Rhestr lawn o DTP/CDT/ Gwobrau Ffocws Doethurol
Efrydiaeth PhD: Cynhyrchu Cynnwys Digidol ar gyfer Adfywio Ieithoedd Celtaidd
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig efrydiaeth PhD wedi'i hariannu'n llawn yn dechrau ym mis Hydref 2026. Mae'r efrydiaeth yn rhan o Ddyfarniad Cronfa Ddoethurol y ‘Celtic Crescent’ - un o ddeg Dyfarniad Ffocws Doethurol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ledled y Deyrnas Unedig.
Y Celtic Crescent
Mae’r Celtic Crescent yn gonsortiwm amlieithog o saith Sefydliad Addysg Uwch yng Nghernyw, yr Alban a Chymru. Gan weithio gyda phartneriaid anacademaidd o’r economi greadigol, nod y consortiwm yw helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o ddoniau ymchwil ac arloesi yn yr economi greadigol. Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar ficroglystyrau yn yr economi greadigol a nodweddir gan anghydraddoldeb, tangynrychiolaeth, a bod ar yr ymylon - gyda hyn yn deillio o ffactorau daearyddol, economaidd-gymdeithasol, ac ieithyddol. Gall efrydiaethau fod yn llawn amser neu'n rhan-amser, rhychwantu disgyblaethau, a gallant gynnwys ymchwil sy'n seiliedig ar ymarfer, sy’n rhyngddisgyblaethol, dan arweiniad diwydiant neu ymchwil mewn ieithoedd lleiafrifol.
Mae gan ymchwil doethurol sy’n seiliedig ar ymdeimlad o le botensial trawsnewidiol i gynhyrchu allbynnau creadigol mwy amrywiol, busnesau bach a chanolig sy'n fwy parod i arloesi, ac arloeswyr mwy medrus. Mae hyn oll yn helpu i gynnal gyrfaoedd tymor hwy yn ein heconomïau creadigol gwledig, arfordirol ac ôl-ddiwydiannol. Mae'r weledigaeth hon yn sail i bob agwedd ar waith y Celtic Crescent.
Cyllid
Mae efrydiaethau wedi'u hariannu'n llawn am o leiaf dair blynedd a hanner (42 mis) ac uchafswm o bedair blynedd (uchafswm o 48 mis, gan gynnwys unrhyw leoliadau). Bydd myfyrwyr rhan amser ar sail pro rata:
Mae pob efrydiaeth yn cynnwys ffioedd dysgu, lwfans byw di-dreth blynyddol (£21,805 ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn amser) ac mae'n cynnwys mynediad at grant cefnogi hyfforddiant ymchwil. Croesewir ceisiadau am efrydiaethau llawn a rhan amser.
Y Project
Mae’r PhD hwn, a ariennir yn llawn, yn archwilio sut y gall crewyr cynnwys digidol (digital content creators) gyfrannu at adfywio dyfodol y Gymraeg a ieithoedd Celtaidd eraill o fewn ecosystemau cyfryngau sy’n seiliedig ar blatfformau megis YouTube, TikTok ac Instagram. Wrth i ddarlledu llinol ddirywio, mae bywiogrwydd ieithyddol yn gynyddol ddibynnol ar grewyr annibynnol sy’n cynhyrchu, dosbarthu a masnacheiddio cynnwys mewn ieithoedd lleiafrifol y tu hwnt i sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus traddodiadol. Er bod enghreifftiau addawol yn bodoli, mae creu cynnwys digidol mewn ieithoedd lleiafrifol yn dal yn gyfyngedig ac yn faes sydd heb ei ymchwilio’n ddigonol, yn enwedig o ran ei effaith ddiwylliannol, ieithyddol ac economaidd.
Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â’r bwlch hwnnw drwy archwilio creu cynnwys digidol mewn ieithoedd lleiafrifol fel ffurf gyfoes ar gynhyrchu diwylliannol, llafur creadigol a gweithgarwch economaidd sy’n seiliedig ar le. Gan ganolbwyntio ar ranbarthau gwledig, arfordirol ac ôl-ddiwydiannol, bydd yn ymchwilio i’r ffyrdd y mae crewyr yn adeiladu cynulleidfaoedd, yn creu gwerth ac yn cyfrannu at ficroglystyrau creadigol lleol. Gan ddefnyddio dulliau cymysg — a all gynnwys ymarfer creadigol, dadansoddeg ddigidol, cyfweliadau, ymchwil cynulleidfa ac astudiaethau achos rhanbarthol, bydd yr ymchwil yn datblygu fframweithiau newydd i fesur effaith ac i lywio polisi, datblygu sgiliau a buddsoddi strategol.
