Modiwl CXC-1006:
Golwg ar Lenyddiaeth 1
Golwg ar Lenyddiaeth 1 2022-23
CXC-1006
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Jason Davies
Overview
Bydd y modiwl hwn yn bwrw golwg ar rai o uchelfannau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gan gyflwyno'r myfyriwr i brif weithiau y cyfnod arbennig hwnnw.
Ceir cyflwyniad byr i’r traddodiad barddol Cymraeg, ac astudir enghreifftiau o’r farddoniaeth Gymraeg gynharaf (Taliesin ac Aneirin) ynghyd â chywyddau gan Ddafydd ap Gwilym. Bydd cyfle hefyd i astudio’r gynghanedd, ac i ymgyfarwyddo â rhai o chwedlau’r Mabinogion.
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+:Dangos adnabyddiaeth o wreiddiau'r canu mawl Cymraeg. Dangos adnabyddiaeth o rai o gerddi Cymraeg enwog yr Oesoedd Canol.Dangos dealltwriaeth o hanfodion y gynghanedd.Dangos adnabyddiaeth o rai o chwedlau Cymraeg yr Oesoedd Canol.Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill.Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-good -B- i B+:Dangos adnabyddiaeth dda o wreiddiau'r canu mawl Cymraeg. Dangos adnabyddiaeth dda o rai o gerddi Cymraeg enwog yr Oesoedd Canol.Dangos dealltwriaeth dda o hanfodion y gynghanedd.Dangos adnabyddiaeth dda o rai o chwedlau Cymraeg yr Oesoedd Canol.Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraillDangos gafael cynyddol ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
-excellent -A- i A*:Dangos adnabyddiaeth gadarn o wreiddiau'r canu mawl Cymraeg. Dangos adnabyddiaeth gadarn o rai o gerddi Cymraeg enwog yr Oesoedd Canol.Dangos dealltwriaeth gadarn o hanfodion y gynghanedd.Dangos adnabyddiaeth gadarn o rai o chwedlau Cymraeg yr Oesoedd Canol.Dangos gallu cadarn i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill.Dangos gafael hyderus ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Learning Outcomes
- Deall agweddau canolog o draddodiad rhyddiaith y Gymraeg.
- Deall hanfodion y gynghanedd.
- Deall hanfodion y traddodiad barddol Cymraeg.
- Medru defnyddio ieithwedd briodol a rhai termau technegol addas wrth drafod llenyddiaeth ar draws ystod o gyfnodau
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad awr a hanner: bydd y myfyriwr yn ysgrifennu darnau byrion ar rai o'r prif gysyniadau a'r prif weithiau a astudiwyd, gan gynnwys dadansoddi'r gynghanedd.
Weighting
50%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Profion geiriau: rhoddir geirfa wythnosol i'w dysgu, yn berthnasol i'r testunau trafod., fel bod y myfyrwyr yn magu stôr o dermau ac ymadroddion i'w galluogi i drafod llenyddiaeth.
Weighting
25%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad llafar: cerdd neu ddarn o ryddiaith
Weighting
25%