Modiwl CXC-1035:
Cymraeg Llafar Dwys 2
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Ms Bethan Glyn
Amcanion cyffredinol
Mae Cymraeg Llafar Dwys 2 yn un o'r tri modiwl sy'n ymffurfio'n flwyddyn sylfaen Cymraeg (i Ddechreuwyr) a baratoir ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg a'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Bydd y modiwl hwn yn cadarnhau ac yn ymestyn gafael y myfyriwr ar batrymau’r iaith lafar, gan roi cyfle iddo/iddi eu hymarfer yn gyson mewn gweithgareddau ymarferol. Erbyn diwedd y modiwl, disgwylir y bydd y myfyriwr yn medru sgwrsio’n estynedig a hyderus am ystod eang o arferion a phrofiadau personol, trafod materion cyfoes a deall amrywiaeth o destunau llafar ac ysgrifenedig.
Cynnwys cwrs
Mae Cymraeg Llafar Dwys 2 yn un o'r tri modiwl sy'n ymffurfio'n flwyddyn sylfaen Cymraeg (i Ddechreuwyr) a baratoir ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg a'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Bydd y cwrs yn cadarnhau ac ymestyn prif batrymau’r iaith lafar ac yn darparu cyfleoedd i’r myfyriwr eu rhoi ar waith trwy gyfrwng gweithgareddau cyfathrebol amrywiol. Bydd sylw cyson yn cael ei roi i ynganu cywir, trefn geiriau, treigladau, datblygu geirfa, ac ati, a bydd pob un o brif amserau’r ferf –presennol, amherffaith, perffaith, gorffennol syml, dyfodol, amodol, gorchmynion – yn cael ei ymarfer. Rhoddir sylw priodol hefyd i ddatblygu sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu mewn cyd-destunau amrywiol.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy: 40% Ynganu a goslefu lled-gywir Llwyddo i gyfathrebu ar lafar, gan ddefnyddio ystod o batrymau sylfaenol ac heb fod gwallau’n ymyrryd yn ormodol. Deall rhediad ystod o sgyrsiau a thestunau. Ysgrifennu’n ddealladwy ar y cyfan, gan ddangos peth ymwybyddiaeth o deithi’r iaith.
ardderchog
Rhagorol: (80%) Ynganu’n gywir gydag acen dda, a goslefu’n naturiol. Cyfathrebu’n hyderus ar lafar, gan ddefnyddio ystod eang o batrymau‘n gywir. Deall ystod eang o sgyrsiau a thestunau sylfaenol yn ddidrafferth. Ysgrifennu’n gywir iawn, gan ddangos ymwybyddiaeth gadarn o deithi’r iaith.
da
Da: 50% Ynganu a goslefu’n gywir. Llwyddo i gyfathrebu ar lafar, gan ddefnyddio ystod o batrymau yn gywir ar y cyfan. Deall ystod o sgyrsiau a thestunau yn dda. Ysgrifennu’n gywir ar y cyfan, gan ddangos ymwybyddiaeth dda o deithi’r iaith.
Canlyniad dysgu
-
Ynganu a goslefu’r Gymraeg yn briodol.
-
Medru sgwrsio’n estynedig am arferion a phrofiadau pob dydd a mynegi barn am ystod o bynciau, gan ddefnyddio patrymau iaith cywir ac amrywio amserau’r ferf yn briodol.
-
Medru deall cynnwys testunau llafar ac ysgrifenedig sy’n ymdrin ag ystod o bynciau, megis profiadau personol, gwasanaethau, digwyddiadau hanesyddol, materion cyfoes, ac ati.
-
Medru ysgrifennu darnau ymarferol mewn cywair anffurfiol neu led-ffurfiol (e.e. negeseuon e-bost, llythyrau, ffurflenni, portreadau).
-
Deall teithi’r iaith Gymraeg lafar, o ran trefn geiriau, rhediadau berfau ac arddodiaid, treigladau, cymharu ansoddeiriau, cymalau, berfau gweithredol a goddefol, ac ati.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Ysgrifenedig | 40.00 | ||
Llafar | 40.00 | ||
Gwrando | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
(1) Gwerslyfr Cwrs Pellach y Gogledd. (2) 2 gryno-ddisg Cwrs Pellach y Gogledd
Rhagofynion a Chydofynion
Cydofynion
Cydofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 1 (BA/CYMPR4)