Fy ngwlad:
Two students walking away from the Main Arts Building

Meddwl gwneud cais i Brifysgol Bangor?

Ar y dudalen hon:

Ymgeisia Rŵan ar gyfer Medi 2026

Dewisa’r Cwrs sy’n Addas i Ti

Gyda dewis eang o raddau ar draws y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a mwy, gelli ddilyn dy ddiddordebau a dod o hyd i gwrs sy’n cyd-fynd â dy uchelgeisiau a dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

GWELD EIN CYRSIAU

Sut i Wneud Cais

Mae gwneud cais i Fangor yn syml. Cyflwyna dy gais drwy UCAS gan ddefnyddio cod y sefydliad B06.

GWNEUD CAIS DRWY UCAS

Cwblha dy gais cyn gynted ag y gelli. Rydym yn dechrau adolygu ceisiadau a gwneud cynigion ar unwaith, felly mae’n well gwneud cais yn gynnar.

Ar gyfer mynediad 2026:

  • Y dyddiad cau UCAS ar gyfer meddygaeth: 15 Hydref 2025
  • Y dyddiad cau UCAS cychwynnol ar gyfer holl gyrsiau eraill: 14 Ionawr 2026

Rydym yn dal i groesawu ceisiadau ar ôl y dyddiadau hyn. Yn ystod 14 Ionawr i 30 Mehefin, bydd UCAS yn parhau i anfon ceisiadau i brifysgolion lle mae lleoedd ar gael.

Dy ddatganiad personol yw dy gyfle i ddweud wrthym pam rwyt mor frwdfrydig am dy bwnc. Byddi di’n cael hyd at 4,000 o lythrenau i egluro dy ddiddordeb, dy brofiad a’r hyn sy’n dy ysgogi. Gan fod yr un datganiad yn mynd at bob un o’r pum dewis cwrs, mae’n bwysig sicrhau fod y cyrsiau’n debyg ag i beidio nodi prifysgolion penodol.

CYNGOR AR SUT I DDRAFFTIO DATGANIAD PERSONOL

Gwneir holl geisiadau israddedig drwy UCAS. Gelli ddewis hyd at bum cwrs, ac UCAS fydd yn anfon dy gais i bob prifysgol a ddewisir. 

Cod UCAS Prifysgol Bangor yw B06.

GWNA CAIS DRWY UCAS

Rydym wedi ymrwymo i ehangu mynediad a chroesawu myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol. Defnyddiwn nifer o dangosyddion i adnabod ymgeiswyr a allai wynebu rhwystrau i Addysg Uwch, ac rydym yn cynnig cymorth ychwanegol lle bo’n briodol.

DYSGU MWY AM DDERBYNIAD CYD-DESTUNOL

6 Rheswm dros astudio ym Mangor

Ym Mangor, byddi di’n dysgu gan academyddion sy’n arwain yn eu meysydd ac sy’n dy wahodd i fod yn rhan o’u gwaith. Mae’r Ardd Fotaneg, yr Amgueddfa Hanes Naturiol a’n cyfleusterau ymchwil arbenigol – gan gynnwys ein llong ymchwil – yn rhoi cyfleoedd i ti brofi dy bwnc mewn ffyrdd ymarferol a chofiadwy.

Yma, nid yw dy ddysgu’n aros o fewn pedair wal y ddarlithfa. Byddi di’n rhoi syniadau ar brawf, yn camu mewn i amgylcheddau newydd ac yn magu hyder drwy brofiad uniongyrchol.

Mae Bangor yn adnabyddus am ei hawyrgylch gyfeillgar a’i theimlad clós. Mae Campws Byw yn dod â myfyrwyr ynghyd drwy drefnu digwyddiadau sy’n ei gwneud hi’n hawdd i setlo ac i gwrdd â phobl newydd.

O nosweithiau pizza a gwersi coginio i garioci, nosweithiau ffilm a theithiau cerdded mynydd, mae rhywbeth ar y gweill drwy’r amser.

