Sudents in quad

Gwybodaeth i Ddarpar Ymgeiswyr Ymchwil

Beth bynnag fo'r ddisgyblaeth a ddewiswch, dyma gipolwg ar ffyrdd i ddilyn rhaglenni ymchwil ôl-raddedig,

 

Y Profiad Astudio Ôl-raddedig

Mae'r meddylfryd o ennill gradd uwch drwy ymchwil wedi cael ei weld fel rhoi cyfle i wneud cyfraniad gwreiddiol i ymchwil ac ysgolheictod trwy raglen o hyfforddiant ymchwil sy'n arsylwi safonau deallusol trwyadl.

Ond bellach, mae’r ddelfryd hon yn cael ei gweld mewn termau ehangach: mewn rhai disgyblaethau academaidd, mae ymchwil ôl-raddedig yn cynnig y cyfle i wella a datblygu rhinweddau fel:

  • gallu artistig creadigol
  • meddwl yn feirniadol
  • cyfrifoldeb proffesiynol
  • sgil trefniadol
  • hyfedredd mewn cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig

Mae hyfforddiant trylwyr yn y broses o ymchwilio a chaffael sgiliau trosglwyddadwy a rhyngbersonol hefyd yn cael ei gynnig. Mewn disgyblaethau academaidd eraill, nod ymchwil wyddonol yw cynyddu dealltwriaeth o'r byd naturiol gan ddefnyddio methodolegau, y gellir eu diffinio fel profi damcaniaethau trwy arsylwi neu arbrofi.

Dewis Gradd Ymchwil Addas

Mae'n bwysig cofio, pa bynnag raglen a ddewiswch, y byddwch yn gweithio ar lefel astudio uwch y tu hwnt i'r hyn y gallech fod wedi'i brofi ar gyrsiau meistr neu radd israddedig. Wrth i’ch gyrfa ymchwil ôl-raddedig ddatblygu, bydd disgwyl i chi ddyfnhau eich gwybodaeth pwnc-benodol a datblygu eich ymwybyddiaeth feirniadol o ddadleuon ymchwil sy’n llywio eich maes ymchwil dewisol. Byddwch hefyd yn cronni gwybodaeth werthfawr o sgiliau a methodolegau ymchwil uwch ac yn darganfod mathau newydd o ddealltwriaeth gysyniadol, gan ganiatáu i chi werthuso ac archwilio damcaniaethau newydd. Ar y lefel uchel hon o ymchwil, byddwch yn dysgu sut i fod yn hyblyg wrth reoli eich prosiect, gan drafod heriau a chanfyddiadau annisgwyl.


Mae nifer o lwybrau ym Mangor i ddewis ohonynt ar gyfer eich rhaglen ddoethuriaeth. Bydd angen i chi benderfynu a ydych am ddilyn eich rhaglen yn llawn amser neu’n rhan amser (cofiwch y gallwch symud rhwng y moddau hyn yn ystod eich amser ym Mangor). Efallai y byddwch am weithio'n llawn amser yn y brifysgol neu efallai y byddwch am gyfuno astudio â chyfnodau mewn sefydliad arall neu mewn man cyflogaeth allanol. Os ydych eisoes yn ysgolhaig/awdur cyhoeddedig, efallai yr hoffech ystyried gwneud cais am PhD trwy Gyhoeddiadau neu efallai yr hoffech ddilyn eich cwrs yn gyfan gwbl trwy ddysgu o bell. Bydd y llwybrau hyn yn dibynnu, wrth gwrs, ar natur eich prosiect arfaethedig a fformat y rhaglen ym Mangor. Cyn i chi wneud cais, ewch ymlaen a chysylltwch â'r aelod staff academaidd perthnasol i drafod eich dewisiadau.

Cysylltu gydag aelod o Staff

Cymharu Graddau Ymchwil Ôl-raddedig

GRADD YMCHWIL ÔL-RADDEDIG AMSER (gellir trafod opsiynau rhan-amser cyfatebol) YMCHWIL
MScRes./MRes.
Meistr trwy Ymchwil
Blwyddyn (Llawn Amser)
  • Gwerthusiad a dadansoddiad sylweddol o gorff o wybodaeth

a/neu

  • Prosiect ymchwil gwreiddiol
MPhil
Meistr Athroniaeth
2 Flynedd (Llawn Amser)
  • Gwerthusiad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth

a/neu

  • Cyfraniad gwreiddiol i wybodaeth

Y Ddoethuriaeth (PhD)

Doethur mewn Athroniaeth
*gall fod yn ddysgu o bell yn gyfan gwbl*
gan gynnwys

Y Ddoethuriaeth Broffesiynol

 

Fel arfer, 3 mlynedd
(Llawn Amser)
  • Cynhyrchu canfyddiadau newydd
  • Dehongli gwybodaeth newydd trwy ymchwil wreiddiol neu ysgoloriaeth uwch arall
  • Cymryd rhan mewn dadleuon sydd ar flaen y ddisgyblaeth
  • Yn cwrdd â safonau adolygu gan gymheiriaid
  • Teilwng i gael ei ystyried ar gyfer cyhoeddiad academaidd
PhD (Cyhoeddiadau) Blwyddyn o gofrestru
(Llawn Amser)
  • Dylai fod gan ymgeiswyr bortffolio sylweddol o waith cyhoeddedig cyn gwneud cais

