Modiwl CXC-3009:
Traethawd Estynedig
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Prof Jason Davies
Amcanion cyffredinol
Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasgau rhagarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.
Cynnwys cwrs
Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasgau rhagarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+
Dylai'r traethawd ddangos cynefindra â'r prif ffynonellau gwybodaeth, ynghyd â'r gallu i gywain a dadansoddi deunydd a mynegi barn bersonol. Dylai'r dasg dechnegol ddangos cynefindra â'r egwyddorion, a dylai'r dasg lafar fod yn gyflwyniad clir mewn ieithwedd briodol. Rhaid dangos gafael ar deithi'r Gymraeg ymhob tasg.
da
B- i B+
Dylai'r traethawd ddangos gwybodaeth dda o'r prif ffynonellau ynghyd â'r gallu i gywain a dadansoddi ystod dda o ddeunydd ac i fynegi barn bersonol ystyriol. Dylai'r dasg dechnegol gael ei chyflawni'n bur gywir, a dylai'r dasg lafar fod yn gyflwyniad clir a chytbwys, mewn ieithwedd addas a graenus. Dylai pob tasg ddangos gafael dda ar deithi'r Gymraeg.
ardderchog
A- i A*
Dylai'r traethawd ddangos gwybodaeth drylwyr o ystod eang o ffynonellau gwybodaeth, ynghyd â gallu datblygedig i gywain a dadansoddi deunydd. Dylid arddangos barn bersonol aeddfed a meddylgar. Dylai'r dasg dechnegol gael ei chyflwyno'n gywir iawn, a dylai'r cyflwyniad llafar arddangos dawn i drafod yn fywiog ac yn ystyriol mewn ieithwedd gaboledig. Dylai pob tasg ddangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Casglu deunydd yn annibynnol ar bwnc gosodedig.
-
Dethol defnyddiau a'u cyflwyno'n drefnus.
-
Ymateb yn feirniadol i'r pwnc
-
Dangos ymwybyddiaeth o gyd-destun llenyddol a diwylliannol.
-
Defnyddio ieithwedd bwrpasol a mynegiant clir a graenus wrth draethu ar ei ddewis bwnc.
-
Arddangos sgiliau technegol wrth gyflwyno gwaith ysgrifenedig.
-
Cyflwyno deunydd a chynnal trafodaeth ar lafar.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd 8000 o eiriau | 75.00 | ||
Prawf Llafar | 15.00 | ||
Tasgau Technegol | 10.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 3 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 3 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 3 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 4 (BA/CYM4)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 3 (BA/WCW)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 3 (BA/ABCH)
- 3Q5Q: BA Cymraeg and English Literature year 3 (BA/CEL)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 4 (BA/CHCY)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 3 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 4 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 3 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 4 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 3 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 3 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 3 (BA/SWW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 4 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 4 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 3 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 3 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 3 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 3 (BA/WS)