Yn byw mewn neuadd neu’n teithio o gartref, mae’n hawdd dod o hyd i dy le yma.

O amgylch y ddinas mae cymysgedd gwych o fariau, caffis a bwytai, gan gynnwys Bar Uno ym Mhentref Ffriddoedd a Barlows ym Mhentref y Santes Fair.

Mae Pontio ein canolfan gelfyddydau ac arloesi, yn ganolbwynt bywiog gyda sinema, theatr, bar a chaffi oll dan yr un to.

Gyda’r mynyddoedd a’r môr ar stepen y drws, mae Bangor yn cynnig profiadau bythgofiadwy yn un o’r llefydd mwyaf ysbrydoledig i astudio ynddi yn y DU.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi amrywiaeth eang o glybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli, gan gynnwys:

  • Dros 60 o glybiau chwaraeon, o rygbi a phêl-droed i sgwba-blymio, dringo a chelfyddydau ymladd.
  • Cymdeithasau amrywiol sy’n ymestyn ar draws ystod o ddiddordebau academaidd, diwylliant, antur awyr agored, cerddoriaeth, drama, gemau a llawer mwy.
  • Prosiectau gwirfoddoli dan arweiniad myfyrwyr sy’n cefnogi llesiant, yr henoed, plant, yr amgylchedd, mentrau cymunedol, ymgyrchoedd a digwyddiadau.

Rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu fynd â dy angerdd gam ymhellach, mae cymuned yma sy’n barod i dy groesawu.

Rydym yn deall y pwysau ariannol sy’n gallu wynebu myfyrwyr, ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau nad yw costau’n rhwystr i brofiad prifysgol llawn.

Mae ein cymorth costau byw yn cynnwys:

  • Prydau fforddiadwy bob dydd o’r wythnos yng Nghaffi Teras
  • Cynhyrchion mislif am ddim
  • Mannau dysgu a mannau cynnes 24/7
  • Sesiynau cyllidebu un-i-un
  • Mynediad at fwrsariaethau, cronfeydd caledi ac ysgoloriaethau
  • Opsiwn llety mwy fforddiadwy

Rydym yma i dy helpu i wneud y gorau o dy arian fel y gelli di fwynhau dy amser yn y brifysgol.

Dewisa Bangor fel dy Ddewis Cadarn, a bydd sicrwydd o ystafell yn ein neuaddau yn aros amdanat.

Mae pentrefi’r Santes Fair a Ffriddoedd o fewn pellter cerdded i’r prif adeiladau a chyfleusterau, gan ei gwneud hi’n hawdd setlo i fywyd myfyriwr.

Mae’r rhent yn cynnwys:

  • Wi-Fi a rhyngrwyd gwifredig
  • Pob bil (dŵr, gwres a thrydan)
  • Aelodaeth o’r gampfa a Champws Byw

Byddi di’n byw mewn cymuned gyfeillgar a chefnogol lle mae wastad rhyw weithgaredd ar y gweill.

Mae dy ddyfodol yn bwysig i ni. Mae Bangor yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i ti ddatblygu sgiliau, magu hyder ac archwilio dy opsiynau gyrfa.

Cei fynediad at:

  • Arweiniad gyrfaoedd drwy gydol dy gwrs.
  • Lleoliadau, interniaethau a chyfleoedd profiad gwaith.
  • Cystadlaethau menter a chymorth i ddatblygu dy syniadau dy hun.
  • Swyddi rhan-amser a rolau gwirfoddoli drwy CyswlltGyrfa / CareerConnect.

Mae lleoliadau gwaith, Gwobrau BUILT a digwyddiadau gyda chyflogwyr yn dy helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol sy’n edrych yn wych ar dy CV ac yn rhoi hyder i ti wrth gynllunio’r cam nesaf.

Ciw o ddarpar fyfyrwyr ar gyfer y Diwrnod Agored, mae’r llun yn dangos eu coesau a phentwr o fagiau tote Diwrnod Agored.

Ymuna â ni ar Ddiwrnod Agored

Ystyried dy opsiynau ar gyfer astudio cwrs israddedig ym Medi 2026?