Gan weithio’n agos gyda phartneriaid diwydiant, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu annibynnol a chrewyr digidol, bydd y PhD yn trosi’r canfyddiadau hyn yn lwybrau sgiliau ymarferol a modelau datblygu. Bydd y prosiect yn cynnwys lleoliad gyda Rondo Media, gan gynnig profiad ymarferol o gynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n defnyddio y platfformau hyn. Bydd y gwaith unigryw hwn yn cyfuno ymchwil academaidd gyda elfennau creadigol a/neu berfformiad, gan alluogi’r ymchwilydd i archwilio yn feirniadol sut mae creu cynnwys digidol drwy gymryd rhan weithredol ynddo. Felly, mae’r prosiect yn cynnig cyfle cyffrous i gyfrannu at gynaliadwyedd ieithoedd Celtaidd tra’n cryfhau economïau creadigol cynhwysol sy’n seiliedig ar le.
Bydd myfyrwyr yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ac yn rhan o garfan gysylltiedig o ymchwilwyr y Celtic Crescent sy'n rhannu hyfforddiant a phrofiadau. Byddwch yn cymryd rhan mewn o leiaf un digwyddiad Labordy Crucible preswyl tri diwrnod o hyd, ble bydd yr holl garfan yn dod at ei gilydd yn un o'r gwledydd Celtaidd. Nid yw'n bosibl astudio o bell.
Pwy ddylai wneud cais?
Oes gennych chi’r canlynol:
- Cymwysterau academaidd a/neu brofiad proffesiynol mewn maes perthnasol (e.e. y gwyddorau cymdeithasol, ieithyddiaeth, astudiaethau’r cyfryngau, cymdeithaseg iaith, polisi iaith, y diwydiannau creadigol, y cyfryngau digidol, cyfathrebu neu ddisgyblaethau cysylltiedig), sy’n cyfateb i radd anrhydedd dosbarth Cyntaf neu Ail Ddosbarth Uwch yn y DU;
- Diddordeb cryf mewn ieithoedd lleiafrifol (yn enwedig y Gymraeg neu ieithoedd Celtaidd eraill), bywiogrwydd ieithyddol ac economïau creadigol;
- Dealltwriaeth o lwyfannau digidol (e.e. YouTube, TikTok, Instagram) ac arferion cyfoes creu cynnwys;
- Profiad o ddulliau ymchwil ansoddol a/neu feintiol (neu barodrwydd clir i ddatblygu sgiliau dulliau cymysg);
- Diddordeb mewn ymchwil gymhwysol a chydweithredol, a’r gallu i ymgysylltu â phartneriaid diwydiant, gan gynnwys ymgymryd â lleoliad gyda Rondo Media;
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i weithio’n annibynnol tra’n cyfrannu at rwydweithiau academaidd a diwydiant.
Mae’r prosiect yn gofyn am lefel weithredol o’r Gymraeg, gyda’r posibilrwydd o waith cymharol yn y Gaeleg Albanaidd neu’r Gernyweg. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer dadansoddi cynnwys digidol, cynnal cyfweliadau gyda chrewyr, ac ymgysylltu’n ddilys â chynulleidfaoedd mewn ieithoedd Celtaidd lleiafrifol.
Bydd cefnogaeth ar gyfer datblygu iaith yn cael ei darparu gan y brifysgol a thrwy’r lleoliad gyda Rondo Media, gan sicrhau y gall y myfyriwr feithrin hyder a sgiliau yn y Gymraeg wrth weithio gyda chrewyr a phartneriaid diwydiant.