  • Bydd y portffolio yn cynnwys cyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid unigol a/neu gyd-awduro gyda gweisg gwyddonol/academaidd.
  • Cydnabyddir ystyriaethau pwnc-benodol wrth asesu portffolio.
  • Cyfle i arddangos y portffolio dan arweiniad tîm goruchwylio profiadol. yn nodweddiadol, mae gofyn i'r ymgeisydd ychwanegu at y portffolio gyda dadansoddiad beirniadol a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod cofrestru ym Mhrifysgol Bangor.

     

 

Yr Amgylchedd Ymchwil

Mae ymchwilwyr ôl-raddedig llwyddiannus yn hunanddibynnol, yn drefnus ac yn gallu defnyddio amrywiaeth o adnoddau mewnol. Mae'r amgylchedd deallusol o bwysigrwydd arbennig, sy'n deillio o bresenoldeb cymuned ôl-raddedig a chyfranogiad gweithredol gwych gan staff. Yn ogystal, gall ymchwilwyr ôl-raddedig ddysgu llawer yn ystod gwaith arbrofol neu arsylwi gan eu goruchwylwyr.

Mae'n bwysig i ymchwilwyr ôl-raddedig ddatblygu perthynas dda gyda eu goruchwyliwr.  Gall nhw fod yn oruchwylydd ffurfiol neu'n aelod arall o bwyllgor goruchwylio. Dylai'r berthynas nid yn unig gynnwys arweiniad cychwynnol a chyngor diweddarach, ond gall hefyd alluogi ymchwilydd ôl-raddedig i gael mynediad at adnoddau ymchwil prin. Gall hyn ddigwydd trwy gyllid a ddarperir i staff mewn rhaglenni grant ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol. Lle bo'n briodol, bydd goruchwylwyr yn cyflwyno eu hymchwilwyr ôl-raddedig i staff technegol, gweinyddol ac archifol, sy'n gallu darparu cymorth gyda phrosiect. Wrth gwrs, bydd ansawdd y cymorth hwn yn cael ei gyfoethogi trwy gael perthynas waith dda gyda'r staff hyn.

Myfyrwyr o ganolfan hyfforddiant doethurol AIMLAC y tu allan i Brifysgol Bangor (Ysgol cyfrifiadureg)

Ein Hymchwilwyr

Dyma broffiliau ein hymchwilwyr ôl-raddedig.

Cefnogaeth i Ymchwilwyr Ôl-raddedig

Mae gan ymchwilwyr ôl-raddedig ym Mangor bwyllgorau goruchwylio, tiwtoriaid personol ac mae gan bob ysgol academaidd Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig. Mae'r holl staff hyn yno i'ch cynghori a'ch arwain yn ogystal ag ymateb i ymholiadau a phryderon a allai fod gennych. Mae gan bob Coleg hefyd Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig, sy'n gyswllt rhwng yr Ysgol, yr Ysgol Ddoethurol a'r Gofrestrfa Academaidd, sy'n cyfrannu at ddatblygiad y Rhaglenni Doethurol. Gan weithio ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr, Gwasanaethau Myfyrwyr, staff a thimau gweinyddol, nod yr Ysgol Ddoethurol yw sicrhau bod pob un o’n hymchwilwyr ôl-raddedig yn rhan annatod o rwydwaith prifysgol gyfan sy’n cynnig arweiniad a chymorth.

Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnwys pum gwasanaeth gwahanol ond integredig:

  • Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwasanaeth Anabledd
  • Canolfan Sgiliau Astudio
  • Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr
  • Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.

Mae'r gwasanaethau hyn yn eich galluogi i drosglwyddo i Addysg Uwch, cyflawni eich potensial academaidd a datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth i fod yn llwyddiannus yn eich nodau gyrfa dewisol ar ôl graddio. Rydym yn darparu cymorth i ddarpar ymchwilwyr ôl-raddedig, ymchwilwyr ôl-raddedig presennol a graddedigion diweddar trwy amrywiaeth o wasanaethau integredig gan gynnwys gwybodaeth, cyngor, gwasanaethau arbenigol, cyfleoedd datblygu sgiliau a sesiynau hyfforddi.

 

Gwasanaethau Myfyrwyr

Os bydd astudio yn cyflwyno heriau oherwydd dyslecsia, dyspracsia neu AD(H)D, cysylltwch â'r Gwasanaeth Dyslecsia o fewn Gwasanaethau Anabledd, Prifysgol Bangor.