Dyma beth i'w ddisgwyl yn un o'n Diwrnodau Agored:

 

  • Cwrdd â'r academyddion sy'n llunio dyfodol dy bwnc
  • Gweld dysgu ymarferol, byd go iawn ar waith
  • Mwynhau ein tirwedd eiconig
  • Taith o amgylch ein llety
  • Sgwrsio â staff a myfyrwyr a chael teimlad go iawn o fywyd ym Mangor
  • Teimlo cynhesrwydd ein croeso

 

Dy Ddyfodol Ar Waith

Testun: Dy ddyfodol ar waith ym Mhrifysgol Bangor, gyda merch yn edrych ar lyfr mewn llyfrgell
Trawsgrifiad fideo: Dy Ddyfodol Ar Waith

Testun: DYMA
Disgrifiad Gweledol: Clip fideo drôn ysgubol wedi'i saethu dros Afon Menai, gyda Phorthaethwy i'r dde a Bangor i'r chwith. Mae Pont Menai yn sefyll yn y canol o dan awyr glir.

Testun: BRIFYSGOL
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyriwr yn darllen ar fainc o flaen adeilad Hen Goleg Prifysgol Bangor ar ddiwrnod heulog, braf.

Testun: BANGOR
Disgrifiad Gweledol: Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, wedi'i fframio gan goed yng nghanol y ddinas ar ddiwrnod braf.

Testun: Lle mae uchelgais a pherthyn yn cyfarfod
Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr yn sefyll y tu allan i adeilad Cerddoriaeth y brifysgol, yn edrych yn uniongyrchol i'r camera ac yn siarad â'r gwyliwr.

Testun: Mae Bangor wedi ei amgylchynu gan harddwch syfrdanol
Disgrifiad Gweledol: Triawd o fideos drôn o Eryri wedi’u cyflwyno mewn arddull taflunydd ffilm retro, yn dangos Llyn Padarn yn Llanberis, Yr Wyddfa, a chopa’r Wyddfa.

Testun: Ni allwch helpu ond cael eich ysbrydoli
Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr yn cerdded heibio'r murlun lliwgar y tu allan i Pontio, gan edrych yn syth i'r camera a siarad â'r gwyliwr.

Testun: O leoedd tawel
Disgrifiad Gweledol: Dilyniant o bum llun:
– Chwe myfyriwr yn ymarfer ioga yng Ngardd Fotaneg Treborth.
– Myfyriwr yn astudio coeden yng Ngardd Fotaneg Treborth.
– Pedwar myfyriwr yn cymdeithasu ac ymlacio wrth Bont Menai.
– Myfyriwr yn padlfyrddio ar Lyn Padarn.
– Grŵp o bedwar myfyriwr yn tynnu hunlun ar draeth Aberffraw.

Testun: I leoedd anturus
Disgrifiad Gweledol: Fideo o’r Gymdeithas Beicio Mynydd yn beicio ar drac Braichmelyn, gyda dau ohonynt yn reidio dros ramp.

Testun: Dwi'm jest yn astudio mewn lle hardd, dwi'n dysgu ganddo
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyriwr yn cerdded drwy Lyfrgell Shankland, yn dal llyfr melyn ac yn edmygu'r ystafell. Mae'n oedi wrth ffenestr, gan edrych ar olygfa ddinas Bangor, a gyflwynir mewn arddull taflunydd ffilm retro

Testun: Mae dysgu yma yn fwy na mynd i ddarlithoedd, yn fwy na darllen llyfrau
Disgrifiad Gweledol: Mae'r un myfyriwr yn eistedd yn Llyfrgell Shankland, yn edrych yn uniongyrchol i'r camera ac yn siarad â'r gwyliwr. Mae'n gorffen trwy orchuddio lens y camera yn chwareus â'i llyfr.

