gynhyrchiol sy'n gysylltiedig â defnydd cylchol effeithlon o gynhyrchion pren.”
Meddai Dr James Gaffey, cyd-awdur ac Arweinydd Project ym Mhrifysgol Dechnolegol Munster: "Mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn tynnu sylw at yr angen am fwy o fuddsoddiad mewn seilwaith dal a storio carbon ochr yn ochr â datblygiadau bioeconomi cylchol a datblygiadau ynni adnewyddadwy rhaeadrol." Mae'r canlyniadau'n berthnasol i Iwerddon ac i aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd a bydd y dull yn gymorth iddynt gyflawni eu rhwymedigaethau hinsawdd ac osgoi cosbau yn y dyfodol."
Mae’r ymchwil hefyd wedi tynnu sylw at ddadansoddiad diddorol o'r gymhariaeth rhwng rheoli coedwigoedd yn weithredol a gadael coedwigoedd heb eu cynaeafu. Er bod coedwigoedd heb eu cynaeafu yn darparu oeri sylweddol yn y tymor byr, mae cryfder eu dalfa garbon yn lleihau wrth i goed aeddfedu, ac mae carbon sy'n cael ei storio mewn coedwigoedd byw yn gynyddol agored i aflonyddwch a achosir gan yr hinsawdd fel tanau gwyllt, plâu a chlefydau.
Meddai Dr Bishop: “Os ydym yn trosglwyddo carbon o goedwigoedd i storfeydd daearegol trwy gyfres o ddefnyddiau pren lluosog, rydym yn gwella hirhoedledd a gwydnwch y broses o waredu carbon deuocsid o’r atmosffer. Mae ein modelu soffistigedig yn dangos bod rhaeadru defnydd coed i fio-ynni gyda dal a storio carbon yn y pen draw yn rhagori ar fanteision hinsawdd coedwigoedd heb eu cynaeafu.”
Cefnogwyd yr ymchwil gan Adran Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr Iwerddon trwy broject INFORMBIO, ac roedd yn astudiaeth gydweithredol yn cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Galway, MTU, ac aelodau o’r EA Bioenergy BECCUS Inter-task o Brifysgol Technoleg Chalmers, Sweden; Sefydliad Brenhinol Technoleg KTH, Sweden; Prifysgol New England, Awstralia; Prifysgol Bangor, Cymru; DBFZ, yr Almaen; Canolfan Ymchwil Dechnegol VTT y Ffindir; a sefydliadau blaenllaw eraill.