Modiwl CXC-2034:
Iaith Gwaith
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Ms Sian Esmor Rees
Amcanion cyffredinol
Mae’r modiwl hwn ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg i'w defnyddio’n hyderus ac effeithiol yng nghyd-destun y gweithle Cymraeg neu ddwyieithog. Y prif nod fydd eu galluogi i ystyried pwrpas a chynulleidfa a dylanwad hynny wrth wneud gwaith ysgrifennu mewn amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol.
Prif nod y modiwl felly fydd edrych ar ystyriaethau o ran addasrwydd iaith mewn gwahanol gyd-destunau proffesiynol. Yn benodol felly, edrychir ar dri maes: Gweinyddu drwy’r Gymraeg; Golygu a phrawfddarllen a llunio cynnyrch print; a’r Wasg, marchnata, cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus. Gwahoddir siaradwyr sy’n gweithio yn y meysydd hyn i rannu profiadau ac arbenigedd â’r myfyrwyr yn y sesiynau grŵp.
Yn ogystal, er mwyn adeiladu ar y seiliau a osodwyd yn y modiwl craidd Defnyddio’r Gymraeg ym Mlwyddyn 1, lle’r edrychir ar agweddau gramadegol yr iaith, bydd magu hyder yng nghywirdeb eu sgiliau iaith a’u gallu i gywiro eu gwaith eu hunain ac eraill yn agwedd bwysig ar y modiwl hwn hefyd. Bydd y modiwl yn cyd-redeg â’r modiwl craidd Ymarfer Ysgrifennu ym Mlwyddyn 2, modiwl sydd hefyd yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau, e.e. adolygiad, crynodeb, cyfieithiad byr ac ati. Bydd y modiwl Iaith Gwaith yn adeiladu ar y gwaith a wneir yn y modiwl hwnnw gan ganolbwyntio ar gynyddu eu hymwybyddiaeth o agweddau ieithyddol a chywair ond yng nghyd-destun y gweithle Cymraeg a dwyieithog. Bydd y tasgau asesu’n adlewyrchu hyn.
Bydd y cyfnod o brofiad gwaith a gafodd y myfyrwyr yn adrannau’r Brifysgol fel rhan o’r modiwl O’r Senedd i’r Swyddfa ym Mlwyddyn 1 yn sail gadarn ar gyfer cyfnod pellach o brofiad gwaith ar y modiwl hwn. Bydd y modiwl hefyd yn sail gadarn i’r ddau fodiwl craidd ym Mlwyddyn 3 - Medrau Cyfieithu a Portffolio Proffesiynol. Er mwyn creu cyd-destun perthnasol i waith y modiwl, bydd y gwaith iaith yn deillio o’r cyd-destun real, dilys a roddir sef sgiliau byd gwaith.
Cynnwys cwrs
Prif nod y modiwl yw datblygu sgiliau iaith y myfyrwyr gan ganolbwyntio ar ystyried pwrpas, cyfrwng a chynulleidfa wrth wneud gwaith ysgrifenedig mewn cyd-destun proffesiynol. Datblygir ymwybyddiaeth y myfyrwyr o gyweiriau’r iaith a’u priodoldeb mewn amrywiol gyd-destunau ac ar gyfer gwahanol gyfryngau yn y gweithle Cymraeg a dwyieithog. Gwneir hyn yng nghyd-destun dilys sgiliau cyflogadwyedd mwy cyffredinol.
Bydd y themâu ieithyddol yn cael eu datblygu drwy edrych ar ddwy agwedd benodol:
gwahanol fathau o ysgrifennu, e.e. ysgrifennu esboniadol a disgrifiadol, ysgrifennu ar gyfer hyrwyddo a marchnata, ysgrifennu newyddiadurol;
gwahanol fathau o gyfryngau, e.e. cyfryngau print traddodiadol, cyfryngau electronig yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefannau
Bydd pwyslais yn y modiwl ar ddefnyddio dulliau datblygu ymwybyddiaeth a sgiliau iaith yr unigolyn yn y cyd-destun hwn yn ogystal ag yng nghyd-destun anghenion personol penodol y myfyriwr ei hun.
Bydd wythnos o brofiad gwaith yn rhan greiddiol o’r modiwl lle bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i gymhwyso’r sgiliau a geir ar y modiwl (sgiliau iaith a sgiliau cyflogadwyedd) mewn ffordd ymarferol mewn gweithle go-iawn. Gydag arweiniad a chyngor gan Ganolfan Bedwyr, bydd gan y myfyrwyr ran flaenllaw wrth ddewis a threfnu’r lleoliad yn ôl eu diddordeb, eu dymuniadau a’u hanghenion eu hunain.
Mae’r cyflogwyr isod eisoes wedi mynegi ei cefnogaeth i’r cynllun ac wedi ymrwymo i gynnig lleoliadau i fyfyrwyr a fydd yn dilyn y modiwl:
Cyngor Gwynedd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Grŵp Llandrillo Menai
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyngor Ynys Môn
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Gwasanaeth y Llysoedd
Menter Môn
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
BT
Heddlu Gogledd Cymru
Comisiynydd y Gymraeg
Llywodraeth Cymru
Meini Prawf
da
Da (-B - B+)
-
Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth o gywirdeb iaith, gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
-
Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
-
Gwaith yn adlewyrchu ystyriaeth deg o bwrpas a chyfrwng y gwaith, gan wneud hynny’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
-
Lle bo’n berthnasol, gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brif egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol gan eu cymhwyso a’u defnyddio yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
-
Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
-
Gwaith yn adlewyrchu defnydd cywir a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
ardderchog
Rhagorol (-A - A)*
-
Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith, gan wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
-
Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir gan eu defnyddio’n gyson a thrwyadl.