Testun: Mae'n ymarferol, mae'n fyw;
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyrwraig yn codi het galed i ffwrdd o'r camera ac yn ei rhoi ar ei phen. Mae hi'n cerdded ar hyd y bont i fynd ar long ymchwil y brifysgol, y Prince Madog, ac yn edrych yn syth i'r camera.

Testun: Mae’n seiliedig ar y syniadau diweddaraf
Disgrifiad Gweledol: Dilyniant o dri fideo:
– Clip fideo drôn o'r Prince Madog yn teithio tuag at Bont Menai ar Afon Menai.
– Trafodaeth rhwng tri myfyriwr a dau aelod o staff academaidd ar y llong.
– Clip o academydd yn cymryd rhan mewn trafodaeth fywiog gyda myfyriwr.

Testun: Mae'n cael ei arwain gan bobl efo breuddwydion mawr;
Disgrifiad Gweledol: Mae pedwar myfyriwr ac aelod o staff academaidd yn hyfforddi yn yr ystafell sgiliau clinigol yn Fron Heulog. Mae myfyriwr arall yn tynnu gwaed o fannequin yn adeilad Brigantia.

Testun: Academyddion sy'n trawsnewid diwydiannau gyda'u darganfyddiadau
Disgrifiad Gweledol:
Dilyniant o ddeg llun:
– Athro a dau fyfyriwr yn samplu morfeydd heli yng Nghanolfan Henfaes, gydag Ynys Seiriol yn y cefndir.
– Llun agos o’r un athro yn samplu.
– Dau fyfyriwr yn dadansoddi canfyddiadau mewn labordy.
– Llun agos o fyfyriwr yn defnyddio bwrdd anatomeg.
– Llun uwchben o’r un myfyrwyr yn defnyddio’r bwrdd.
– Myfyrwyr nyrsio yn defnyddio rhithrealiti yn ystod hyfforddiant.
– Myfyriwr yn archwilio sbesimen.
– Myfyriwr yn y labordy ERP yn gwisgo cap monitro.
– Athro a myfyriwr yn dal model o’r ymennydd dynol mewn labordy.

Testun: Yn mynd i’r afael â heriau
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyriwr cyfraith mewn wig a gŵn bargyfreithiwr yn cymryd rhan mewn sesiwn yn Ffug Lys y brifysgol.

Testun: Yn newid y byd
Disgrifiad Gweledol: ‘Time-lapse’ o aelod o staff academaidd a dau fyfyriwr yn defnyddio'r sganiwr delweddu yn Uned Delweddu Bangor.

Testun: Mewn dosbarthiadau sy'n ddigon bach i deimlo bod fy llais yn cael ei glywed
Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr yn cymryd rhan mewn seminar busnes yn y Co-Lab yn Pontio, yn edrych yn uniongyrchol i'r camera ac yn siarad â'r gwyliwr. Yna mae pedair delwedd llonydd yn dangos myfyrwyr a staff academaidd mewn trafodaeth fywiog.

Testun: Mewn sgyrsiau sy'n sbarduno syniadau
Disgrifiad Gweledol: Dau fideo o academydd yn rhyngweithio â myfyrwyr yn Derfynell Bloomberg y brifysgol.

Testun: A chreu cysylltiadau sy'n agor drysau.
Disgrifiad Gweledol: Dilyniant o dri chlip:
– Clip fideo drôn yn agosáu at M-SParc yng Ngaerwen.
– Fideo o un person yn siarad yn ardal gyffredin M-SParc.
– Fideo o'r person arall yn gwrando ac yn ymateb.

Testun: Dyma lle mae fy niddordebau’n cael eu meithrin;
Disgrifiad Gweledol: Tîm pêl-fasged y brifysgol yn chwarae gêm yng Nghanolfan Brailsford, gan orffen gyda ‘slam dunk’.

Testun: Lle rydwi'n troedio llwybr fy hun a dilyn fy mreuddwydion
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyriwr yn cerdded i fyny Chwarel Dinorwig yn Llanberis, gan oedi i siarad yn uniongyrchol â'r camera. Yna ddilyniant o dri llun:
– Dau fyfyriwr yn cerdded tuag at Gastell Dolbadarn.
– Yr un myfyrwyr yn archwilio Chwarel Dinorwig gyda'r Wyddfa yn y cefndir.
– Llun agos o'r myfyrwyr yn gwenu ar ei gilydd wrth ymyl Llyn Padarn.