Gellir ysgrifennu’r traethawd PhD naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, gan adlewyrchu sgiliau ieithyddol y myfyriwr a natur ddwyieithog cyd-destun yr ymchwil.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob math o gefndiroedd, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad o ymarfer proffesiynol neu greadigol neu lwybrau addysgol annhraddodiadol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn hanfodol i ddarparu addysg uwch ac ymchwil eithriadol. Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai hynny o gefndiroedd ymylol. Ein nod yw deall eich arddull dysgu a'ch helpu i greu amgylcheddau lle gallwch ffynnu. Gall Lwfans Myfyrwyr Anabl roi cyllid i chi ar gyfer costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio oherwydd cyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol, gwahaniaethau dysgu neu unrhyw anableddau eraill.
Darganfyddwch fwy am Gwasanaethau Anabledd Prifysgol Bangor
Cymhwystra Rhyngwladol
Mae’r efrydiaeth ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr rhyngwladol nodi mai dim ond ffioedd y Deyrnas Unedig y mae'r ysgoloriaeth yn eu cynnwys. Mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i'r myfyriwr ei hun dalu'r gwahaniaeth rhwng ffioedd y Deyrnas Unedig a ffioedd rhyngwladol.
Gall uchafswm o 30% o bob carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol.
Gweminar ymgeiswyr
Cynhelir gweminar ar-lein i ymgeiswyr ar 13 Mawrth o 9-10 y bore, amser y Deyrnas Unedig. Bydd hwn yn gyfle i ddeall amcanion a phwyslais y Celtic Crescent, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch y ffurflen yma: Cofrestru Gweminar ‘Celtic Crescent’.
Sut i wneud cais
Dylid derbyn ceisiadau ddim hwyrach na 10 Ebrill 2026 am 4 y pnawn amser y Deyrnas Unedig gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol. Efallai na fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried. Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Wrth wneud cais, dewiswch AHRC Celtic Crescent Doctoral Focal Award fel eich cyfle i ysgoloriaeth. Ar gyfer eich Cyswllt Academaidd, nodwch 'Yr Athro Ruth McElroy'.
Dylech gynnwys y dogfennau canlynol gyda'ch cais:
- CV: gall hyn fod ar ffurf CV confensiynol, ar ffurf naratif neu fel fideo byr. Dylai ddangos sut mae eich profiad bywyd, eich taith addysgol a/neu waith yn arddangos eich potensial;
- Datganiad yn amlinellu eich diddordeb yn y project hwn, eich syniadau ar ei gyfer a pham rydych yn addas ar ei gyfer (dim mwy na 2 dudalen)
- Manylion dau ganolwr academaidd neu broffesiynol. Rhaid i ganolwyr allu rhoi sylwadau ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd;
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (gan gynnwys cyfieithiadau os yn berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o gymhwysedd iaith Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)
Asesiad
Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i gyfweliad, lle gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel. Gellir cynnal cyfweliadau yn y cnawd, ond byddant hefyd ar gael trwy Zoom/Teams i bob myfyriwr sy'n dymuno cymryd rhan yn y ffordd honno. Gellir cynnal cyfweliadau yn y Gymraeg neu yng Ngaeleg yr Alban os yw'n well gennych. Darperir cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw. Gall addasiadau gynnwys cyflwyniadau wedi'u recordio ymlaen llaw, cyflwyniadau ysgrifenedig, neu ddull cwestiwn ac ateb strwythuredig yn lle cyflwyniad. Rydym yn fodlon ystyried addasiadau eraill a fyddai'n eich helpu i wneud eich gorau yn yr asesiad.
Ysgrifennu Creadigol ac Ecolegau Lle mewn Ymarfer Cyfunol
Mae’n bleser gan Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau Prifysgol Bangor gynnig efrydiaeth pedair blynedd wedi'i hariannu'n llawn. Mae'r efrydiaeth yn rhan o brosiect Lles, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), a fydd yn ariannu 28 o efrydiaethau ar draws prifysgolion Cymru. Bydd yr efrydiaeth hon yn dechrau ym mis Hydref 2026.
Trosolwg
Bydd yr Efrydiaeth Ddoethurol hon yn cefnogi project ymchwil creadigol ym maes barddoniaeth ecolegol sy'n integreiddio ymarfer ysgrifennu unigol â methodolegau cyfranogol, cymunedol i archwilio dimensiynau cyfunol lle. Mae'n cynnig cyfle cyffrous i siapio ymchwil ym maes ysgrifennu creadigol drwy roi lle blaenllaw i agweddau cymdeithasol trawsnewidiol ymarfer creadigol.
