Modiwl ADB-1110:
Cyfrifeg Rheolaeth ac Ariannol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan Bangor Business School
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Sara Closs-Davies
Amcanion cyffredinol
Nodir mai dwbl-modiwl yw hwn sy'n cyflwyno cyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheolaeth.
Cyfrifeg ariannol: Rhoi cyflwyniad i sgiliau sylfaenol cadw cyfrifon, a datblygu dealltwriaeth eang o theori, cysyniadau a chonfensiynau cyfrifeg.
Cyfrifeg rheolaeth: Rhoi cyflwyniad i swyddogaeth cyfrifeg rheolaeth mewn gwneud penderfyniadau a rheoli sefydliad.
Cynnwys cwrs
Mae adran cyfrifeg ariannol y modiwl yn rhoi cyflwyniad i sgiliau a thegnegau cadw cyfrifon ac hefyd yn cynnwys cysyniadau a chonfensiynau cyfrifeg sydd yn arwain arferion cyfrifeg corfforaethol. Bydd yr adran yn cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i, mesur sefyllfa ariannol sefydliadau a rhoi adroddiad ar hynny; mesur perfformiad ariannol sefydliad a rhoi adroddiad ar hynny a cadw cyfrifon a pharatoi cyfrifon unig fasnachwyr a chwmniau.
Mae adran cyfrifeg rheolaeth y modiwl yn cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i, dadansoddi ffiniol; costiad llawn; datganiadau elw ar sail costio ymylol a chostio amsugnol a chyllidebau ariannol.
Meini Prawf
C- i C+
C- i C + (50-59%):Llawer o’r wybodaeth a’r sgiliau perthnasol wedi’u defnyddio'n gywir at ei gilydd. Dealltwriaeth ddigonol o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio gweddol o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Peth tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
trothwy
Trothwy: D- to D+ (40-49%): Dim o bwys wedi ei hepgor neu'n anghywir o ran defnyddio gwybodaeth/sgiliau. Rhywfaint o ddealltwriaeth o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Cyfuno theori/ymarfer/gwybodaeth i'w weld yn ysbeidiol wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir.
da
Da: B- i B +(60-69%):Perfformiad da iawn. Defnyddir y rhan fwyaf o'r wybodaeth berthnasol yn gywir. Dealltwriaeth dda o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio da o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
ardderchog
Rhagorol: A- i A + (70%+):Perfformiad rhagorol. Defnyddio'r wybodaeth berthnasol yn gywir. Dealltwriaeth ragorol o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio da o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Tystiolaeth gref o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
Canlyniad dysgu
-
Cyfrifeg ariannol: Gallu paratoi cyfrifon ar gyfer unig fasnachwyr a chwmniau.
-
Cyfrifeg rheolaeth: Gallu dosbarthu, amcangyfrif a dyrannu costau a gorbenion.
-
Cyfrifeg ariannol: Dangos cynefindra â sgiliau sylfaenol cadw cyfrifon.
-
Cyfrifeg rheolaeth: Deall y berthynas rhwng cost, cyfaint ac elw.
-
Cyfrifeg ariannol: Dangos dealltwriaeth o gysyniadau, confensiynau a theoriau cyfrifeg.
-
Cyfrifeg rheolaeth: Deall sut y defnyddir cyllidebau ar gyfer cynllunio a rheoli a pharatoi cyllidebau ariannol.
-
Cyfrifeg rheolaeth: Deall y gwahaniaeth rhwng costio ymylol a chostio amsugnol a gallu paratoi eu datganiadau elw
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
PRAWF DOSBARTH | Prawf Dosbarth Semester 1 | Prawf ar-lein cwestiynau aml-ddewis: 1 awr |
20.00 |
PRAWF DOSBARTH | Prawf Dosbarth Semester 2 | 20.00 | |
ARHOLIAD | Arholiad Semester 2 | 30.00 | |
ADDRODDIAD | Adroddiad Semester 1 | Adroddiad ar sail astudiaeth achos. Bydd yr adroddiad yn gofyn i fyfyrwyr cyflwyno gwaith cyfrifo ac ysgrifenedig. Mae'r terfyn geiriau o 300 gair dim ond yn berthnasol i'r elfen ysgrifenedig yr adroddiad. |
30.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Cyfrifeg rheolaeth: 2 sesiwn galw-heibio 1-awr yr un yn y cyfrwng Gymraeg. |
2 |
Lecture | Cyfrifeg rheolaeth: Darlith wythnosol 2-awr yn y cyfrwng Saesneg. |
20 |
Tutorial | Cyfrifeg ariannol: 4 sesiwn galw-heibio 1-awr yr un yn y cyfrwng Gymraeg. |
4 |
Lecture | Cyfrifeg ariannol: darlith wythnosol 2-awr yr un yn y cyfrwng Saesneg. |
20 |
Private study |
|
154 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
Sgiliau pwnc penodol
- knowledge of some of the contexts in which accounting can be seen as operating (examples of contexts include the legal, ethical, social and natural environment; the accountancy profession; the business entity; the capital markets; the public sector)
- knowledge of the main current technical language and practices of accounting (for example, recognition, measurement and disclosure in financial statements; managerial accounting; auditing; taxation) in a specified socio-economic domain
- knowledge of some of the alternative technical languages and practices of accounting (for example, alternative recognition rules and valuation bases, accounting rules followed in other socio-economic domains, alternative managerial accounting approaches to control and decision-making)
- skills in recording and summarising transactions and other economic events; preparation of financial statements; analysis of the operations of business (for example, decision analysis, performance measurement and management control); financial analysis and projections (for example, analysis of financial ratios, discounted cash flow analysis, budgeting, financial risks)
- knowledge of contemporary theories and empirical evidence concerning accounting in at least one of its contexts (for example, accounting and capital markets; accounting and the firm; accounting and the public sector; accounting and society; accounting and sustainability) and the ability to critically evaluate such theories and evidence age
- knowledge of theories and empirical evidence concerning financial management, risk and the operation of capital markets (in cases of degrees with significant finance content).
- An ability to understand financial statements, and a basic appreciation of the limitations of financial reporting practices and procedures (eg financial statement analysis; the relation between cash flow accounting and accrual accounting; discretionary accounting practices).
- Numeracy: the use of quantitative skills to manipulate data, evaluate, estimate and model business problems, functions and phenomena.
- Articulating and effectively explaining information.
- Communication and listening including the ability to produce clear, structured business communications in a variety of media.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/adb-1110.htmlRhestr ddarllen
McLaney, E. and Atrill, P. (2020). Accounting and Finance: An Introduction, 10fed argraffiad. Pearson