-
Gwaith yn adlewyrchu ystyriaeth fwriadus ac effeithiol o bwrpas a chyfrwng y gwaith, gan wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
-
Lle bo’n berthnasol, gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth gref o brif egwyddorion y sgiliau iaith cymhwysol gan eu cymhwyso a’u defnyddio’n gyson a thrwyadl.
-
Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl.
-
Gwaith yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.
trothwy
Trothwy (-D - D+)
-
Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith, ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
-
Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o nodweddion cywair iaith pwrpasol / Cymraeg Clir ond heb eu defnyddio’n gyson a thrwyadl.
-
Gwaith yn adlewyrchu ystyriaeth elfennol o bwrpas a chyfrwng y gwaith ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
-
Lle bo’n berthnasol, gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o brif egwyddorion sgiliau iaith cymhwysol ond heb eu cymhwyso na’u defnyddio’n gyson a thrwyadl.
-
Ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson.
-
Gwaith yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
Canlyniad dysgu
-
- defnyddio’r sgiliau iaith cymhwysol lle bo hynny’n addas yn ôl y sefyllfa, y gynulleidfa, pwrpas a chyfrwng y gwaith;
-
- dod o hyd i derminoleg pynciau / meysydd amrywiol yn effeithiol a’i defnyddio’n hyderus;
-
- gallu cywiro a golygu gwaith rhywun arall
-
- defnyddio’r iaith Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y gweithle Cymraeg neu ddwyieithog;
-
- cymryd cyfrifoldeb cynyddol am sicrhau cywirdeb eu hiaith eu hunain gan ddatblygu eu hymwybyddiaeth ieithyddol ymhellach;
-
- drwy ystyried y cyd-destun a’r cyfrwng dan sylw, ystyried addasrwydd gwahanol gyweiriau iaith (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ac egwyddorion sylfaenol Cymraeg Clir a’u defnyddio’n bwrpasol ac effeithiol yn ôl sefyllfa, pwrpas a chynulleidfa;
-
- defnyddio adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol i’w cynorthwyo i gywiro eu gwaith eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth ieithyddol ymhellach;
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Ysgrifennu Llythyr a CV | 10.00 | ||
Cynllun Datblygu Personol a Chasgliad o Ddeunyddiau | 40.00 | ||
Sgiliau Iaith Cymhwysol | 20.00 | ||
Cyflwyniad Proffesiynol | 30.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Bydd y tiwtorialau'n gyfle i gynllunio, trefnu ac adolygu'r cyfnod profiad gwaith. |
6 |
Lecture | Bydd y dosbarthiadau yn gyfuniad o gyflwyniadau a gweithdai ymarferol, yn cynnwys rhai cyflwyniadau gwadd gan arbenigwyr mewn meysydd penodol (e.e. golygydd proffesiynol; swyddog marchnata / cysylltiadau cyhoeddus; swyddog dehongli). |
24 |
Work-based learning | Profiad Gwaith – bydd pob myfyriwr yn ymgymryd ag wythnos o leoliad gwaith yn un o’r gweithleoedd sydd wedi cynnig eu cefnogaeth i’r cwrs. Bydd yr union gyfnod i’w gytuno rhwng y myfyriwr a’r cyflogwr perthnasol, gyda chyfnod yn ystod gwyliau’r Pasg yn cael ei ffafrio. |
30 |
Private study | Bydd yr oriau hyn yn gyfle i'r myfyriwr ystyried a chymhwyso'r hyn y bydd wedi ei ddysgu yn y darlithoedd a'r tiwtorialau. Yn benodol, bydd angen iddo/iddi ddefnyddio'r amser i gywiro a datblygu ei iaith, paratoi at yr aseiniadau a'r cyfnod profiad gwaith, a chadw cofnod o'i ddatblygiad iaith ei hun. |
140 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Nid oes unrhyw oblygiadau ychwanegol o ran cyfarpar.
Rhestr ddarllen
Llyfryddiaeth ddethol
Elbow, P. (1998), Writing With Power: Techniques for Mastering the Writing Process, New York: Oxford University Press.
Griffiths, B. a Jones D.G. (1995), Geiriadur yr Academi: The Welsh Academy English-Welsh Dictionary, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Hughes, J.E. (1988), Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg, Llandysul: Gwasg Gomer.
Ifans, Rh., (2006) Y Golygiadur: Llawlyfr i awduron a golygyddion, Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.
King, G. (1993) Modern Welsh – a Comprehensive Grammar, Llundain: Routledge.
Lewis, D. G. (1993) Y Treigliadur, Llandysul: Gwasg Gomer.
Lewis, D. G. (1995) Y Llyfr Berfau, Llandysul: Gwasg Gomer.
Lewis, D. G. (1995) Pa Arddodiad?, Llandysul: Gwasg Gomer.
Morris Jones, B. (1993) Ar Lafar ac ar Bapur, Y Canofan Astudiaethau Addysg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Thomas, G. (2012), Ymarfer Ysgrifennu Cymraeg, Caerdydd: CBAC a Thal-ybont: Y Lolfa.
Thomas, P. W. (1996) Gramadeg y Gymraeg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Thorne, D. A. (1993) A Comprehensive Welsh Grammar, Rhydychen: Blackwell.
Uned Iaith Genedlaethol (1978) Cyflwyno’r Iaith Lenyddol, Y Bont-faen: D. Brown a’i Feibion.
Williams, S. J. (1980) Elfennau Gramadeg Cymraeg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 2 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 2 (BA/CYMPRO)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 2 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 2 (LLB/LW)