Er bod lles yn aml yn cael ei ddychmygu fel cyflwr preifat, mewnol neu seicolegol, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn cynnig cysyniad mwy eang, gan ei fframio fel un sydd wedi'i siapio gan ffactorau diwylliannol, materol, ecolegol a chymunedol a all gwmpasu profiadau cyfunol o dirwedd, adnoddau a rennir, stiwardiaeth amgylcheddol a gwytnwch cymunedol. Mae barddoniaeth ecolegol, fel maes rhyngddisgyblaethol sy'n dwyn ynghyd ysgrifennu creadigol a'r dyniaethau amgylcheddol, wedi dod yn gynyddol ymatebol i'r persbectif ehangach hwn.
Gyda ffocws canolog ar sut mae amgylcheddau naturiol penodol yng ngogledd Cymru yn cael eu profi a'u dehongli, bydd y project yn galluogi datblygu dulliau amrywiol, megis defnyddio cyfweliadau, teithiau cerdded, dulliau amlgyfrwng ac ymchwil rhyngddisgyblaethol i greu gwaith llenyddol sylweddol.
Ochr yn ochr â'r dimensiwn artistig hwn sy'n cael ei arwain gan ymarfer, bydd yr ymgeisydd yn ymgymryd ag archwiliad beirniadol parhaus o weithiau blaenorol sydd wedi galluogi ffyrdd newydd o ddeall lle, amgylchedd, a lles cymdeithasol ac ecolegol.
Byddai croeso cynnes i geisiadau sydd â diddordeb yn y ffordd y mae maes barddoniaeth ecolegol yn datblygu yn rhyngwladol ac yng Nghymru.
Gallai’r cwestiynau ymchwil posibl gynnwys y canlynol:
- Sut gall arferion barddoniaeth ecolegol gyfrannu at ffurfiau cyfunol o ymgysylltu amgylcheddol?
- Sut gall dulliau creadigol gefnogi cymunedau i fynegi profiadau a rennir o le?
- Sut gall arferion ysgrifennu ystyried rolau actorion nad ydynt yn ddynol?
- Sut gall gwaith creadigol ar y cyd lunio neu drawsnewid dealltwriaeth o les?
- Pa ffurfiau newydd o farddoniaeth neu gelf gyfranogol sy'n dod i'r amlwg pan roddir meddwl ecolegol yng nghanol ymarfer creadigol?
- Sut allai'r ffurfiau hyn ddylanwadu ar sgyrsiau diwylliannol ehangach am yr amgylchedd, cynaliadwyedd, a chyfrifoldeb i genedlaethau'r dyfodol?
Bydd y project yn cynnwys lleoliad o leiaf dri mis gyda Llenyddiaeth Cymru.
Tîm Goruchwylio
Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol yw Zoë Skoulding, sef y prif oruchwyliwr, ac mae’n fardd a beirniad arobryn. Hi yw Gyd-gyfarwyddwr CAInC, Canolfan Cydweithredu Rhyngddisgyblaethol y Celfyddydau Creadigol Prifysgol Bangor, ac mae’n weithgar mewn rhwydweithiau rhyngwladol ym meysydd barddoniaeth, sain a pherfformiad mewn cyd-destun ecolegol.
Mae barddoniaeth y cyd-oruchwyliwr, Dr Fiona Cameron, yn ymgysylltu â barddoniaeth ecolegol arloesol, ac mae hi'n rhan o gydweithrediad traws-gelfyddyd barhaus sy'n archwilio amser dwfn mewn lleoliad chwe erw arwahanol ac yn canolbwyntio ar gysyniadau o ran graddfa, deiliadaeth ddynol, a bywyd an-ddynol.
Bydd gan Dave Chadwick, Athro Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy, rôl gynghorol yn y tîm. Mae ganddo arbenigedd sydd gyda’r gorau yn y byd mewn arferion amaethyddol cynaliadwy, lliniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr, lleihau'r risg o drosglwyddo llygryddion i gyrsiau dŵr, a deall effeithiau eilaidd lliniaru llygredd amaethyddol gwasgaredig.