Mae’r Gwasanaeth Dyslecsia yn darparu gwybodaeth a chyngor ar:

  • Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (PLSP)
  • Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSAs)
  • Cefnogaeth astudio

Gall ymchwilwyr ôl-raddedig ddod am gyngor (yn Gymraeg neu Saesneg) ar feithrin eu sgiliau dysgu a mynd i'r afael â gofynion astudio, naill ai'n rheolaidd neu pan fyddant yn teimlo bod ei angen arnynt. Ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig nad ydynt wedi cael eu hasesu o'r blaen, mae'r Gwasanaeth Dyslecsia yn darparu asesiadau 'sgrinio' rhagarweiniol anffurfiol yn rhad ac am ddim.

 

Y Tîm Dyslecsia

Mae Prifysgol Bangor yn adnabyddus am y croeso cynnes y mae’n ei estyn i’w hymchwilwyr ôl-raddedig. Rhan bwysig iawn o hynny yw'r Arweinwyr Cyfoed sy'n parhau wrth law i helpu ein hymchwilwyr ôl-raddedig newydd i ymgartrefu. Gall cyrraedd y brifysgol am y tro cyntaf fod yn brofiad dychrynllyd. Dyna pam ym Mangor, rydyn ni'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael y dechrau gorau trwy eich cyflwyno i'r Arweinwyr Cyfoed a fydd yno i ateb unrhyw gwestiynau, eich tywys o gwmpas, gwneud yn siŵr eich bod yn cwrdd â phobl newydd a chael amser gwych.

 

Mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael cymorth yn y Neuaddau Preswyl yn ystod y dydd a thu allan i oriau gan Staff y Neuaddau, Staff Diogelwch y Brifysgol, a gan Uwch Wardeniaid Preswyl a Myfyrwyr Wardeniaid. Mae Uwch Wardeniaid y Neuaddau yn cael eu cynorthwyo gan Fyfyrwyr Wardeniaid i ddarparu cymorth bugeiliol i ymchwilwyr ôl-raddedig sy'n byw mewn Neuaddau.

Mae saith Uwch Warden a 35 Myfyriwr Warden yn y Neuaddau Preswyl sy’n gwneud popeth posibl i feithrin a chynnal amgylchedd preswyl diogel lle gall myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol astudio a chymdeithasu mewn amgylchedd heddychlon a diogel. Maent yn annog dealltwriaeth, goddefgarwch ac ymddygiad gwâr; weithiau gelwir arnynt i gyfryngu.

Gall ymchwilwyr ôl-raddedig ofyn am gyngor neu gefnogaeth gan Warden unrhyw bryd. Mae'r Wardeniaid Preswyl ar ddyletswydd o 6pm - 8am bob diwrnod o'r wythnos a 24 awr y dydd ar benwythnosau, tra gellir cysylltu â'r Prif Warden Cynorthwyol trwy'r Swyddfa Neuaddau yn ystod oriau swyddfa.

Llety ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn ceisio gwella eich sgiliau cyflogadwyedd yn ystod eich amser gyda ni. Rydym yn ceisio gwneud hyn gyda chanllawiau a ddarperir ar ffurf:

  • Apwyntiadau clinig wyneb yn wyneb
  • Cyfarwyddyd gyrfaoedd ar-lein
  • Rhaglen o weithdai canolog
  • Sgyrsiau a chyflwyniadau gan gyflogwyr
  • Biwro cyflogaeth ymchwilydd ôl-raddedig / llwyfan swyddi gwag ar-lein
  • Datblygu sgiliau menter a chefnogaeth
  • Amrywiaeth o adnoddau ar-lein i wella eich statws cyflogadwyedd

Mae cyfle hefyd i’n Hymchwilwyr Ôl-raddedig gymryd rhan yn ein rhaglen PGCertHE, a gynlluniwyd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ym meysydd addysgu, dysgu, asesu a goruchwylio.

PGCert Overview

Grŵp o fyfyrwyr yn cymdeithasu yn Barlows ym Mhentref Santes Fair

Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau Ôl-raddedig

Mae'r ysgoloriaethau, efrydiaethau a bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol a gan yr ysgolion academaidd unigol.

Logo Undeb Bangor

Cymuned Ymchwilydd Ôl-raddedig

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cynnig gweithgareddau allgyrsiol i Ymchwilwyr Ôl-raddedig - dros 60 o glybiau chwaraeon, 100 o gymdeithasau ac 20 o brosiectau gwirfoddoli yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau ymgyrchu. Mae bob amser rhywbeth i'ch diddori.

Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn gyfrifol am redeg y system Cynrychiolwyr Cyrsiau ar draws y brifysgol, lle mae Ymchwilwyr Ôl-raddedig ar bob cwrs yn cael eu hethol i gynrychioli eu cyfoedion ar bwyllgorau’r Brifysgol a barn maes ar ystod eang o bynciau.

Mae’r Gymdeithas Ymchwilwyr Ôl-raddedig yn gorff cynrychioliadol o Ymchwilwyr Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n cynnig llwyfan cymdeithasol i bob Ymchwilydd Ôl-raddedig gwrdd â'i gilydd ac i gynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng gwahanol ddisgyblaethau. Mae hefyd yn trefnu cynhadledd Ôl-raddedig flynyddol.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?