Modiwl ADB-2111:
Dulliau Ystadegol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan Bangor Business School
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Gwion Williams
Amcanion cyffredinol
NODAU: Bydd y modiwl yn cyflwyno'r myfyrwyr i syniadau am debygolrwydd a chasgliadau ystadegol, ac yn dangos sut mae cymhwyso'r syniadau hynny. Y nod cyffredinol yw rhoi sylfaen dda i'r myfyrwyr mewn dulliau a thechnegau ystadegol. Mae ffocws cryf ar roi'r technegau hyn ar waith yn Microsoft Excel.
Cynnwys cwrs
Profion rhagdybiaeth; gwallau Math I a Math II; Lefel arwyddocâd; Cydberthyniad ac achosiaeth; Model atchweliad llinol; Amcangyfrif swm lleiaf sgwariau cyffredin; Profi arwyddocâd atchweliad; Dulliau samplo; Profion cadernid; Cyfres amser a data panel.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy: D- to D+ (40-49%): Dim o bwys wedi ei hepgor neu'n anghywir o ran defnyddio gwybodaeth/sgiliau. Rhywfaint o ddealltwriaeth o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Cyfuno theori/ymarfer/gwybodaeth i'w weld yn ysbeidiol wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir.
da
Da: B- i B+(60-69%): Perfformiad da iawn. Defnyddir y rhan fwyaf o'r wybodaeth berthnasol yn gywir. Dealltwriaeth dda o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio da o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
ardderchog
Rhagorol: A- i A+ (70%+): Perfformiad rhagorol. Defnyddio'r wybodaeth berthnasol yn gywir. Dealltwriaeth ragorol o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio da o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Tystiolaeth gref o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
C- i C+
Lefel Arall: C- i C+ (50-59%): Llawer o’r wybodaeth a’r sgiliau perthnasol wedi’u defnyddio'n gywir at ei gilydd. Dealltwriaeth ddigonol o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio gweddol o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Peth tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
Canlyniad dysgu
-
Deall cysyniad samplu a chasgliadau ystadegol.
-
Dadansoddi data, a dehongli'r canlyniadau.
-
Gwneud ymchwil drwy ddefnyddio ystadegau cryno, graffiau, technegau a dadansoddi data archwiliadol, cydberthyniad ac atchweliad.
-
Dangos dealltwriaeth o gysyniadau ystadegol.
-
Adnabod a datrys problemau lle ceir newidynnau.
-
Llunio a phrofi rhagdybiaethau.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Adroddiad Dadansoddi Data Grŵp | 20.00 | ||
Arholiad Diwedd Semester 2 | 80.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Bydd cyfres o ddarlithoedd dwy awr, a fydd yn cynnwys arddangosiadau ymarferol ac enghreifftiau gweithgar i roi cynnig arnynt yn y dosbarth. |
40 |
Workshop | Gweithdy: sesiwn galw heibio 2 awr o hyd bob yn ail wythnos. Nid yw bod yn bresennol yn orfodol. |
20 |
Private study | Adolygu a myfyrio ar ddeunydd y cwrs ac ymarfer cymhwyso technegau yn Excel |
140 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Analysis, deduction and induction. Economic reasoning is highly deductive, and logical analysis is applied to assumption-based models. However, inductive reasoning is also important. The development of such analytical skills enhances students' problem-solving and decision-making ability.
- Quantification and design. Data, and their effective organisation, presentation and analysis, are important in economics. The typical student will have some familiarity with the principal sources of economic information and data relevant to industry, commerce, society and government, and have had practice in organising it and presenting it informatively. This skill is important at all stages in the decision-making process.
- Numeracy: the use of quantitative skills to manipulate data, evaluate, estimate and model business problems, functions and phenomena.
- Conceptual and critical thinking, analysis, synthesis and evaluation.
- Self-management: a readiness to accept responsibility and flexibility, to be resilient, self-starting and appropriately assertive, to plan, organise and manage time.