Lles
Consortiwm o holl brifysgolion Cymru yw Lles sy'n gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus a thrydydd sector Cymru. Bydd yn ariannu ac yn hyfforddi myfyrwyr PhD i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â lles drwy'r celfyddydau a'r dyniaethau. Ystyr Lles yw ‘budd’ neu ‘llesiant’. Mae ei ddefnydd yma yn nodi sut y bydd myfyrwyr Lles yn elwa o hyfforddiant a datblygiad gyrfa a sut y bydd eu hymchwil ar les er budd cymdeithas ehangach yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Lles a'i efrydiaethau ymchwil yn cael eu harwain gan uchelgais, egwyddorion a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn unigryw yn fyd-eang ac yn rhwymo cyrff cyhoeddus Cymru i osod amcanion a chymryd camau i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn erbyn saith nod: ffyniant, gwytnwch, cydraddoldeb, iechyd, cymunedau cydlynol, diwylliant bywiog a'r Gymraeg, cyfrifoldeb byd-eang. Mae Lles yn ceisio defnyddio'r celfyddydau a'r dyniaethau i gyrraedd a deall y nodau hyn.
Bydd Lles yn ariannu 28 o ysgoloriaethau PhD dros 4 carfan. Bydd efrydiaethau Lles yn archwilio ac yn dangos sut y gall y celfyddydau a'r dyniaethau gyfrannu at blaned, pobl a lleoedd iach. Wrth wraidd y project mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynlluniwyd y ddeddfwriaeth unigryw hon i wella lles a chynaliadwyedd pobl a lleoedd yng Nghymru. Nod sylfaenol Lles yw gweithio gyda'r weledigaeth honno a'i datblygu. Bydd holl fyfyrwyr y project yn derbyn hyfforddiant pwrpasol a ddarperir mewn cydweithrediad â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ynglŷn â'r Ddeddf, ei phum ffordd o weithio a sut y gellir eu defnyddio mewn bywyd cyhoeddus a pholisi. Bydd pob myfyriwr Lles yn ymgymryd â lleoliad parhaus gyda chorff cyhoeddus yng Nghymru lle byddant yn datblygu eu profiadau ymchwil a chyflogaeth.
Lleoliad
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr Lles ymgymryd â lleoliad sy'n para o leiaf dri mis.
Gweminar ymgeiswyr
Cynhelir gweminar i ymgeiswyr ar 3 Mawrth am 4pm. Bydd hwn yn gyfle i drafod project Lles a gofyn cwestiynau. I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch y ffurflen ganlynol YMA.
Meini Prawf Mynediad
I dderbyn cyllid efrydiaeth Lles, dylai bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr â chefndir academaidd anhraddodiadol wneud cais.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Lles wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau o’r gymuned fyd-eang, waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Asesiad
Gwahoddir ymgeiswyr a roddir ar y rhestr fer am gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel. Gellir cynnal cyfweliadau yn y cnawd, ond byddant hefyd ar gael trwy Zoom/Teams i unrhyw ymgeisydd sy'n dymuno cymryd rhan yn y ffordd honno. Os gofynnir, gellir cynnal cyfweliadau yn y Gymraeg.
Sut i wneud cais
Dylid derbyn ceisiadau ddim hwyrach na 27 Mawrth 2026 gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol. Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Dylid cyflwyno pob cais YMA
Dylech gynnwys y dogfennau canlynol gyda'ch cais:
- CV - Gall hwn fod ar ffurf naratif, gan ddangos sut mae eich profiad bywyd, eich taith addysgol a/neu waith yn arddangos eich potensial
- Datganiad yn amlinellu eich diddordeb yn y project hwn, eich syniadau ar ei gyfer a pham rydych yn addas ar ei gyfer (uchafswm o 2 dudalen)
- Geirdaon academaidd neu broffesiynol (rhaid i ymgeiswyr gysylltu â’r canolwyr eu hunain a chynnwys geirdaon gyda'u cais. Rhaid i'r geirda fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd).
