Modiwl DXC-2001:
Datblyg Cyn: Byd-eang i Lleol
Datblygu Cynaliadwy: o'r Byd-eang i'r Lleol 2023-24
DXC-2001
2023-24
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Eifiona Thomas Lane
Overview
Bydd y modwl hwn yn edrych ar ddatblygiad cynaladwy sy'n seiliedig ar ffyrdd effeithiol o ddiogelu’r amgylchedd, defnyddio adnoddau naturiol yn ddoeth, cynnal cymunedau sefydlog a ffyniannus lle bodlonir anghenion pawb. Ystyrir hefyd y syniadau, sy’n newid ac yn peri anghytundeb, am rym, cymuned, hynodrwydd lleoliad a chynnydd cymdeithasol ynghyd â chynllunio amgylcheddol a dulliau rheoli effeithiol. Cyflwynir hefyd enghreifftiau penodol o ardaloedd daearyddol cyferbyniol lle defnyddir teclynnau i weithio tuag at gynaladwyedd, rheoli cynaladwyedd a monitro cynaladwyedd, e.e. EIA, SEA, dadansoddi cost a budd ac astudiaethau achos penodol. Er mwyn ystyried gweithgarwch economaidd strategol yng nghwmpas cynaladwyedd, edrychir yn fanwl ar y drafodaeth ddamcaniaethol mewn sawl cyd-destun, e.e. trafnidiaeth gynaliadwy, twristiaeth gynaliadwy, amaethyddiaeth gynaliadwy, dyfodol ynni. Ystyrir datblygiad y cysyniad o gynaladwyedd mewn cyflwyniad cyffredinol i boblogaeth sy’n newid a’r ddadl ynglŷn â datblygu adnoddau technolegol. Ystyrir y theorïau economaidd sy’n ymwneud â rheoli adnoddau naturiol mewn dull doeth ynghyd â’r syniad o lywodraethu datblygiad cynaladwy sy’n cynnwys cyrff rhyngwladol, e.e. TNC a grwpiau ymgyrchu. Bydd myfyrwyr yn ystyried senarios astudio achos penodol sy'n cynnwys technegau a ddefnyddir ar hyn o bryd gan ymarferwyr cynaliadwyedd lleol ac yn unigol mewn asesiad meintiol. Yn y blynyddoedd diwethaf bydd rhai o'r prosiectau hyn yn cynnwys sefydliadau cymunedol lleol i Ogledd Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyried y modd o ddarparu datblygiad cynaliadwy mewn ardaloedd gwarchodedig e.e. Mon AHNE neu Bryniau Clwydian ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy fel dull model posibl o greu ardal warchodedig gynaliadwy sy'n pwysleisio ansawdd amgylcheddol uchel ac ychwanegu gwerth a gwerthfawrogiad drwy ddefnydd integredig o dir a rheoli gweithgareddau.
Bydd y modwl hwn yn edrych ar ddatblygiad cynaladwy sy'n seiliedig ar ffyrdd effeithiol o ddiogelu’r amgylchedd, defnyddio adnoddau naturiol yn gall, cynnal cymunedau sefydlog a ffyniannus lle bodlonir anghenion pawb. Ystyrir hefyd y syniadau, sy’n newid ac yn peri anghytundeb, am rym, cymuned, hynodrwydd lleoliad a chynnydd cymdeithasol ynghyd â chynllunio amgylcheddol a dulliau rheoli effeithiol. Cyflwynir hefyd enghreifftiau penodol o ardaloedd daearyddol cyferbyniol lle defnyddir arfau i weithio tuag at gynaladwyedd, rheoli cynaladwyedd a monitro cynaladwyedd, e.e. EIA, SEA, dadansoddi cost a budd ac astudiaethau achos penodol. Bydd y modwl yn defnyddio mentrau ynni cymunedol, adfywio a thwristiaeth presennol ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol ac yn darparu sylwebaeth feirniadol ar eu heffeithiolrwydd cymharol a'u gwersi a ddysgwyd yn ymwneud â chynaliadwyedd. Er mwyn ystyried gweithgarwch economaidd strategol yng nghwmpas cynaladwyedd, edrychir yn fanwl ar y drafodaeth ddamcaniaethol mewn sawl cyd-destun, e.e. trafnidiaeth gynaliadwy, twristiaeth gynaliadwy, amaethyddiaeth gynaliadwy, dyfodol ynni. Ystyrir datblygiad y cysyniad o gynaladwyedd mewn cyflwyniad cyffredinol i boblogaeth sy’n newid a’r ddadl ynglŷn â datblygu adnoddau technolegol. Ystyrir y theorïau economaidd sy’n ymwneud â rheoli adnoddau naturiol mewn dull doeth ynghyd â’r syniad o lywodraethu datblygiad cynaladwy sy’n cynnwys cyrff rhyngwladol, e.e. TNC a grwpiau ymgyrchu. Caiff myfyrwyr gyfle i weithio gyda staff mewn timau project bach (4 ar y mwyaf) ar senarios astudiaethau achos penodol yn cynnwys technegau a ddefnyddir ar hyn o bryd gan ymarferwyr cynaladwyedd lleol. Bydd rhai o’r projectau hyn yn cynnwys cyrff cymunedol lleol
Learning Outcomes
- Datblygu’r sgiliau tîm project meddal a’r ddealltwriaeth sydd ynghlwm ag ymarfer datblygiad cynaladwy.
- Deall a phriodoli technegau ymchwil gwaith maes i wahanol sefyllfaoedd er enghraifft cynnal awdit adnoddau, ymghori prif rhanddeiliaid, deall ardrawiad dynol a data gweithredoedd eraill ynghyd a dadansoddiad tueddiadau er mwyn datblygu cynlluniau gweithredol strategol a chynaliadwy mewn ardal neu ranbarth.
- Deall gwreiddiau theori datblygiad cynaladwy
- Deall sut y gellir defnyddio gwybodaeth wyddonol a dealltwriaeth sosio-economaidd i reoli gwahanol fathau o adnoddau ar lefel cymunedol neu / ac byd-eang a lleol mewn dull doeth.
- Disgrifio amrywiaeth o ddulliau ac arfau a ddefnyddir i reoli a monitro cynaladwyedd e.e dwr.
- Gwerthfawrogi’r cyd-destunau daearyddol gwahanol ble gellir defnyddio’r syniad o ddatblygiad cynaladwy.
- Profi a chofio tystiolaeth cyflwynwyd yn y dosbarth neu ar waith maes mewn cyd-destun rheoli adnoddau yn gynaliadwy , e.e. ynni, twristiaeth, gwasanaethau eco systemau.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholilad
Weighting
40%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Mae'r asesiad yn cyfuno profi sgiliau ymarferol mewn perthynas â meddalwedd system WEAP (Water Evaluation And Planning ) ynghyd ag asesiad o ddealltwriaeth o brif gysyniadau rheoli adnoddau allweddol dwr. Mae Rhan 1 o'r aseiniad yn gofyn am dystiolaeth o fewnbynnu data a manipiwleiddio data o fewn rhaglen WEAP a hefyd deall sut mae'r meddalwedd yn gweithio trwy gynnwys sawl allbwn graffigol o'r meddalwedd. Mae Rhan 2 o'r asesiad mewn tri ateb byr o ddim mwy na 1,700 o eiriau yn rhoi prawf ar ddealltwriaeth o allbynnau'r meddalwedd a hefyd y cysyniadau holl bwysig yn ymwneud a phriodoli a rheoli adnoddau dwr.
Weighting
30%
Due date
22/02/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd
Weighting
30%
Due date
05/12/2022