Deallusiaeth Artiffisial mewn Ymchwil Ôl-raddedig: Cydymaith Dibynadwy, Bygythiad, neu Ddull Gwaith? (Sesiwn wyneb yn wyneb)
Mae Deallusiaeth Artiffisial yn trawsnewid y dirwedd ymchwil – ond ai cydymaith dibynadwy ydyw, fygythiad posibl i uniondeb academaidd, neu ddim ond un o’r offerynnau yn offerfa’r ymchwilydd?
Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio rôl gynyddol Deallusiaeth Artiffisial mewn ymchwil ôl-raddedig, o adolygiadau llenyddiaeth a dadansoddi data i gymorth ysgrifennu ac adolygu gan gymheiriaid. Byddwn yn trafod y cyfleoedd, yr heriau moesegol, a’r ystyriaethau ymarferol sy’n codi wrth ddefnyddio AI mewn gwaith academaidd.
P’un a ydych yn chwilfrydig, yn amheus, neu eisoes yn arbrofi gyda thechnolegau AI, bydd y sesiwn hon yn cynnig yr wybodaeth a’r mewnwelediadau sydd eu hangen arnoch i lywio’r tirwedd sy’n newid mor gyflym yn gyfrifol ac yn effeithiol.