Testun: Yma rwy’n gwneud ffrindiau – y math sy’n para oes
Disgrifiad Gweledol: Grŵp o fyfyrwyr yn rhannu pitsa ac yn cymdeithasu mewn ‘pizzeria’ ym Mangor Uchaf, ac yna dau fyfyriwr yn gwenu ac yn cofleidio y tu allan i Pontio.

Testun: Rydw i’n cael fy nghefnogi, fy annog a’m codi, bob cam o’r ffordd;
Disgrifiad Gweledol: Dilyniant o bedwar clip fideo:
– Mae aelod o staff academaidd yn sgwrsio'n gynnes gyda myfyrwyr yng Nghaffi Cegin Pontio.
– Clip fideo agos o fyfyriwr yn gwenu yn yr un drafodaeth.
– Dau fyfyriwr yn chwerthin gyda'i gilydd ar draeth Aberffraw.
– Myfyrwyr yn cerdded heibio’r murlun lliwgar y tu allan i Pontio, yn gwenu ac yn cael hwyl.

Testun: Mewn cymuned lle rydw i’n perthyn go iawn. Prifysgol Bangor – dyma dy ddyfodol ar waith.
Disgrifiad Gweledol: Montage o'r holl fyfyrwyr sy’n ymddangos yn y fideo yn gwenu ac yn edrych i'r camera.

Testun: Prifysgol Bangor. Dy ddyfodol ar waith.
Disgrifiad Gweledol: Animeiddiad i ddangos bod y fideo wedi dod i ben

Testun: DYMA

Disgrifiad Gweledol: Clip fideo drôn ysgubol wedi'i saethu dros Afon Menai, gyda Phorthaethwy i'r dde a Bangor i'r chwith. Mae Pont Menai yn sefyll yn y canol o dan awyr glir.

Testun: BRIFYSGOL

Disgrifiad Gweledol: Mae myfyriwr yn darllen ar fainc o flaen adeilad Hen Goleg Prifysgol Bangor ar ddiwrnod heulog, braf.

Testun: BANGOR

Disgrifiad Gweledol: Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, wedi'i fframio gan goed yng nghanol y ddinas ar ddiwrnod braf.

Testun: Lle mae uchelgais a pherthyn yn cyfarfod Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr yn sefyll y tu allan i adeilad Cerddoriaeth y brifysgol, yn edrych yn uniongyrchol i'r camera ac yn siarad â'r gwyliwr.

Testun: Mae Bangor wedi ei amgylchynu gan harddwch syfrdanol

Disgrifiad Gweledol: Triawd o fideos drôn o Eryri wedi’u cyflwyno mewn arddull taflunydd ffilm retro, yn dangos Llyn Padarn yn Llanberis, Yr Wyddfa, a chopa’r Wyddfa.

Testun: Ni allwch helpu ond cael eich ysbrydoli

Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr yn cerdded heibio'r murlun lliwgar y tu allan i Pontio, gan edrych yn syth i'r camera a siarad â'r gwyliwr.

Testun: O leoedd tawel

Disgrifiad Gweledol: Dilyniant o bum llun: – Chwe myfyriwr yn ymarfer ioga yng Ngardd Fotaneg Treborth. – Myfyriwr yn astudio coeden yng Ngardd Fotaneg Treborth. – Pedwar myfyriwr yn cymdeithasu ac ymlacio wrth Bont Menai. – Myfyriwr yn padlfyrddio ar Lyn Padarn. – Grŵp o bedwar myfyriwr yn tynnu hunlun ar draeth Aberffraw.

Prosbectws Poced

Galli di archebu ein Prosbectws Poced neu ei weld ar-lein, a dechrau archwilio beth sydd gan Fangor i’w gynnig.

PROSBECTWS POCED 2026