Mae'r Gwasanaethau Anabledd yma i chi!
Mae'r Gwasanaethau Anabledd bellach ar-lein ac mi allwch chi fynd at ein gwasanaethau lle bynnag yr ydych chi - wyneb yn wyneb, ar e-bost, siarad dros y ffôn neu alwad fideo, beth bynnag sydd orau gennych. Mae ein Timau Cynghori yn cynnig apwyntiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw, wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae staff yn gweithio oriau swyddfa arferol ac yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych.
Gweler ein Cwestiynau Cyffredin a Beth rydyn ni'n ei wneud ar gyfer myfyrwyr i gael mwy o wybodaeth.
Polisi Prifysgol
Nod y Brifysgol yw cymryd yr holl gamau posib i gael gwared â rhwystrau diangen a chaniatáu i fyfyrwyr anabl fedru cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd Prifysgol. Am fwy o wybodaeth am bolisi a dulliau gweithredu, gweler Cod Ymarfer ar y Ddarpariaeth i Fyfyrwyr Anabl a Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol.
Rydym yn falch o ddweud fod nifer y myfyrwyr anabl sy'n astudio yn y Brifysgol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae ein tîm wedi tyfu i ateb y galw. Rydym wedi cael ymateb gwych gan fyfyrwyr ac yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol.
Cysylltu Gyda Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon ebost atom i gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ein ffonio ar 01248 382032.