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (gan gynnwys cyfieithiadau os yn berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o gymhwysedd iaith Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)
Cyllid
Mae'r efrydiaeth a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn cynnwys ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£21,805 ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn amser) ac mae'n cynnwys mynediad at grant cefnogi hyfforddiant ymchwil. Croesewir ceisiadau llawn amser a rhan amser. Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich efrydiaeth.
Mae’n bleser gan Ysgol Prifysgol Bangor gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) fydd yn dechrau ym mis Hydref 2026.
Pwnciau
- wyieithrwydd/Ieithyddiaeth
- Seicoleg
- Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
- Troseddeg a’r Gyfraith
- Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Gwyddor Data, Iechyd a Lles
- Addysg
- Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol
- Economeg
- Rheolaeth a Busnes
- Cynllunio amgylcheddol
Meini Prawf Mynediad:
I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.
Hyd yr astudiaeth:
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.
Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio:
Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.
Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:
Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Asesu:
Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel
Sut i wneud cais:
Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 11.12.25 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Dylid cyflwyno pob cais gan ddefnyddio’r dolenni canlynol (defnyddiwch y cyfeiriad e-bost cywir ar gyfer y llwybr a gyflwynir i:
Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth – bilingwgsss@bangor.ac.uk
Seicoleg – psychwgsss@bangor.ac.uk
Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer – spexwgsss@bangor.ac.uk
Troseddeg a'r Gyfraith – crimwgsss@bangor.ac.uk
Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg - socwgsss@bangor.ac.uk
Gwyddor Data, Iechyd a Lles – dshwbwgsss@bangor.ac.uk
Addysg eduwgsss@bangor.ac.uk
Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol – socialworkwgsss@bangor.ac.uk
Economeg - econwgsss@bangor.ac.uk
Rheolaeth a Busnes businesswgsss@bangor.ac.uk
Cynllunio Amgylcheddol envirowgsss@bangor.ac.uk
Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:
- Ffurflen Gais yr WGSSS [WGSSS Studentship Application Form 2026]
- CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)
Cyllid:
Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.
Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Envision (DTP) yn dod â grŵp pwerus o ymchwilwyr o’r DU ynghyd â phartneriaid yn y diwydiant a sefydliadau anllywodraethol i ddarparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar genhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol i wynebu heriau newidiol. byd. Ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).
Aelodau:
- Lancaster University
- University of Nottingham
- Prifysgol Bangor
- the Centre for Ecology and Hydrology
- British Geological Survey
- Rothamsted Research
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer 2025.
NERC Centre for Doctoral Training in Real-Time Digital Water-Based Systems (RED-ALERT CDT)
RED-ALERT CDT's will train a new generation of leaders to transform how we manage aquatic environmental health via Real-Time Digital Water-Based Systems.
Red-ALERT convenes private, government, regulatory/public sector organisations with world-leading researchers in genetics, ecotoxicology, sensor technology, Internet of Things, autonomous real-time data collection, mathematical modelling & data analytics.
The Red-ALERT CDT has been co-developed, and works collaboratively, with partners across industrial and government agencies.
Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ar Ymchwil Methodoleg Treialon rhwng y Cyngor Ymchwil Meddygol a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal
Nod Partneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon y Cyngor Ymchwil Meddygol / y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, yw gwella iechyd trwy wella treialon. Mae ein Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol gyda’r Cyngor Ymchwil Meddygol yn cyflwyno cyfle i ymgymryd â hyfforddiant PhD mewn methodoleg treialon.
Mae projectau Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ar gael mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys ystadegau, dadansoddeg data a gwybodeg, cyfrifiadureg, economeg iechyd, dulliau ansoddol, dulliau cymysg, meddygaeth glinigol a seicoleg.
Bydd myfyrwyr yn dod yn aelodau o'r Bartneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon, gan gynnig sbectrwm ehangach o weithgareddau hyfforddi a chyfleoedd rhwydweithio y tu hwnt i'w Sefydliad Ymchwil lletyol. Anogir myfyrwyr i ymuno â gweithgorau Partneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon perthnasol, lle byddant yn cwrdd â myfyrwyr PhD eraill, ymchwilwyr ôl-ddoethurol ac uwch aelodau o staff academaidd sy’n ymwneud â themâu ymchwil perthnasol a chyflenwol. Yn ogystal â rhaglen hyfforddi ‘graidd’ strwythuredig, rydym yn gallu cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi mwy penodol y gall myfyrwyr ddewis ymgymryd â nhw ar ôl ymgynghori â'u goruchwylwyr.
