Modiwl CXC-1036:
Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
30.000 Credyd neu 15.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Aled Llion Jones
Amcanion cyffredinol
Mae Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg yn un o dri modiwl sy'n ymffurfio'n flwyddyn sylfaen Cymraeg (i Ddechreuwyr) a baratoir gan Ysgol y Gymraeg a'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Mae’r modiwl hwn yn cynnig gorolwg o brif gyfnodau llenyddiaeth y Gymraeg ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau dysgu Cymraeg. Yn ystod Semester 1 canolbwyntir yn bennaf ar astudio cyfieithiadau, ond yn raddol, yn ystod Semester 2 bydd testunau mewn Cymraeg yn cael eu hastudio ochr yn ochr â’r cyfieithiadau. Nod y modiwl yw galluogi’r myfyrwyr i ddeall a gwerthfawrogi cefndir y ‘traddodiad’ llenyddol o gyfnod gwawrio’r iaith Gymraeg hyd at y presennol. Am fod hwn yn fodiwl i ddechreuwyr yn benodol, bydd sylw arbennig yn cael ei roi i feithrin dealltwriaeth o’r iaith lenyddol (yn Semester 2 yn bennaf) ac i eirfa berthnasol.
Cynnwys cwrs
Mae Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg yn un o dri modiwl sy'n ymffurfio'n flwyddyn sylfaen Cymraeg (i Ddechreuwyr) a baratoir gan Ysgol y Gymraeg a'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Dyma amlinelliad o'i gynnwys:
- Adventus y Saeson a chyfnod y Cynfeirdd: y canu llys cynnar a’r canu englynol
- Cyfnod y Normaniaid a chanu Beirdd y Tywysogion
- Cyfreithiau Hywel Dda
- Y traddodiad rhyddiaith cynnar: chwedlau brodorol y Mabinogion a chyfieithiadau pwysig megis Brut y Brenhinedd.
- Y Cywyddwyr a’r gynghanedd
- Y traddodiad llawysgrifol
- Y Diwygiad Protestannaidd; o fyd y llawysgrif i fyd y llyfr print
- Y Dadeni a Dyneiddiaeth; dirywiad y traddodiad barddol
- Y Diwygiad Methodistaidd
- Diwylliant poblogaidd a thorfol y Gymraeg
- Yr Ymoleuo a thwf Rhyddfrydiaeth
- Rhamantiaeth
- Yr Eisteddfod a’r 19g.
- Llenyddiaeth y Cyfnod Modern
Meini Prawf
ardderchog
Rhagorol Bydd myfyrwyr ardderchog (graddau A) yn arddangos y galluoedd sicr hyn ar draws y meini prawf, yn ogystal â dyfnder arbennig yn eu gwybodaeth a/neu gywreinrwydd eu dadansoddi. Dangosant hefyd wreiddioldeb yn eu gwaith darllen a dehongli. Byddant yn arddangos dealltwriaeth gynyddol o’r testunau yn yr iaith wreiddiol.
trothwy
Trothwy Bydd myfyrwyr trothwyol (graddau D isel) yn arddangos rhychwant o wybodaeth briodol – neu ddyfnder priodol – mewn o leiaf rannau o’r maes perthnasol, a byddant yn llwyddo’n rhannol o leiaf i greu dadlau sy’n mynd i’r afael â’r pynciau a drafodir.
da
Da Bydd myfyrwyr da (graddau B) yn arddangos galluoedd sicr yn yr holl agweddau a nodwyd yn y paragraff uchod, gan gynnwys safon eu hiaith ysgrifenedig a llafar.
Canlyniad dysgu
-
Yn medru ystyried y gweithiau llenyddol yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, gan ddangos ymwybyddiaeth o berthynas y llenyddiaeth i rai o brif gysyniadau’r cyfnodau dan sylw.
-
Yn deall pwysigrwydd y gweithiau a’r awduron hyn, a’u cyfraniad i ddatblygiad y traddodiad llenyddol Cymraeg.
-
Yn ymwybodol o brif ddigwyddiadau a chyfnodau hanesyddol yr ystod dan sylw.
-
Yn medru mynegi barn yn glir ac yn ddealladwy yn ysgrifenedig am y darnau o lenyddiaeth a’r cyfnodau hanesyddol dan sylw.
-
Yn medru mynegi barn yn glir ac yn ddealladwy ar lafar am y darnau o lenyddiaeth a’r cyfnodau hanesyddol dan sylw.
-
Yn medru deall a defnyddio geirfa berthnasol a gyflwynir yn ystod y modiwl.
-
Yn ymwybodol o rai o brif lenorion a phrif weithiau llenyddol yr iaith Gymraeg o’r Oesau Canol cynnar hyd heddiw.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Darn byr 1 | 40.00 | ||
Darn byr 2 | 40.00 | ||
Darn byr 3 | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Nid oes unrhyw oblygiadau.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 0 (BA/CYMPR4)