Gwyddonydd o Brifysgol Bangor yn helpu i ddatgelu pam y gallai Ewrop wynebu hyd at wyth mis o haf
Mae ymchwil newydd yn datgelu am y tro cyntaf pam y gallai Ewrop ennill 42 diwrnod ychwanegol o haf erbyn 2100 gan ddefnyddio data hinsawdd o'r mil o flynyddoedd diwethaf.
Mae'n hysbys bod hafau dros y degawdau diwethaf wedi bod yn mynd yn boethach ac yn hirach.
Fodd bynnag, mae’r astudiaeth newydd yn dangos bod y duedd a welwyd heddiw yn adleisio amodau tebyg ledled Ewrop 6,000 o flynyddoedd yn ôl pan ymestynnodd cynhesu naturiol yr Arctig y tymor tywydd cynnes i bron i 200 diwrnod y flwyddyn - hyd sy'n gymharol â'r tymhorau cynnes modern mwyaf eithafol.
I ddatgelu pa mor anarferol yw newidiadau heddiw mewn gwirionedd, trodd ymchwilwyr, gan gynnwys y prif awdur, Dr Laura Boyall o Brifysgol Bangor, at archif annisgwyl o hanes hinsawdd - haenau hynafol o fwd wedi'u claddu ar waelod llynnoedd Ewrop.
Mae'r gwaddodion haenog tymhorol hyn, neu “galendrau hinsawdd naturiol”, yn cofnodi sut mae hafau a gaeafau wedi newid dros y 10,000 o flynyddoedd diwethaf.
Wrth wraidd yr ymchwil mae'r gwahaniaeth mewn tymheredd rhwng yr Arctig a'r cyhydedd. Mae'r gwahaniaeth hwn yn helpu i yrru'r gwyntoedd pwerus o Gefnfor yr Iwerydd i Ewrop, sy'n llywio systemau tywydd ar draws y cyfandir.
Wrth i'r Arctig gynhesu hyd at bedair gwaith yn gyflymach na'r cyfartaledd byd-eang, mae'r gwahaniaeth tymheredd hwnnw'n gwanhau, gan achosi i'r ceryntau aer arafu a throelli. Y canlyniad yw patrymau tywydd haf mwy parhaus, tonnau gwres hirach a'r tymor ei hun yn ymestyn.
Mae rhagamcanion hyd at ddiwedd y ganrif yn dangos os bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn parhau ar y lefelau uchel presennol, y gallai Ewrop weld dyddiau ychwanegol o haf, yn syml oherwydd yr ymateb naturiol i newid hinsawdd.
Ychwanegodd Dr Laura Boyall, prif awdur yr astudiaeth a Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol o Brifysgol Bangor, “Pan fydd y cyferbyniad rhwng tymheredd yr Arctig a'r hydredau canol yn gwanhau, mae haf Ewrop yn ymestyn i bob diben. Mae ein canfyddiadau'n dangos nad ffenomen fodern yn unig yw hon; mae'n nodwedd o system hinsawdd y Ddaear sy'n codi dro ar ôl tro. Ond yr hyn sy'n wahanol nawr yw’r cyflymder, yr achos a dwyster y newid.”
Datgelodd yr astudiaeth fod y gyfradd newid yn hafal i chwe diwrnod ychwanegol o haf am bob gradd y mae'r graddiant tymheredd rhwng y cyhydedd a Phegwn y Gogledd yn lleihau. Yn ôl y duedd bresennol o gynhesu yn yr Arctig, byddai hynny’n cyfateb i wyth mis o dywydd haf erbyn diwedd y ganrif.
Dywedodd Dr Celia Martin-Puertas, y prif ymchwilydd o Brifysgol Royal Holloway yn Llundain, “Rydym wedi gwybod ers blynyddoedd lawer fod hafau’n mynd yn hirach ac yn boethach ledled Ewrop, ond mae ansicrwydd mawr ynghylch sut neu pam. Mae'r canfyddiadau'n pwysleisio pa mor ddwfn yw cysylltiad tywydd Ewrop â deinameg hinsoddol fyd-eang a sut y gall deall y gorffennol ein helpu i fynd i’r afael â’r heriau sydd ynghlwm â phlaned sy'n newid yn gyflym.”
Mae'r ymchwil yn dod i'r casgliad y gallai allyriadau aerosolau diwydiannol a dolenni adborth mewnol system hinsawdd y Ddaear hefyd gyfrannu at ail-lunio rhythm tymhorol Ewrop mewn ffyrdd y mae gwyddonwyr yn dweud a allai gael canlyniadau dwys ar ecosystemau, adnoddau dŵr, amaethyddiaeth ac iechyd y cyhoedd.
I'r gwyddonwyr y tu ôl i'r astudiaeth hon, mae cofnodion o lynnoedd hynafol yn fwy na dim ond ffenestr i'r gorffennol - mae'n rhybudd am y dyfodol a'r hyn a allai ddigwydd.