Aelodau
- Prifysgol Aberdeen
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Birmingham
- Prifysgol Caergrawnt
- Prifysgol Glasgow
- Sefydliad Ymchwil Canser
- Prifysgol Leeds
- Prifysgol Lerpwl
- Prifysgol Newcastle
- Prifysgol Plymouth
- Prifysgol Queen Mary, Llundain
- Coleg Prifysgol Llundain
Cyfleoedd Ysgoloriaeth PhD ar gyfer mynediad yn 2026
Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Hydref 2025. Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 12 Ionawr 2026.
Projectau sydd ar gael gan Brifysgol Bangor:
- Methods for Addressing TRial-based economIc evaluation compleXities (MATRIX), Lead Supervisor: Dr Will Hardy
- Value of fundIng a Similar trIal after discontinuatioN (VISION); Lead Supervisor: Dr Will Hardy.
- How should the environmental impact of medicines be considered in the context of trial outcomes? Lead Supervisor: Dr Catrin Plumpton.
Cyn gwneud cais, dylai ymgeiswyr gysylltu â goruchwyliwr y project i ddysgu mwy am y project ac i drafod eu diddordebau yn yr ymchwil cyn 2 Ionawr 2026.
Mae’r ffurflen gais ar gael ar-lein: https://mrctmrpdtp.com/current-opportunities/
Dylech lenwi’r ffurflen i gyd. Ni fydd ffurflenni anghyflawn yn cael eu hystyried. Ni fydd CVs yn cael eu derbyn ar gyfer y cynllun hwn. Nodwch eich dewis cyntaf o broject wrth wneud eich cais. Gallwch ddarparu manylion hyd at ddau broject Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Ymchwil Methodoleg Treialon arall y gallai fod o ddiddordeb i chi (yn unrhyw un o’r Prifysgolion partner) yn adran B y ffurflen gais.
Rhaid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau at: enquiries@methodologyhubs.mrc.ac.uk. Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw hanner dydd (GMT), 12 Ionawr 2026. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried.
Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Ymchwil Methodoleg Treialon
Mae Canolfan Hyfforddiant Doethurol AIMLAC yn darparu cyfleoedd PhD 4 blynedd wedi'u hariannu'n llawn ar draws meysydd eang o ffiseg gronynnau a seryddiaeth, biolegol ac iechyd, a gwyddorau mathemategol a chyfrifiadurol.
Mae'r CDT wedi'i adeiladu ar gydweithrediadau ymchwil a hyfforddiant hirsefydlog rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Bryste, Caerdydd ac Abertawe. Yn ogystal, mae Uwchgyfrifiadura Cymru ac Academïau Cyfrifiadura’r Brifysgol yn darparu cymorth pwrpasol trwy Beirianwyr Meddalwedd Ymchwil a mynediad at gyfleusterau HPC mewn modd cydgysylltiedig.
Am fwy o wybodaeth am y ganolfan a sut i wneud cais, ewch i wefan CDT.
Bydd y cylch recriwtio ar gyfer carfan 2023 yn dechrau yn nhymor yr hydref 2022.
Mae nifer cyfyngedig o swyddi ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol, gan gynnwys ffioedd a bwrsariaethau.
Hyfforddiant
Mae'r rhaglen yn cynnwys elfen hyfforddi sylweddol yn y flwyddyn gyntaf, gan gynnwys hyfforddiant seiliedig ar garfan mewn AI a dulliau cyfrifiadurol, i sefydlu sylfaen gyffredin. Mae ymgysylltu â’n partneriaid allanol wedi’i wreiddio drwyddi draw ac mae’n cynnwys lleoliad tymor byr ym Mlwyddyn 2 a lleoliad 6 mis arall ar draws Blynyddoedd 2/3. Darperir hyfforddiant sgiliau trosglwyddadwy trwy gyfarfodydd preswyl, yn ein cynhadledd CDT flynyddol, ac mewn cydweithrediad â Sefydliad Alan Turing. Ceir rhagor o fanylion ar y tudalennau Hyfforddiant a Digwyddiadau.
