To Bach

Mae To Bach yn rhaglen rhad ac am ddim sy’n gwneud y gwaith o osod acenion a nodau ar gyfer y Gymraeg yn ddidrafferth. Drwy ddefnyddio'r bysell Alt Gr mae modd gosod to bach ar ben y llafariaid (â, ê, î, ô, û, ŵ, ŷ) ac acenion amrywiol (á è ï ac ati).

Bysell Symbol
alt gr & o ô
alt gr & A Â
alt gr & w ŵ
alt gr & / & e é
alt gr & " & i ï

Mae rhaglen To Bach wedi'i gosod ar bob un peiriant ar rwydwaith y Brifysgol.

Gallwch lawrlwytho'r rhaglen i'w defnyddio ar eich cyfrifiaduron cartref trwy ymweld â gwefan Interceptor Solutions.