Modiwl CXC-4011:
Portffolio Creadigol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
60.000 Credyd neu 30.000 Credyd ECTS
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
1.Datblygu medrau ysgrifennu creadigol
2.Paratoi portffolio creadigol.
Cynnwys cwrs
Mae 'Portffolio Creadigol' yn un o fodiwlau craidd MA: Ysgrifennu Creadigol a gynigir gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Yn y modiwl hwn bydd y prif bwyslais ar ddatblygu ysgrifennu creadigol y myfyriwr ei hun a chymhwyso rhai o'r pethau a ddysgwyd yn y modiwlau blaenrol at yr project terfynol hwn. Ymhlith y materion y rhoddir sylw manwl iddynt bydd y defnydd o fath neu fathau llenyddol; cywair, arddull, ieithiwedd ac idiom y gwaith creadigol; y thema neu'r themâu a archwilir; persona'r awdur a'r adroddwr yn ogystal â'r 'llais' neu'r 'lleisiau' y ceisir eu mynegi; golygu ac ailwampio; datblygu a strwythuro; crefft a thechnegau ysgrifennu. Bydd union natur y portffolio yn fater a drafodir yn ofalus rhwng y tiwtor a'r myfyriwr, e.e. cyfres o gerddi, nofel fer, casgliad o storïau byrion a llên meicro. Bydd cyfle hefyd i drafod cynnydd y project ac adfyfyrio'n hunanfeirniadol ar yr hyn a ysgrifennwyd mewn rhagymadrodd neu ôl-ymadrodd i'r portffolio.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Meini Prawf
trothwy
C- i C+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Pasio
- dangos gallu i ddatblygu, cynllunio a chynnal project creadigol estynedig
- dangos gallu i ddeall priod nodweddion gwahanol fathau llenyddol
- dangos gallu i archwilio thema'n greadigol
- dangos gafael ar grefft a thechnegau ysgrifennu creadigol
- dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
- dangos gallu i drin y Gymraeg yn greadigol
- dangos gallu i arfer grym mynegiannol iaith
- dangos gallu i adfyfyrio'n hunanfeirniadol ar y broses greadigol
- dangos gallu i ysgrifennu'n ddychmygus ac yn ddyfeisgar.
da
B- i B+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Teilyngdod
- dangos gallu da i ddatblygu, cynllunio a chynnal project creadigol estynedig
- dangos gallu da i ddeall priod nodweddion gwahanol fathau llenyddol
- dangos gallu da i archwilio thema'n greadigol
- dangos gafael dda ar grefft a thechnegau ysgrifennu creadigol
- dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
- dangos gallu da i drin y Gymraeg yn greadigol
- dangos gallu da i arfer grym mynegiannol iaith
- dangos gallu da i adfyfyrio'n hunanfeirniadol ar y broses greadigol
- dangos gallu da i ysgrifennu'n ddychmygus ac yn ddyfeisgar.
ardderchog
A- i A* - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Rhagoriaeth
- dangos gallu datblygedig i ddatblygu, cynllunio a chynnal project creadigol estynedig
- dangos gallu datblygedig i ddeall priod nodweddion gwahanol fathau llenyddol
- dangos gallu datblygedig i archwilio thema'n greadigol
- dangos gafael sicr ar grefft a thechnegau ysgrifennu creadigol
- dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
- dangos gallu datblygedig i drin y Gymraeg yn greadigol
- dangos gallu datblygedig i arfer grym mynegiannol iaith
- dangos gallu dablygedig i adfyfyrio'n hunanfeirniadol ar y broses greadigol
- dangos gallu datblygedig i ysgrifennu'n ddychmygus ac yn ddyfeisgar.
Canlyniad dysgu
-
Datblygu, cynllunio a chynnal project creadigol estynedig
-
Ymdrin yn ymarferol â math neu fathau llenyddol
-
Gwneud defnydd priodol o gywair, arddull, idiom ac ieithwedd o fewn darn neu ddarnau o ysgrifennu creadigol
-
Archwilio thema neu themâu o fewn darn neu ddarnau o ysgrifennu creadigol
-
Arddangos agwedd adfyfyriol a hunanfeirniadol tuag at ysgrifennu creadigol
-
Profi rheolaeth ar agweddau technegol ysgrifennu creadigol
-
Sylweddoli pwysigrwydd golygu, strwythuro ac ailwampio darn o waith creadigol
-
Gwerthfawrogi gwerth darllen, e.e. deunydd creadigol, hunangofiannol, beirniadol, theoretig, er mwyn ysgogi a chynnig enghreifftiau ar gyfer ysgrifennu creadigol
-
Cynyddu ymwybyddiaeth o botensial creadigol amryw ffynonellau, e.e. cerddoriaeth a chelfyddyd weledol, newyddiaduraeth a materion cyfoes, profiadau personol a bywyd beunyddiol
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Portffolio | 80.00 | ||
Rhagymadrodd neu ôl-ymadrodd hunanfeirniadol | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Individual Project | Astudio a chyfansoddi unigol. |
590 |
One-to-one supervision | Tiwtorialau unigol |
10 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q5AO: MA Ysgrifennu Creadigol year 1 (MA/YSGCRE)