Ymchwil
Mae ein rhaglen hyfforddiant doethurol wedi’i llunio o amgylch tair thema ymchwil:
- T1: data o gyfleusterau gwyddoniaeth mawr (ffiseg gronynnau, seryddiaeth, cosmoleg)
- T2: gwyddorau biolegol, iechyd a chlinigol (delweddu meddygol, cofnodion iechyd electronig, biowybodeg)
- T3: dulliau mathemategol, corfforol a chyfrifiadurol newydd (data, caledwedd, meddalwedd, algorithmau)
Er bod y themâu yn amrywiol fel disgyblaethau academaidd, yn ein CDT maent yn gysylltiedig trwy ddefnyddio AI, dysgu peirianyddol a dulliau cyfrifiadura uwch. Felly, mae cyfnewid gwybodaeth ar draws themâu yn chwarae rhan hanfodol trwy hyfforddiant carfan, goruchwyliaeth ar y cyd, rhyngweithio rhwng cymheiriaid a mentora myfyrwyr. Mae prosiectau ymchwil wedi'u gwreiddio o fewn un o'r themâu, gyda chefnogaeth oruchwyliol ar draws themâu, i ddatblygu synergeddau newydd. Ceir rhagor o fanylion ar y dudalen Ymchwil.
Swyddi PhD a ariennir yn llawn
Mae swyddi PhD a ariennir yn llawn ar gael i fyfyrwyr sydd â diddordeb cryf a dawn mewn gwyddor gyfrifiadol ac yn un o'n themâu ymchwil. Mae'r swyddi yn cael eu hariannu am 4 blynedd, gan gynnwys y lleoliadau gyda phartneriaid allanol. Mae cyllid sylweddol ar gael ar gyfer hyfforddiant, cymorth gweithdai a chynadleddau, yn ogystal ag ar gyfer gliniadur ac adnoddau cyfrifiadurol eraill. Bydd y CDT yn recriwtio 5 carfan, gyda lleiafswm o 11 myfyriwr PhD fesul cohort. Mae'r garfan gyntaf, ail, trydydd a phedwaredd wedi dechrau ym mis Hydref 2019, 2020, 2021 a 2022 yn y drefn honno. Am fanylion ar sut i wneud cais, gweler y dudalen Ceisiadau.
Mae’r Nuclear Energy Futures CDT yn ganolfan a ariennir gan yr EPSRC ar gyfer hyfforddiant ôl-raddedig, sy’n dod â myfyrwyr PhD o Brifysgol Bangor, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caergrawnt, Coleg Imperial Llundain a’r Brifysgol Agored ynghyd.
Mae CDT Dyfodol Ynni Niwclear yn cyfuno ymchwil ac addysgu arloesol, arweiniad gan arbenigwyr academaidd a diwydiant ac amgylchedd cefnogol i'ch helpu i wneud dyfodol ynni gwell.
Mae’r CDT SuMMeR wedi’i gynllunio i ddarparu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr arloesol, trawsddisgyblaethol ac ymgysylltiedig.
Mae’r CDT SuMMeR yn dwyn ynghyd gydweithrediad o arbenigwyr ymchwil rhyngddisgyblaethol o Brifysgolion Plymouth, Bangor, Caerwysg, Heriot Watt a Portsmouth, yn ogystal ag o sefydliadau ymchwil fel y Plymouth Marine Laboratory, y Marine Biological Association, Canolfan Ecoleg ac Hydroleg y DU (UKCEH), a Chymdeithas Sŵolegol Llundain.
Mae’r ysgoloriaethau PhD o fewn CDT SuMMeR yn cael eu hariannu ar y cyd gan y Natural Environment Research Council (NERC) ac UK Research and Innovation (UKRI).
*Cyhoeddwyd y EPSRC CDTs yn Chwefror 2019
Cyfleoedd pellach
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant Marie Skłodowska-Curie Rhif 956124.
**(Mae ceisiadau ar gyfer 2021 bellach wedi cau)
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i gyfanswm poblogaeth o 380,000 ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Dwy Efrydiaeth PhD wedi'i hariannu mewn Economeg Iechyd Cyhoeddus yn CHEME, Prifysgol Bangor.