Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grant o £8 miliwn i brosiect ymchwil ym Mhrifysgol Bangor i sefydlu CAL:ON (Canolfan Addysgu Llythrennedd: Offer tuag at Newid / Centre for the Advancement of Literacy: research-led Outcomes and Nation-wide change) Cymru. Bydd y grant Cwricwlwm i Gymru yn cyllido cydweithrediad eang rhwng Prifysgol Bangor, Prifysgol Efrog, Oxford Education & Assessment, a phartneriaethau gyda Phrifysgol Abertawe, Coleg Prifysgol Llundain, a BookTrust Cymru. Bydd y ganolfan yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau llythrennedd ar gyfer disgyblion 3-16 oed yn genedlaethol.
Bydd yr Athro Manon Jones o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn arwain CAL:ON Cymru, sy’n cynnwys sawl prosiect o dan arweiniad tîm o arbenigwyr mewn llythrennedd, yn cynnwys Dr Cameron Downing o Brifysgol Efrog, Dr Angela Cooze o Brifysgol Abertawe, yr Athro Dominic Wyse o UCL, a’r Athro Charles Hulme o OxEd & Assessment.
Dywedodd Manon, “Rydym ni’n eithriadol o falch o gael gweithio ar wella llythrennedd yng Nghymru. Ein nod yw i Gymru fod yn esiampl ryngwladol o ran rhagoriaeth mewn addysg ddwyieithog.”
Ers pandemig yn benodol, mae nifer o bobl ifanc yng Nghymru’n cael trafferth darllen ar y lefel ddisgwyliedig, ac mae hyn yn adlewyrchu tuedd ar draws y DU a gwledydd eraill yr OECD. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella llythrennedd yn arwyddocaol trwy waith CAL:ON Cymru. Mae’r gwaith yn adeiladu ar brosiectau llythrennedd blaenorol gan aelodau’r tîm ehangach, yn cynnwys y Ymchwil ar Addysgu Llythrennedd gyda Iaith (RILL) ym Mhrifysgol Bangor, y Nuffield Early Language Intervention (NELI) ym Mhrifysgol Rhydychen ac OxEd and Assessment, a’r prosiect dysgu proffesiynol DEMSI ym Mhrifysgol Efrog. Mae CAL:ON Cymru yn uno, datblygu a gweithredu’r gweithgareddau hyn ar raddfa ehangach, ynghyd â datblygu rhaglenni ychwanegol ar gyfer ystod oed lawn o 3 – 16. Bydd yr holl weithgareddau a rhaglenni yn gwbl ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.
“Gan dynnu ar waith ein Panel Arbenigwyr Llythrennedd, bydd canolfan ragoriaeth genedlaethol CAL:ON Cymru yn sicrhau dysgu proffesiynol ar lefel genedlaethol ac yn sicrhau bod ein disgwyliadau o ran llythrennedd yn adlewyrchu’r dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut i ddysgu darllen,” meddai Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Prif amcan CAL:ON Cymru yw darparu rhaglenni iaith a llythrennedd, adnoddau dysgu proffesiynol, ac asesiadau hygyrch ar gyfer addysgwyr er mwyn gwella canlyniadau llythrennedd ar gyfer plant ysgol yng Nghymru.
Bydd CAL:ON Cymru yn darparu:
- Rhaglenni ac ymyraethau iaith a llythrennedd effeithiol, dwyieithog ar gyfer dosbarthiadau cyfan o 3 – 16 oed
- Modiwlau dysgu proffesiynol dwyieithog newydd, yn cynnwys ffoneg a rhuglder darllen ynghyd â chanllawiau cenedlaethol wedi eu halinio â’r Cwricwlwm i Gymru, a fydd hefyd yn cael eu cynnwys mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon, a’u datblygu mewn cydweithrediad ag addysgwyr.
- Dulliau asesu dwyieithog newydd ar bwyntiau trosglwyddo allweddol.
Bydd y prosiect yn unig yn cyrraedd dros 3000 o ddisgyblion Cymreig mewn dros 240 o ysgolion ar draws 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae traweffaith hirdymor y prosiect wedi ei ddylunio i wella sgiliau iaith a llythrennedd pob un plentyn yng Nghymru.
“Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn o ran addysg yng Nghymru – cryfhau llythrennedd ar gyfer ein dysgwyr i gyd. Mae CAL:ON Cymru yn fenter wych a fydd yn grymuso dysgwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gefnogi eu llwyddiant ar draws y cwricwlwm. Fel ysgol, rydym ni’n croesawu’r datblygiad cyffrous hwn – sgiliau llythrennedd cryf yw sail dysgu, a bydd y buddsoddiad hwn mewn cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n dysgwyr ac yn caniatáu iddynt ffynnu yn Gymraeg ac yn Saesneg,” Mrs Louise Ankers, Pennaeth Ffederasiwn Hafod