Paratoi ar gyfer Eich Viva Doethurol (Gweminar)
Rydych wedi treulio sawl blwyddyn yn llunio traethawd ymchwil gwych - ond mae eich llwyddiant yn dal i ddibynnu ar arholiad llafar gyda phobl nad ydych wir yn eu hadnabod. Mae'n debyg ei bod hi'n werth dysgu cymaint ag y gallwch am y cyfarfod hwnnw! Mae’r posibilrwydd o arholiad llafar yn gallu bod yn frawychus i lawer o ymchwilwyr doethurol, felly mae'r weminar hon wedi'i chynllunio i'ch helpu i baratoi yn y ffordd orau y gallwch.
Ni fyddwn yn canolbwyntio ar y gwaith papur, y rheolau, y polisïau a mecaneg sefydliadol y viva – mae hynny wedi'i gynnwys mewn man arall ar raglen RETI (Paratoi ar gyfer Eich Arholiad Terfynol), ond byddwn yn eich helpu i baratoi'n ddeallusol ar gyfer y digwyddiad ei hun.
Nod y sesiwn hon yw taflu rhywfaint o oleuni ar y viva doethurol drwy roi'r canlynol i chi:
- Syniad o'r hyn a allai ddigwydd yn ystod y viva mewn perthynas â beth yw doethuriaeth mewn gwirionedd
- Dealltwriaeth o broses y Viva
- Dealltwriaeth o rôl yr arholwyr
- Cyngor ynghylch paratoi at y cyfarfod
- Syniadau o ran rhagweld y mathau o gwestiynau a ofynnir
- Awgrymiadau ar sut i ddelio â chwestiynau